Bydd cardiolegydd o Fae Abertawe sydd wedi helpu i drawsnewid ei wasanaeth yn wasanaeth sy’n gweithredu’n llyfn, yn gwneud araith gyweirnod i sefydliad a ddechreuodd yn y diwydiant ceir.
Bydd yr Athro David Smith, uwch gardiolegydd ymgynghorol yn Ysbyty Treforys, yn gwneud araith yn Uwchgynhadledd Lean y DU yn Lerpwl yn ddiweddarach y mis hwn ar ôl torri amseroedd aros ar gyfer ei gleifion.
Mae’r uwchgynhadledd yn cael ei chynnal gan Academi Menter Lean, sefydliad byd-eang a ddechreuodd drwy edrych ar wella cynhyrchiant o fewn creu ceir ar ddechrau’r 1980au. Yna ymledodd ar draws y byd a thu hwnt i'r diwydiant, i sectorau fel adeiladu, gofal iechyd, a llywodraeth leol.
Dywedodd yr Athro Smith (yn y llun), sy’n arbenigo mewn ailosod falfiau’r galon trwy lawdriniaeth twll clo: “Maen nhw’n edrych ar ystod o wahanol ddiwydiannau a chwmnïau ac yn ceisio gweld lle gellir gwneud gwelliannau mewn cynhyrchiant ac effeithlonrwydd.
“Fe wnes i gysylltu â nhw ar ddechrau 2019. Bryd hynny roedden ni’n cydnabod ein bod ni wedi gorfod aros yn hir, bod pobl yn dod i’r ysbyty ar sawl achlysur gwahanol a bod eu llwybr gofal yn rhy hir. Roedd hynny’n rhywbeth yr oedden ni eisiau ei newid.
“Eisteddais i lawr gydag un o’r hyfforddwyr Lean a gwnaethon ni fapio’r llwybr a oedd yn bodoli i gleifion. Mewn geiriau eraill, faint o ymweliadau, i ble roedden nhw'n mynd, pa mor hir roedden nhw'n aros, a ble roedd y rhwystrau ffordd yn eu gofal.
“Yna fe wnaethon ni edrych ar ailgynllunio, nid yn unig y driniaeth ond y llwybr gofal cyffredinol. Fe wnaetho ni ofyn cwestiynau fel, pan fyddan nhw’n dod i'n gweld ni gyntaf, faint o brofion sydd eu hangen arnyn nhw? Pa mor hir wnaethon nhw aros rhwng profion?
“Fe wnaethon ni ailgynllunio’r llwybr i’w wneud yn llawer byrrach gyda’r nod o’i wneud yn well ar gyfer canlyniadau cleifion.
“Rwy’n edrych yn ôl nawr ac yn meddwl pam na wnaethon ni hyn ynghynt?”
Yr hyn sy'n hanfodol i'r newidiadau a gyflwynwyd oedd lleihau nifer yr ymweliadau ag ysbytai y gofynnwyd i glaf eu gwneud.
Dywedodd yr Athro Smith: “Fe wnaethon ni wneud i'r cleifion ddod i’r ysbyty yn llai aml i gael eu hadolygu drwy ddatblygu clinig ar y cyd lle maen nhw’n cwrdd â’u cardiolegydd, sef yr hyn rydw i'n ei wneud, a’r llawfeddyg cardiaidd sy’n cynnig y driniaeth amgen, sef llawdriniaeth agored ar y galon. Yn lle cael dau apwyntiad ar wahân, dim ond yr un sydd ganddyn nhw nawr.
“Rydyn ni hefyd wedi symleiddio nifer y profion sydd eu hangen ar bobl cyn iddyn nhw gael falf y galon newydd, gan eu lleihau i’r rhai sy’n gwbl hanfodol.”
Fel sawl gwasanaeth arall ym Mae Abertawe, roedd y pandemig yn anfwriadol wedi rhoi cyfle i’r Athro Smith a’i dîm ailstrwythuro eu dull cyfan.
Meddai: “Rwy’n meddwl bod Covid yn ôl pob sôn wedi galluogi pob un ohonon ni - boed yn broffesiynol neu’n gymdeithasol - i edrych yn fwy beirniadol arnon ni ein hunain a’r pethau rodden ni’n eu gwneud. Pan fyddwch chi'n brysur dydych chi ddim yn dueddol o gael yr amser hwnnw i fyfyrio ar yr hyn rydych chi'n ei wneud a pha mor llwyddiannus ydyw.
“Yn ystod y pandemig bu’n rhaid i ni leihau ymweliadau cleifion ag ysbytai a chyswllt cleifion yn yr ysbyty, a hefyd hyd eu harhosiad yn yr ysbyty pan oedd angen iddyn nhw fod yno.
“Yn hynny o beth mae Covid wedi bod yn ‘gynghreiriad’. Mae wedi ein helpu i edrych yn gyflym iawn ac yn feirniadol ar yr hyn sy’n hanfodol, beth sydd ddim yn hanfodol, a sut y gallwn symleiddio llwybrau hyd yn oed ymhellach.”
Daeth maint llwyddiant y tîm i sylw Academi Menter Lean a gofynnwyd i'r Athro Smith annerch yr uwchgynhadledd ar 17eg Ebrill.
Dywedodd: “Gofynnwyd i mi fynd oherwydd ein bod ni wedi dangos gwelliant sylweddol yn ein hamseroldeb triniaeth i'r pwynt lle'r oedd ein hamseroedd aros y llynedd dim ond ychydig dros wyth wythnos o atgyfeirio i driniaeth.
“Mae hwn ymhlith y gorau yn y DU. Yn flaenorol, ar ddechrau 2019, roedd ein cleifion wedi bod yn aros hyd at flwyddyn.
“Ar yr un pryd, rydyn ni wedi gallu dyblu ein cyfaint, sydd yn nhermau busnes, i ddyblu eich allbwn a haneru’r amser i greu eich cynnyrch terfynol, yn eithaf trawiadol. Dyna pam rydw i wedi cael gwahoddiad i siarad.”
Mae'r Athro Smith hefyd wedi derbyn gwahoddiad i rannu cyfrinach ei lwyddiant gyda'i gyd-gardiolegwyr.
Dywedodd: “Gofynnwyd i mi hefyd rannu’r hyn rydym wedi’i wneud yng nghyfarfod Cydweithredol Meincnodi Cardiaidd Cenedlaethol, sef cynhadledd gardiaidd ledled y DU ar gyflenwi gofal iechyd, yn Llundain y mis hwn.”
Er gwaethaf y gydnabyddiaeth gynyddol, mae'r Athro Smith yn awyddus i bwysleisio nad yw wedi cyflawni canlyniadau mor wych trwy weithio ar ei ben ei hun.
Dywedodd: “Mae hon yn ymdrech tîm. Mae’r tîm cyfan rydw i’n gweithio gyda nhw, sy’n cynnwys meddygon, nyrsys, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol, ein tîm rheoli yn y gyfarwyddiaeth – mae pawb wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu’r hyn sy’n allbwn tîm.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.