Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) wedi derbyn pedwar enwebiad am wobr genedlaethol i dimau neu unigolion sy'n gwneud gwaith eithriadol yn ystod argyfwng COVID-19.
Mae ein Tîm Iaith a Lleferydd, ein Gwasanaeth Lles Staff, ein Gwasanaeth Cadarnhau Marwolaethau, ynghyd â’n Therapydd Iaith a Lleferydd arbenigol, Maria Hopkins, i gyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer yr adran ‘Edmygedd’ yng Ngwobrau Hybu Gofal Iechyd.
Bydd y seremoni wobrwyo, a sefydlwyd i gydnabod ac i ddathlu gwaith gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gwyddonwyr gofal iechyd, fferyllwyr a'r rhai sy'n gweithio law yn llaw â nhw mewn rolau cefnogi, yn cael ei chynnal ddydd Gwener 16 Hydref yng ngwesty Victoria Park Plaza yn Llundain.
Mae’r gwobrau Edmygedd wedi’u hychwanegu fel rhan o’r Gwobrau Hybu Gofal Iechyd i dynnu sylw at gyfraniad eithriadol unigolion a thimau yn ystod argyfwng COVID-19.
Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol, Tracy Myhill: "Mae hyn yn newyddion gwych i bawb a hefyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn ei gyfanrwydd, sy'n rhoi proffil mor gadarnhaol i bob un ohonom ar lwyfan y DU gyfan.
Mae dewrder, ymrwymiad ac ymroddiad pawb sydd wedi camu i'r plât dros y misoedd diwethaf i gwrdd â her COVID-19 wedi mynd yn drech na fi. A fyddech cystal â gwybod nad yw eich ymdrechion wedi mynd yn ddisylw.
Rwy'n dymuno'n dda i'n pedwar enwebai yn y seremoni yn yr Hydref, er eu bod eisoes ar eu hennill yn eu hawl eu hunain. "
Meddai Emma Woollett, Cadeirydd BIPBA: "Mae hyn yn newyddion gwych. Llongyfarchiadau a phob lwc i bob un o’r enwebion. "
Wrth siarad ar ran y Gwasanaeth Lles Staff, dywedodd Jan Burke, Therapydd Galwedigaethol Ymchwil:
"Mae tîm craidd y gwasanaeth yn cynnwys therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, cwnselwyr a chymorth gweinyddol. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, maent wedi gweithio gyda thîm estynedig o seicolegwyr a hyfforddwyr i ddarparu cymorth estynedig allweddol i gydweithwyr byrddau iechyd i'w helpu i ddod drwy'r argyfwng hwn.
"Mae'r gwasanaeth wedi cael ei ad-drefnu a'i ymestyn yn gyflym er mwyn rhedeg o 7yb i 9yh, 7 diwrnod yr wythnos ac mae bellach yn cynnig amrywiol fathau o gymorth gan gynnwys sesiynau therapi ffôn unigol, gwaith grŵp o bell, adnoddau ar-lein, gwaith cyfeirio, ymyriadau wyneb yn wyneb ar y wardiau ac mewn adrannau, lledaenu gwybodaeth yn rheolaidd a rhoi anogaeth drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
"Gall unigolion neu dimau dderbyn eu cefnogaeth, ac mae cymorth ychwanegol ar gael i reolwyr i ddiogelu lles eu staff."
Dywedodd Paul Dunning, Pennaeth Proffesiynol Iechyd a Lles Staff: "Rydyn ni'n falch iawn ein bod wedi cael ein cydnabod gan y gwobrau cenedlaethol am waith y tîm yn cefnogi lles y staff yn ystod pandemig COVID-19."
Wrth siarad am y Tîm Therapi Iaith a Lleferydd Pediatrig, dywedodd Sue Koziel, Arweinydd y Gwasanaeth Iaith a Lleferydd Pediatrig: "Roedden ni’n falch iawn i enwebu Gemma Roblin, Emily Gough, Bobby Lane a Stephanie, sef ein therapyddion iaith a lleferydd pediatrig sydd wedi eu hadleoli i Ysbyty Cymunedol Gorseinon.
"Nhw oedd y cyntaf i wirfoddoli ar ôl cael hyfforddiant sylfaenol mewn cynorthwyo gofal iechyd, ac roeddent yn bendant ar y rheng flaen yn cefnogi gofal nyrsio. Cawsom adborth rheolaidd eu bod yn gaffaeliad ac yn gweithio'n dda iawn gyda'r tîm cyfan yno. Yr oedd yn braf clywed y gwerthfawrogiad a fynegwyd gan y Metrons ar y ward am eu hymroddiad, eu hyblygrwydd a'u proffesiynoldeb mewn cyfnod anodd iawn ar y ward.
