YN Y LLUN: Jo Phillips, sylfaenydd Fforwm Rhieni-Ofalwyr Abertawe, yn siarad yn y Senedd.
Mae grŵp o Abertawe yn rhoi help llaw i rieni sy'n darparu gofal bob awr o'r dydd i'w plant - o unrhyw oedran, gan gynnwys meibion a merched sy'n oedolion.
Mae Fforwm Rhieni-Ofalwyr Abertawe yn grŵp annibynnol sy’n gweithio gydag awdurdodau lleol, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, i sicrhau bod gwasanaethau’n diwallu anghenion plant, pobl ifanc, oedolion a’u teuluoedd anabl.
Gofalwr di-dâl yw rhywun sy’n darparu gofal i ffrind neu aelod o’r teulu heb dderbyn taliad gan gwmni neu awdurdod lleol. Gall gofalwyr di-dâl fod o unrhyw oedran, a gallant ddarparu gofal i bobl ag ystod o gyflyrau, gan gynnwys: salwch, anabledd, pryderon iechyd meddwl, caethiwed, ac eiddilwch.
Mae Jo Phillips yn un o sylfaenwyr y fforwm. Meddai: “Camsyniad cyffredin yw bod mab neu ferch y rhiant yn blentyn – mae gennym ni rywun yn ein fforwm sy’n gofalu am eu mab sydd newydd droi’n 60 oed.
“Pan fydd pobl yn dweud rhiant-ofalwr, fe fyddan nhw'n cymryd bod y person sy'n derbyn gofal yn ifanc, ond nid yw hynny'n wir.
“Camsyniad poblogaidd arall yw y dywedir bod rhieni’n gwneud yr hyn sy’n ofynnol ganddynt fel rhiant ac yn gofalu am eu plentyn. Ond nid yw hynny'n wir i'n haelodau - maent yn rhoi gofal 24-7 i'w plentyn am weddill eu hoes.
LLUN: Jo yn ystod ei hymweliad â’r Senedd.
“Mae'n anodd iawn, ac yn straen, ond sefydlwyd y fforwm i dyfu, datblygu a grymuso ein haelodaeth i gael llais cryf ar y cyd ac i ddylanwadu ar newid cadarnhaol. Rydym am ddarparu sianel gyfathrebu adeiladol rhwng rhieni sy’n ofalwyr a phartneriaid strategol.”
Bob dydd yn y DU, mae 12,000 o bobl yn dod yn ofalwyr di-dâl, gyda llawer ar draws Bae Abertawe yn anymwybodol eu bod yn cyflawni'r rôl.
Gall gofalwyr di-dâl gyflawni amrywiaeth o dasgau, megis helpu gyda thasgau bob dydd, darparu gofal personol, a chynnig cymorth emosiynol.
Nhw yw trydydd piler ein system iechyd a gofal cymdeithasol, ac eto nid yw llawer yn gweld eu hunain yn ofalwyr, yn aml heb fod yn ymwybodol o'u hawliau cyfreithiol a'r hyn y mae ganddynt hawl iddo o ran cymorth a budd-daliadau.
Wedi'i ffurfio bum mlynedd yn ôl, mae Fforwm Rhieni-Ofalwyr Abertawe yn cael ei redeg gan grŵp o rieni sy'n ofalwyr gwirfoddol, y mae eu plant yn ymwneud â Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Oedolion, Addysg a gwasanaethau Iechyd.
Mae Jo yn eiriolwr annibynnol cymwys ac mae’n cymryd rhan yn rheolaidd mewn ymgynghoriadau awdurdodau lleol a’r llywodraeth ar ddeddfwriaeth yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol, anghenion dysgu ychwanegol ac unrhyw beth sy’n ymwneud â gofalwyr.
Mae hi hefyd yn fam i dri o bobl ifanc yn eu harddegau, ac mae gan un ohonyn nhw anghenion ychwanegol cymhleth.
Dywedodd Jo: “Rydym yn grŵp bach ond angerddol sy’n helpu i lunio gwasanaethau – addysg, gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd – fel bod anghenion pawb yn cael eu diwallu mewn ffordd sy’n eu helpu i gyrraedd eu llawn botensial.
“Rydym yn cyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio gwasanaethau sy’n diwallu anghenion plant anabl o bob oed a’u teuluoedd.
“Nid oes gennym ni ganolfan ar gyfer y fforwm, ond mae gennym ni foreau coffi yn y ganolfan lle mae rhieni-ofalwyr yn siarad am eu profiadau ac yn helpu ei gilydd. Mae llafar gwlad yn gweithio’n dda iawn yn yr achos hwn oherwydd mae gennym ni i gyd brofiadau a chyngor gwahanol i’n gilydd.”
Darllenwch fwy am Fforwm Rhieni-Ofalwyr Abertawe trwy eu gwefan.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.