Bydd uned profi Coronafeirws ar gyfer staff gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei datblygu yn Stadiwm Liberty Abertawe.
Disgwylir i'r gwaith ar yr uned gyrru drwodd, yr ail yn ardal Bae Abertawe, ddechrau ddydd Mercher nesaf (Mai 6 ed ) a dylid ei orffen ddeuddydd yn ddiweddarach.
Bydd y cyfleuster chwe lôn yn ategu'r uned brofi ym Margam ym Mhort Talbot, a agorodd ddechrau mis Mawrth.
Gellir profi tua 120 o bobl y dydd yn uned Margam, tra bydd y Liberty yn gallu profi hyd at 360 o bobl ychwanegol bob dydd.
Mae'n enghraifft arall eto o bartneriaeth wych yn gweithio yn yr amseroedd anodd hyn, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyngor Abertawe ac AFC Dinas Abertawe yn ymuno yn y Liberty.
Bydd cael ail gyfleuster profi yn caniatáu mynediad haws i staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n byw yn ardal Abertawe.
Mae hefyd yn darparu opsiwn ar gyfer cynyddu capasiti os oes angen hynny yn unol â chynllun profi Cymru gyfan.
Bydd uned brofi Liberty ym maes parcio VIP a bydd ganddo fynedfa bwrpasol ei hun ar gyfer cerbydau. Ni fydd ardaloedd parcio ceir eraill o amgylch Stadiwm Liberty yn cael eu heffeithio.
Sylwch fod hyn ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol a fydd yn mynychu trwy apwyntiad yn unig. Nid yw ar gyfer y cyhoedd.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.