O'r chwith i'r dde: Yr Athro Farah Bhatti, yr Uwch Fetron Carol Doggett a'r Nyrs Glinigol Arbenigol Karen Kembery.
Mae Llawfeddyg Cardiaidd Ymgynghorol benywaidd cyntaf Cymru a dwy uwch nyrs sydd i gyd yn arweinwyr yn eu meysydd wedi cael eu cydnabod yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines.
Mae'r Athro Farah Bhatti o Ysbyty Treforys yn Abertawe - sef y fenyw Brydeinig gyntaf o dras Pacistanaidd i’w phenodi’n Llawfeddyg Cardiaidd Ymgynghorol yn y DU - wedi derbyn OBE am ei gwasanaeth i amrywiaeth yn y GIG yng Nghymru.
Mae'r Uwch Fetron Carol Doggett, sy’n Bennaeth Nyrsio, Meddygaeth, Gofal Brys a Gweithrediadau yn Ysbyty Treforys, wedi derbyn MBE am ei gwasanaeth i arweinyddiaeth a gofal nyrsio i gleifion a staff gofal dwys, yn enwedig yn ystod Covid-19.
Ac mae Karen Kembery, sy’n Nyrs Glinigol Arbenigol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, wedi derbyn BEM am ei gwasanaethau i nyrsio, yn sgil ei gwaith yn trawsnewid y dull o ofalu am glwyfau ac atal briwiau pwyso.
Mae’r Athro Bhatti wedi cyflwyno ei OBE i’w rhieni. Mae’r Athro Bhatti hefyd yn dysgu myfyrwyr meddygol ac mae ganddi nifer o rolau'n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y GIG, y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Prifysgol Abertawe a Ffederasiwn y Menywod Meddygol.
“Mae'n gwbl hyfryd cael fy nghydnabod am y gwaith rwy'n ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant,” meddai.
“Mae’n fraint bod yn Llawfeddyg Cardiaidd a hefyd gweithio tuag at greu amgylchedd tecach lle gall pawb ffynnu.”
Ychwanegodd yr Athro Bhatti, sydd wedi gweithio yn Ysbyty Treforys ers 13 blynedd: “Rwy’ ar ben fy nigon wrth dderbyn yr anrhydedd hwn a hoffwn gyflwyno fy OBE i’m rhieni, sef gwir arwyr fy stori.”
Dywedodd Carol Doggett, sydd wedi bod yn nyrsio ers 1987 ar ôl hyfforddi yn hen Ysbyty Cyffredinol Llanelli, ei bod “wrth ei bodd” gyda’r wobr a’r gydnabyddiaeth.
“Rwy’n ei derbyn ar ran holl staff yr adrannau gofal critigol a’r adrannau eraill sydd wedi camu i’r bwlch a chefnogi’r don anferth gyntaf o Covid-19 a hefyd ar ran yr holl gleifion â Covid y gwnaethon ni eu nyrsio yn yr Uned Therapi Dwys.”
Treuliodd Carol 28 mlynedd o'i gyrfa mewn amrywiaeth o rolau nyrsio acíwt yn Llundain ac Essex.
Meddai: “Ym mis Mehefin 2019, dychwelais i’m tref enedigol, sef Ystradgynlais, gyda fy ngŵr a dau o’m tri phlentyn, a dechrau gweithio yn Ysbyty Treforys fel yr Uwch Fetron mewn gofal critigol.
“Dros y 18 mis yn dilyn hynny, cefnogais ac arweiniais y timau nyrsio mewn gofal critigol trwy don gyntaf pandemig y coronafeirws, ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr Clinigol Dr John Gorst.”
Ni allai Karen Kembery, a ddywedodd ei bod yn ffodus i gael cefnogaeth ei gŵr Gareth a'i merch Rebecca, gredu ei llygaid pan gafodd yr e-bost yn dweud wrthi y byddai'n derbyn y BEM.
“Roedd yn rhaid i mi ei ddarllen deirgwaith ac rwy’n eithaf dagreuol wrth feddwl am y peth. Mae'n hyfryd cael fy anrhydeddu fel hyn, ” meddai.
“Dechreuais fy ngyrfa nyrsio ym 1986 ac am yr 20 mlynedd a mwy diwethaf fel nyrs hyfywedd meinweoedd, rydw i wedi ymroi i drawsnewid dulliau o ofalu am glwyfau ac atal briwiau pwyso.
“Fodd bynnag, ni fyddai unrhyw un o’m llwyddiannau wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth y tîm hyfywedd meinweoedd, ein staff a'n cleifion anhygoel a’u hymddiriedaeth nhw ynof i."
Ychwanegodd Karen: “Rwy’n falch o’r gofal rydyn ni’n ei ddarparu i’n cleifion, hyd yn oed yn fwy felly eleni, yn ystod y pandemig.”
Dywedodd Dr Richard Evans, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ei fod “wrth ei fodd bod yr Athro Bhatti wedi cael ei hanrhydeddu”.
Aeth ymlaen i ddweud: “Nid yn unig y mae hi’n llawfeddyg ac athrawes wych, ond hefyd yn hyrwyddo amrywiaeth yn y maes heriol hwn o feddygaeth, gan weithio bob amser tuag at ei nod o chwalu rhwystrau i’r rhai fydd yn ei dilyn yn ôl ei throed.
“Mae ei hymroddiad i’w rôl yn gwneud cymaint o wahaniaeth i gleifion, cydweithwyr ac israddedigion fel ei gilydd ac ni allaf feddwl am unrhyw un sy’n haeddu’r anrhydedd hwn yn fwy na hi.”
Wrth ymateb i’r gwobrau ar gyfer Carol a Karen, dywedodd Christine Williams, y Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Nyrsio a Phrofiad y Claf: “Mae'n hyfryd bod yr anrhydeddau hyn yn tynnu sylw at ddwy uwch nyrs y mae eu gwaith a'u harweinyddiaeth yn darparu gobaith a chysur i gynifer o'n cleifion a'u teuluoedd yn ystod yr adegau tywyll hyn.
“Yn union fel eu cydweithwyr nyrsio, ni fyddai Carol a Karen byth yn chwilio am ganmoliaeth am yr hyn maen nhw'n ei wneud, ond mae'n iawn bod eu cyflawniadau wedi'u nodi ar ddiwedd y flwyddyn fwyaf heriol yn hanes y GIG.
“Rwy’n siŵr fy mod yn siarad dros lawer pan ddywedaf ein bod ni mor falch ohonyn nhw ac edrychaf ymlaen at barhau â’n taith i wella’r gwasanaethau i’n cleifion gyda’n gilydd.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.