Mae tîm o staff Ysbyty Treforys wedi mynd chwe milltir ychwanegol i nodi pen-blwydd arbennig ei bartneriaeth â gwirfoddolwyr dwy olwyn.
Pan sylweddolodd staff Meddygaeth Labordy eu bod wedi bod yn cydweithio â Beiciau Gwaed Cymru ers degawd fe benderfynon nhw gerdded milltir ar gyfer pob blwyddyn o’r bartneriaeth i godi arian i’r elusen fel diolch.
Yn anffodus fe wnaeth y tîm, oedd yn targedu dringo Pen y Fan, gymryd tro anghywir a cherdded 16 milltir yn hytrach na'r 10 a gynlluniwyd!
Er gwaethaf y gwall llywio maent ar y trywydd iawn i godi mwy na £1,500 ar gyfer y beicwyr gwirfoddol sy'n codi ac yn dosbarthu samplau gwaed hanfodol, gan alluogi'r labordy prysur i barhau i weithredu y tu allan i oriau ac ar benwythnosau.
Trosglwyddwyd y siec mewn pryd ar gyfer Wythnos Gwirfoddolwyr eleni (1-7 Mehefin) - sy'n dathlu cyfraniad mae miliynau o bobl yn gweneud dros y DU drwy wirfoddoli yn eu cymunedau.
Dywedodd Elizabeth Berry, gwyddonydd biofeddygol yn Nhreforys: “Mae’r Beiciau Gwaed wedi bod yn gweithio gyda’r tîm Meddygaeth Labordy yn Ysbyty Treforys ers 10 mlynedd bellach felly roedden ni wir eisiau gwneud rhywbeth i ddathlu hynny.
“Cawsom y syniad o daith gerdded noddedig ar hyd llwybr pedol o amgylch Pen y Fan a oedd yn 10 milltir hir – milltir ar gyfer pob blwyddyn.
“Ar y diwrnod fe wnaethon ni gymryd tro anghywir yn rhywle a cherdded 16 milltir a mynydd ychwanegol!
“Serch hynny roedd yn wych. Cafodd pawb ddiwrnod da iawn a dweud cymaint faint gwnaethon nhw fwynhau.”
Esboniodd Elizabeth y rôl mae’r beicwyr gwaed yn ei chyflawni pan nad yw gyrwyr bwrdd iechyd ar gael.
Meddai: “Maen nhw’n darparu gwasanaeth hanfodol.
“Yn ystod yr wythnos mae gennym ni ein gyrwyr ein hunain sy’n gwneud rhediadau fesul awr drwy’r dydd ond os oes achos brys gall y beicwyr gwaed ddod â nhw i fyny’n gyflymach.
“Maen nhw hefyd yn cludo pob sampl i ni ar benwythnos. Er enghraifft, os oedd prawf nad ydym yn ei wneud ar benwythnos yn Nhreforys, ond eu bod yn ei wneud yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rydym yn ffonio'r Beiciau Gwaed a byddant yn cymryd y samplau i ni.
“Mae hefyd yn gweithio’r ffordd arall, gan fod gennym ni’r prif labordy, a byddan nhw’n dod â samplau o’n hysbytai eraill.
“Rydw i wedi bod yma ers 10 mlynedd - felly fe ddechreuon nhw pan ddechreuais i - ond dwi'n gwybod ein bod ni'n arfer gwario llawer o arian ar dacsis cyn iddyn nhw ddod draw.
“Maen nhw i gyd yn wirfoddol ac yn help mawr i ni. Felly i ni godi ychydig o arian i helpu yw’r peth lleiaf y gallwn ei wneud.”
Dywedodd Peter Saro, sydd hefyd yn wyddonydd biofeddygol, ei bod wedi cymryd tua 9 awr i'r barti o 20 gwblhau'r daith gerdded.
Meddai: “Roedd yn brofiad braf gweld y cefn gwlad hardd. Roedd yn ddiwrnod braf o ystyried y tywydd felly cawsom weld golygfeydd hyfryd.”
Roedd o mor ganmoliaethus i'r beicwyr gwaed hefyd.
Dywedodd: “Unrhyw bryd rydych chi eu hangen nhw ar ôl 5 o’r gloch ar Ddydd Gwener tan ganol nos Dydd Sul, maen nhw yma i ni. Byddant yn cymryd unrhyw sampl sydd gennym i unrhyw ysbyty.
“Maen nhw'n gwneud gwaith gwych felly os gallwn ni wneud rhywbeth bach fel hyn yna mae'r cyfan yn dda.
“Mae’n costio £500 y penwythnos am dri beic. Ar hyn o bryd rydym wedi codi ychydig dros £1,500.”
Dywedodd y beiciwr gwaed David Scourfield: “Rydyn ni’n mynd i ble bynnag y mae ein hangen ni o fewn ardal orllewinol y GIG, gan godi samplau, gwaed, weithiau pethau swyddfa, unrhyw beth a phopeth mewn gwirionedd.”
Wrth ymateb i'r rhodd garedig, dywedodd: “Rydym wedi gwirioni ar yr ystum. Heb y rhoddion caredig hyn byddem yn cael trafferth.”
Wedodd ei gyd-feiciwr gwaed Trevor Richards: “Mae'n hollol wych. Hebddyn nhw ni fyddai'r beiciau'n rhedeg. Rydyn ni’n dibynnu ar y bobl hyn i gadw’r beiciau i fynd er mwyn i ni allu gwneud y gwaith i’r GIG a’r bobl sydd ei angen.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.