Mae Steve Spill wedi'i benodi'n Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) a bydd yn dechrau ar y swydd yn ffurfiol ar 17 Ionawr.
Ymunodd Steve â BIPBA i ddechrau fel Cynghorydd Arbennig i'r Bwrdd (Perfformiad a Chyllid) ym mis Mai 2020.
Mae Steve yn gyfrifydd cymwysedig ac mae ganddo brofiad helaeth fel archwilydd ac ymgynghorydd busnes. Yn 2000 ymunodd Steve â KPMG fel Prif Swyddog Gweithredol gweithrediadau'r cwmni yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop, sef rôl a oedd yn cwmpasu Cyllid, Adnoddau Dynol, Technoleg Gwybodaeth, Marchnata a Chyfathrebu, Rheoli Risg a Datblygu Busnes.
Yn ystod ei gyfnod yn gweithio dramor, roedd gan Steve le o hyd yn Ne Cymru ac mae bellach wedi dychwelyd yma’n llawn amser, gan ddilyn gyrfa anweithredol sy’n canolbwyntio ar sefydliadau ac iddynt bwrpas cymdeithasol. Yn ychwanegol at ei waith gyda BIPBA, mae rolau Steve fel Cyfarwyddwr Anweithredol yn cynnwys dau grŵp tai cymdeithasol, sef Karbon Homes yn Newcastle a Coastal Housing Group yn Abertawe, yn ogystal ag elusen lles yn Ne Cymru, sef Platfform for Change.
Dywedodd Steve: “Rwy’n teimlo’n falch iawn ac yn freintiedig fy mod wedi cael fy mhenodi’n Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Bwrdd a'r sefydliad ehangach wrth iddo lywio'r heriau aruthrol a ddaw yn sgil y pandemig presennol ac wrth wireddu ei gynlluniau uchelgeisiol dros y blynyddoedd i ddod.”
Mae Cadeirydd BIPBA Bae Abertawe, sef Emma Woollett, wedi croesawu’r penodiad gan ddweud “Rwyf wrth fy modd bod Steve wedi’i benodi ac yn edrych ymlaen at ei weld yn dechrau ar ei swydd fel Is-gadeirydd yn nes ymlaen y mis hwn. Mae Steve yn dod â chyfoeth o sgiliau a phrofiad i’r rôl, a gwn y bydd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i waith y Bwrdd dros y blynyddoedd i ddod. ”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.