"Fe wnaethon nhw ddangos ein gwerthoedd yn glir. Pe bydden ni’n wynebu pwysau tebyg eto rydym yn hyderus y gallent gefnogi nid yn unig gwaith y wardiau ond hefyd aelodau eraill y tîm gyda'u sgiliau a'u profiad. Maen nhw wedi'u harfogi i ymateb yn gyflym."
Enwebwyd Maria Hopkins, sy'n Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol, fel unigolyn gan Christine Griffiths, Pennaeth yr Uwch Dîm Arwain, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, a ddywedodd: "Mae'r pandemig wedi golygu bod yn rhaid i lawer o oedolion ag anableddau dysgu gael eu hamddiffyn yn eu cartrefi ac roedd angen i ni addasu rhai o'n harferion gweithio ar frys er mwyn ymateb i’r angen a’r risg.
"Bu Maria yn llywio cynllun telaymarfer newydd ar gyfer yr adran drwy gynnal adolygiad cynhwysfawr o arfer ac ymchwil yn y maes hwn, ynghyd â thrwy ddatblygu gweithdrefnau safonol, cyd-gynhyrchu lle y bu'n ymarferol, gwerthuso’r ddarpariaeth, casglu adborth parhaus, a threfnu system casglu data a ffurflenni caniatâd hygyrch.
"Byddai hon yn fenter a fyddai fel arfer yn cael ei hystyried fel datblygiad i’r dyfodol, ond mae Maria wedi gallu cynhyrchu'r gwaith hwn yn gyflym ac mewn ffordd gadarn. Mae’r cynllun eisoes yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl ag anableddau dysgu, i ofalwyr ac i therapyddion lleferydd ac iaith a bydd gwerthusiadau cadarn yn arwain y ffordd ar gyfer unrhyw newidiadau tymor hir posibl i’r arferion gwaith."
Dywedodd Maria: "Mae'n anrhydedd cael bod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon ynghyd â chynifer o ymgeiswyr rhagorol eraill. Ledled y wlad, gwelwyd cryn arloesedd yn wyneb cyfnod mor heriol. Mae’n gymaint o bleser gallu dathlu drwy fod yn rhan o wobr fel hon. Gyda chefnogaeth fy Adran Therapi Lleferydd ac Iaith, rydw i wrth fy modd yn cael fy enwebu ar gyfer menter a fydd yn gallu parhau i roi canlyniadau cadarnhaol i oedolion ag anableddau dysgu nawr ac yn y dyfodol."
Gwnaed y pedwerydd enwebiad, sef Gwasanaeth Cadarnhau Marwolaethau BIPBA, gan Christine Morrell, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Therapïau a Gwyddor Iechyd.
Dywedodd: "Gan ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau sy'n bodoli eisoes ym meysydd cydgynhyrchu, llythrennedd iechyd a chefnogi hunanreolaeth, mae'r tîm yn rhoi cymorth emosiynol amhrisiadwy i'r rhai sy'n cael eu heffeithio. Mae'r rhai sy'n profi profedigaeth yn cael cynnig atgyfeiriad ar unwaith i Wasanaeth Profedigaeth y Bwrdd - sy’n cael ei arwain gan seicolegwyr a chaplaniaeth y Bwrdd - er mwyn cael eu hystyried o fewn 48 awr.
"Mae'r rhan fwyaf o ymweliadau’r Gwasanaeth Cadarnhau Marwolaethau’n ymweliadau â chartrefi gofal ac mae hyn yn darparu cymorth lle a phryd mae ei angen fwyaf."
Dywedodd David Hughes, Arweinydd Gofal Sylfaenol a Chymunedol ar gyfer Gofal ar ôl Marwolaeth: "Mae'r enwebiad yma wedi golygu cymaint i'r tîm fel cydnabyddiaeth a diolch am eu dewrder, eu tosturi a'u hargyhoeddiad i wella'r gofal ar ôl marwolaeth, a hynny’n ofal ar gyfer yr ymadawedig yn ogystal ag ar gyfer y rhai sy’n cael profedigaeth ledled BIPBA.
"Drwy gydol y pandemig, mae Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd wedi gadael eu rolau proffesiynol arferol, gan gydweithio fel un tîm i ddarparu gwasanaeth 24/7 ardderchog ac unigryw yn ein cymuned.
"Mae'r tîm wedi lleihau nifer yr achosion o oedi wrth wirio, ardystio a chofrestru marwolaethau o COVID-19, tra'n rhoi cymorth emosiynol hefyd i'r rhai fu’n agos at yr ymadawedig.
"Mae effaith gronnol marwolaethau ychwanegol yn y gymuned wedi rhoi baich digyffelyb ar wasanaethau rheng flaen gan gynnwys meddygon teulu, nyrsys cymunedol, parafeddygon, staff cartrefi gofal a chyfarwyddwyr angladdau. Mae'r tîm wedi gweithio'n agos ac yn empathig â'r gwasanaethau hyn er mwyn sicrhau bod ganddynt y cymorth sydd ei angen arnynt."
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.