Mae myfyrwyr Safon Uwch ym Mae Abertawe yn cael cyfle unigryw i archwilio gyrfa mewn meddygaeth.
Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer ein Rhaglen Arsylwi Gwaith sydd yn ôl yn dilyn toriad gorfodol oherwydd y pandemig.
Bydd myfyrwyr llwyddiannus, sy'n byw yn Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot, yn gallu arsylwi clinigwyr yn ymarfer ar draws ein tri phrif ysbyty yr haf hwn.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener, 3ydd Mawrth, 2023.
Dywedodd yr Athro Cyswllt Balwinder Bajaj, Meddyg Cardiolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Singleton: “Yn ystod yr haf bob blwyddyn, mae’r timau addysg feddygol yn trefnu Rhaglen Arsylwi Gwaith yn ysbytai Singleton, Castell-nedd Port Talbot a Threforys ar gyfer myfyrwyr sydd wedi dangos diddordeb brwd mewn astudio meddygaeth.
“Mae’r rhaglen hon wedi’i gohirio oherwydd y pandemig, ond rydym yn ailgyflwyno’r cyfle hwn.
“Mae’r tîm yn cysylltu ag ysgolion a cholegau lleol yn nalgylch Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i gynnig y cyfle gwych hwn i fyfyrwyr.”
Y gofynion i wneud cais am y rhaglen yw:
• Rhaid i ymgeiswyr fod yn byw o fewn ardal Abertawe/Castell-nedd Port Talbot
• Bod yn 16+ ac yn derbyn eu canlyniadau TGAU llawn
• Os o dan 18 oed rhaid i diwtor neu athro o'u hysgol neu goleg allu darparu geirda cymorth
Dywedodd Dr Bajaj: “Mae’r rhaglen yn gyfle diwrnod neu ddau i fyfyrwyr arsylwi clinigwyr wrth ymarfer. Gallai rhai o’r arsylwadau gynnwys rowndiau ward, clinigau, cysgodi meddyg iau, neu dreulio amser yn un o’n labordai sgiliau clinigol.
“Oherwydd y galw mawr mewn niferoedd, gyda dim ond nifer cyfyngedig o leoedd ar gael, pan fydd myfyrwyr llawn eu capasiti yn cael eu rhoi ar restr wrth gefn a lle bo’n bosibl yn cael cynnig lleoliad ar adeg pan nad oes myfyrwyr meddygol.”
Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â: SBU.clinicalworkobservation@wales.nhs.uk
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.