Ymddiheurwn yn ddiffuant i'r tri chlaf yr oedd eu llawdriniaeth orthopedig wedi'i gohirio oherwydd methiannau yn y ffordd y rheolwyd eu hapwyntiadau.
Rydym wedi derbyn argymhellion yr Ombwdsmon yn llawn a byddant yn cael eu gweithredu dros yr ychydig wythnosau nesaf.
Gallwn gadarnhau bod y tri chlaf bellach wedi cael eu llawdriniaethau.
Rydym yn gwirio ein rhestrau aros orthopedig i sicrhau nad oes unrhyw achosion tebyg eraill, ac os oes, byddwn unwaith eto yn cyflymu eu gofal ar fyrder.
Ynghyd â chraffu ar ein rhestrau aros orthopedig, mae hyfforddiant staff ychwanegol ar waith i sicrhau bod rheolau amser atgyfeirio am driniaeth yn cael eu dilyn.
Mae ein gwasanaethau orthopedig dan bwysau aruthrol, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd i’r afael â rhestrau aros, gan gynnwys lansio’r ganolfan theatr orthopedig newydd yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot saith mis yn ôl.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'r cleifion orthopedig sydd wedi aros hiraf wedi cael pryderon iechyd eraill hefyd, felly roedd angen eu llawdriniaeth yn Ysbyty Treforys. Yn hollbwysig, rydym bellach wedi ailsefydlu 10 gwely wedi’u neilltuo yn Nhreforys ar gyfer y grŵp hwn o gleifion ag anghenion iechyd cymhleth.
Mae'r cam gweithredu hwn, ynghyd â'r theatrau orthopedig newydd yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, yn golygu bod yr amseroedd aros hiraf yn dod i lawr yn awr.
Rhagwelwn erbyn diwedd mis Mawrth na fydd unrhyw gleifion yn aros dros dair blynedd am eu llawdriniaeth, gyda’r mwyafrif o gleifion orthopedig nad oes ganddynt anghenion iechyd ychwanegol yn cael eu gweld yn gynt.
Mae cleifion sy'n aros am lawdriniaeth arthroplasti hefyd bellach yn gallu cael mynediad at raglen ymarfer corff a ffordd o fyw cyn llawdriniaeth, i sicrhau eu bod yn gallu optimeiddio eu hiechyd cyn llawdriniaeth. Mae hyn yn golygu eu bod yn llawer llai tebygol o gael llawdriniaeth wedi'i chynllunio wedi'i gohirio oherwydd mater iechyd y mae angen mynd i'r afael ag ef yn gyntaf - ee pwysedd gwaed uchel - ac mae hefyd yn cefnogi adferiad da ar ôl llawdriniaeth.
I ddarllen y tri Adroddiad Ombwdsmon, dilynwch y ddolen hon i wefan Ombwdsmon Cymru.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.