Ar ôl recriwtio dros 500 o nyrsys tramor o 20 gwlad yn y pedair blynedd diwethaf, mae Bae Abertawe yn ymfalchïo yn y ffaith bod ganddo weithlu amrywiol ac amlddiwylliannol.
Mae dyfodiad 505 o staff rhyngwladol ers mis Ionawr 2020 wedi helpu i lenwi’r bwlch o nyrsys Band 5 – mater a deimlwyd ledled y DU.
Er bod y bwrdd iechyd yn annog gweithwyr cymorth gofal iechyd i uwchsgilio ac ehangu eu rolau, mae recriwtio nyrsys o dramor wedi bod yn rhan allweddol o recriwtio a chadw. Mae mwyafrif y nyrsys wedi mynd i leoliadau gofal aciwt yn ysbytai Singleton, Treforys a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae'r staff tramor yn dod â chyfoeth o wybodaeth, arbenigedd a diwylliant ac yn ategu'r staff sydd gennym eisoes.
Mae'r rhestr o wledydd y mae nyrsys wedi'u recriwtio ohonynt yn cynnwys: Jamaica; Zimbabwe; Sant Vincent; Barbados; Pilipinas; Cenia; Nigeria; India; Pacistan; Ghana; Trinidad a Tobago; Nepal; Camerŵn; Dominica; Sri Lanka; Awstralia; Botswana; St Lucia; Lesotho, Eswatini ac Gambia.
YN Y LLUN: Map yn dangos y gwledydd y mae nyrsys tramor Bae Abertawe wedi dod ohonynt ers Ionawr 2020.
Mae disgwyl i fwy o nyrsys gyrraedd yn fuan o Grenada, Bahamas, De Affrica, Namibia a Malawi.
Mae Daisy Nwosu ymhlith y nyrsys sydd wedi cyfnewid eu mamwlad am Fae Abertawe.
Cyrhaeddodd Daisy o Nigeria ym mis Hydref 2023 a chafodd hyfforddiant cyn sefyll arholiad Archwiliad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE) yn Rhydychen i ddod yn nyrs gofrestredig yn y DU.
Tra bod ei theulu yn dal yn Nigeria ar hyn o bryd, mae Daisy wedi ymgartrefu'n ddi-dor yn ei chartref newydd yn Abertawe a'i rôl yn yr Uned Gofal Dwys.
Dywedodd Daisy, 34: “Symudais i Fae Abertawe oherwydd roeddwn i eisiau cyfle i weithio mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Clywais am enw da rhagorol y bwrdd iechyd ac roeddwn yn awyddus i gyfrannu at ei genhadaeth o ddarparu gwasanaethau gofal iechyd rhagorol.
“Mae addasu i fywyd yn Abertawe wedi bod yn brofiad gwerth chweil i mi. Ar lefel bersonol, rwyf wedi ffeindio bod y ddinas yn groesawgar ac yn llawn wynebau cyfeillgar. Mae harddwch naturiol yr ardal, gyda’i harfordir syfrdanol a’i thirweddau golygfaol, yn gyflym wedi dod yn un o fy hoff agweddau o fyw yn Abertawe.
"Yn broffesiynol, rwy'n teimlo'n ffodus i fod yn rhan o fwrdd iechyd sy'n gwerthfawrogi ei staff ac yn hyrwyddo diwylliant o gynwysoldeb a chefnogaeth. Maent wedi bod yn gefnogol ac yn galonogol iawn, ac wedi rhoi'r holl gefnogaeth yr oedd ei hangen arnom ar gyfer yr OSCE. Roedd gennym athrawon rhagorol a wnaeth yn siŵr ein bod ni i gyd yn cyrraedd y brig a gwneud popeth posibl i roi’r gefnogaeth orau i ni.
“Mae fy nghydweithwyr wedi bod yn hynod groesawgar, gan fy helpu i setlo yn fy rôl newydd a gwneud i mi deimlo’n gartrefol. Rwy’n teimlo’n freintiedig i fod yn rhan o dîm mor ymroddedig, ac rwy’n gyffrous am y cyfleoedd sydd o’m blaen.”
Mae'r Pennaeth Addysg a Recriwtio Nyrsio Lynne Jones wedi bod yn ganolog i ddenu nyrsys tramor i'r bwrdd iechyd.
YN Y LLUN: Gadawodd Daisy Nwosu Nigeria ym mis Hydref i fyw a gweithio ym Mae Abertawe.
Mae hi wedi bod yn nyrs ers 40 mlynedd a threuliodd yr 21 mlynedd diwethaf mewn addysg nyrsio a rolau recriwtio. Mae'n ymrwymiad sydd wedi gweld Ystafell Hyfforddiant Addysg Nyrsio bwrpasol ym Mhencadlys Baglan y bwrdd iechyd yn cael ei henwi ar ei hôl.
Dywedodd Lynne: “Mae recriwtio ein nyrsys tramor wedi bod yn hollbwysig wrth lenwi rôl band 5, sydd wedi bod yn broblem ar draws gofal iechyd ledled y DU.
“Rydym wedi gorfod bod yn rhagweithiol iawn wrth lenwi'r rolau hyn. Cyflogwyd dros 100 o nyrsys yn ystod ymgyrch recriwtio gyntaf erioed yn India, tra bod ein tîm wedi gwneud gwaith rhagorol yn sicrhau eu bod yn cyrraedd yn ddiogel, yn pasio'r hyfforddiant gofynnol ac yn ymgartrefu yn eu rolau newydd.
“Mae wedi helpu i gau’r bwlch hwnnw yn y maes hwnnw o arbenigedd, ac rydym yn falch iawn o weld y staff yn setlo ac yn ystyried Bae Abertawe fel eu cartref. Mae ein nyrsys rhyngwladol bellach yn rhan werthfawr iawn o’n timau nyrsio.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.