Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb i adroddiad AGIC - 31ain Gorffennaf 2024

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i wella ein gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn barhaus, ac mae’r adroddiad diweddaraf hwn gan AGIC yn cydnabod y “gwelliannau sylweddol” a wnaed eisoes, yn enwedig o ran staffio ac arweinyddiaeth gwasanaethau.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud o hyd, ac rydym yn cymryd camau cadarn i gwblhau'r holl argymhellion sy'n weddill.

Mae'r adroddiad llawn yn rhoi manylion helaeth am y gwelliannau a wnaed, yn ogystal â'n cynllun gweithredu, ac rydym yn annog pawb sydd â diddordeb i'w ddarllen.

Mae adroddiad AGIC a gyhoeddwyd heddiw yn dilyn rhyddhau’r data MBRRACE mwyaf diweddar ar gyfer y DU gyfan yn ddiweddar. Mae’r data hwn, sy’n agored i’r cyhoedd, yn dangos bod ein cyfradd marwolaethau mamolaeth a newyddenedigol yn is na gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol tebyg mewn mannau eraill yn y DU.

Dilynwch y ddolen hon i wefan MBRRACE-UK i weld y data marwolaethau amenedigol.

Dilynwch y ddolen hon i adroddiad AGIC ar yr uned famolaeth yn Ysbyty Singleton, mewn fformat PDF.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.