Gwahoddir plant sydd â Diabetes Math 1 i ddarllen am anturiaethau Tim Dinosaurus - sef dinosor arwrol sy’n ysbïwr sy’n difetha cynlluniau dihiryn mileinig, yn llyfr newydd i Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl.
Yn ogystal â’i waith fel Archarwr, mae’n rhaid i Tim oresgyn her ychwanegol, sef rheoli ei Diabetes Math 1 hefyd.
Ffrwyth dychymyg Katie Courtney ac Ava Morgan, sy’n 9 oed, yw Hypo Dino. Canfu Katie fod ganddi Diabetes Math 1 ym mis Mehefin 2017, ac yn fuan ar ôl iddi gael y diagnosis ysbrydolwyd y merched i ddechrau ysgrifennu a chreu darluniau ar gyfer llyfr am ‘Hypo Dino’ a’i anturiaethau ar ôl i awdur ymweld â’r ysgol.
Aeth Katie â’r llyfr darluniau i un o’i hapwyntiadau Clinig, a gofynnodd y tîm iddi a fyddai’n barod i’w rannu â phlant eraill yng Nghymru.
“Nid dim ond dinosor yw Tim, mae’n ysbïwr hefyd,” esbonia Katie. “Ac mae ganddo Ddiabetes Math 1 hefyd. Weithiau bydd yn cael ‘hypo’ pan fydd wrth ei waith ac mae hynny’n ei atal rhag ymladd y gelyn, Doctor Nocter.”
“Mae ‘hypo’ yn ffordd o fyw i bron pawb sy’n dioddef o Ddiabetes Math 1,” meddai Dr Chris Bidder, meddyg ymgynghorol Katie yn Ysbyty Treforys, Abertawe.
“Gall wneud i chi deimlo’n flinedig, yn bigog, yn sâl ac yn benysgafn a hynny ar adegau anghyfleus – ac mae Tim yn darganfod hynny yn y llyfr a ysgrifennwyd gan Katie ac Ava.”
Mae Carol Fraser yn Nyrs Diabetes Arbenigol yn Nhîm Pediatrig Ysbyty Treforys sy’n adnabod Katie a’i theulu ers iddi gael y diagnosis. “Ar ôl gweld llyfr Katie, roeddem yn meddwl ei fod yn wych,” meddai.
“Mae’n ddoniol, ac rydym yn meddwl y gall llawer o blant uniaethu â’r ffaith bod ‘hypo’ weithiau yn tarfu ar bethau pwysig, fel ymladd yn erbyn dynion drwg clyfar ac achub y byd.
Gan ei fod wedi’i ysgrifennu gan y merched, rydym yn gobeithio y bydd plant ifanc eraill sy’n wynebu diagnosis o Ddiabetes Math 1 yn gallu uniaethu â ‘Hypo Dino’.
Mae ganddo hefyd neges bositif - er y gall delio â Diabetes Math 1 fod yn her a’i fod weithiau’n broblem, ni ddylai eich atal rhag cael hwyl a dilyn eich breuddwydion.”
“Fe wnaethom ofyn i Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc pe byddai modd rhoi copi o ‘Hypo Dino’ i blant eraill sydd â Diabetes Math 1 yng Nghymru,” meddai Carol.
“Bu’r Rhwydwaith yn gefnogol iawn yn ystod y broses o argraffu llyfr Katie ac Ava ac er mwyn ei ddosbarth i glinigau.”
“Dyma’r tro cyntaf i’r Rhwydwaith gyhoeddi rhywbeth i blant a phobl ifanc a ysgrifennwyd gan blant ar gyfer plant eraill,” meddai Dr Bidder. “Mae hynny ynddo’i hun yn gyffrous, ac yn gwneud ‘Hypo Dino’ yn arbennig.”
Efallai y bydd anturiaethau pellach am y dinosor Tim yn dilyn gan fod Katie ac Ava eisoes wedi dechrau gweithio ar ddilyniant i’r gwreiddiol. “Rydym yn gweithio ar stori sy’n sôn am Tim yn mynd ar wyliau,” meddai Ava.
“A llyfr arall sy’n sôn am ddewrder Tim pan fydd yn mynd i gael prawf gwaed. Rwy’n mwynhau gwneud y lluniau o’r dinosor tra bod Katie yn ysgrifennu’r stori.”
Bydd ‘Hypo Dino’ ar gael i bob plentyn sydd â Diabetes Math 1 drwy eu clinig. Gellir gwneud cais am gopi hefyd gan Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc drwy e-bostio cyp.diabetesnetwork@wales.nhs.uk
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.