Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles, wedi llongyfarch staff Bae Abertawe yn dilyn buddsoddiad o £7.7m mewn gofal i gleifion llosgiadau yn Ysbyty Treforys.
Mwynhaodd Mr Miles daith o amgylch y cyfleusterau newydd a fydd yn agor ddiwedd mis Hydref, gyda'r uwchraddiad trawiadol yn sicrhau bod Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig enwog Bae Abertawe, sydd wedi'i lleoli yn Nhreforys, â chyfarpar ar gyfer yr 21ain ganrif.
Mae ward a ddynodwyd yn flaenorol ar gyfer gofal dwys cyffredinol wedi'i hailadeiladu'n llwyr i ddarparu tri chiwbicl llosgiadau arbenigol gydag ystafelloedd cawod, ynghyd â dau giwbicl gofal dwys cyffredinol newydd.
Mae ciwbiclau llosgiadau yn ystafelloedd tra arbenigol gyda rheolaethau tymheredd llym i leihau'r risg o haint.
Mae theatr llawdriniaethau llosgiadau arbenigol hefyd wedi'i chreu gerllaw'r ward ICU newydd. Mae’r gwaith yn sicrhau bod gan Ganolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru ddigon o gapasiti erbyn hyn gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf wedi’u lleoli mewn un lle.
Mae’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn golygu bod gan y ganolfan, sy’n un o’r rhai mwyaf arwyddocaol yn Ewrop ac sy’n darparu gofal arbenigol i boblogaeth o 10 miliwn o Aberystwyth i Rydychen, yr offer a’r cyfleusterau i gadw i fyny â’r safonau gofal uchaf.
Yn y llun: Jeremy Yarrow, Cyfarwyddwr Clinigol y gwasanaeth llosgiadau, yn trafod y cyfleusterau newydd gyda Jeremy Miles.
“Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru wedi meithrin enw da fel un o wasanaethau llosgiadau mwyaf Ewrop,” meddai Mr Miles.
“Mae’n wych gweld yr uned gofal dwys newydd a gwell ar gyfer cleifion llosgiadau, a sut y bydd ein buddsoddiad yn cefnogi’r ganolfan ragoriaeth hon i barhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel a’r canlyniadau gorau i gleifion a staff.
“Bydd y cyfleusterau a’r dechnoleg ddiweddaraf hyn yn golygu y bydd pobl yn derbyn y gofal brys gorau, yn ddiogel ac yn gyflym, a allai achub eu bywydau.”
Dechreuodd gwaith ar y prosiect ym mis Ionawr ac fe'i gwnaed i leihau'r effaith ar gleifion a staff ysbytai.
Ar hyn o bryd mae'r ganolfan yn darparu gofal arbenigol i fwy na 1,000 o bobl y flwyddyn - tua hanner ohonynt yn blant - gan gynnwys cleifion â'r llosgiadau mwyaf difrifol. Yn y cyfamser mae mwy na 6,500 o bobl sydd angen llawdriniaeth blastig, yn aml yn dilyn trawma, haint a chanser, yn cael eu trin yn y ganolfan bob blwyddyn.
Mae staff Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn naturiol wrth eu bodd y byddant yn gallu dechrau trin cleifion yn fuan yn y cyfleuster manyleb uchel newydd.
“Rydym yn hynod ddiolchgar am y dyraniad cyllid hwn a hebddo ni fyddem yn gallu cynnal canolfan losgiadau mawr ym Mae Abertawe,” meddai Jeremy Yarrow, Cyfarwyddwr Clinigol y gwasanaeth llosgiadau.
“Mae ein canolfan yn darparu gofal llosgiadau mawr i boblogaeth enfawr ledled Cymru a de-orllewin Lloegr ac rydym yn derbyn cleifion yn rheolaidd o bob rhan o’r DU.
“Mae’r cyllid, os rhywbeth, wedi mynd y tu hwnt i’r hyn y gallem fod wedi gobeithio amdano. Mae’n sicrhau bod gennym gyfleusterau’r 21ain ganrif a byddwn yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau canolfan losgiadau mawr ymhell i’r dyfodol.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.