Neidio i'r prif gynnwy

Pwysau gofal heb ei drefnu: Digwyddiad Parhad Busnes wedi'i ddatgan

Diweddariad: 11.30yb, 26/06/2024 safodd BCI i lawr. Ond mae'r safle'n parhau i fod yn brysur iawn, felly defnyddiwch ffyrdd eraill o gael mynediad at ofal brys lle bo modd.

Mae Ysbyty Treforys dan bwysau aruthrol heddiw, Dydd Llun, 24/06/2024, gyda niferoedd uchel o gleifion difrifol wael angen triniaeth a gwelyau. O ganlyniad, rydym ar ein lefel uchaf o gynnydd – Digwyddiad Parhad Busnes.

Mae'r staff yn gweithio'n galed iawn. Ond mae amseroedd aros yn llawer hirach nag yr hoffem, yn enwedig ar gyfer y rhai sy'n mynychu ein Hadran Achosion Brys (A&E) gyda salwch neu anafiadau llai difrifol a rhai nad ydynt yn bygwth bywyd.

Ar yr adeg hon gallwch ein helpu trwy:

  • Peidio â dod i'r Adran Achosion Brys oni bai bod hynny'n gwbl anochel. Ond os amheuir trawiad ar y galon, poen yn y frest neu strôc, RHAID i chi fynd i'r Adran Achosion Brys.
  • Ar gyfer mân anafiadau, ewch i'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, Ffordd Baglan, Port Talbot, SA12 7BX. Mae ar agor rhwng 8yb a 9yh, saith diwrnod yr wythnos, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc. Gall drin oedolion a phlant dros un oed â mân anafiadau i'r corff fel briwiau, llosgiadau, ysigiadau, straeniau, dadleoliadau ac esgyrn wedi torri. NI ALL ymdrin ag amheuaeth o drawiadau ar y galon, poen yn y frest na strôc. Ar gyfer y rhain RHAID i chi fynd i'r ED. I gael rhagor o wybodaeth am ba anafiadau y gall yr UMA eu trin, ewch yma
  • Ewch i wefan GIG 111 Cymru yma i weld y gwiriwr symptomau ar-lein. Neu ffoniwch 111 am gyngor a chymorth pan nad yw'n argyfwng.
  • Ewch i'ch fferyllfa leol, oherwydd mae fferyllwyr yn arbenigwyr mewn meddyginiaethau sydd wedi'u hyfforddi i gynnig cyngor. Gallant argymell meddyginiaeth dros y cownter ar gyfer peswch, annwyd, brech, brathiadau, doluriau a phoenau ac, o dan y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, gallant gynnig meddyginiaeth AM DDIM ar gyfer rhai cyflyrau. I gael manylion am y Cynllun Anhwylderau Cyffredin a gynigir gan fferyllfeydd ewch yma
  • Cofiwch fod Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau Bae Abertawe yn gweithredu pan fydd eich meddygfa eich hun ar gau, dros nos a 24 awr ar benwythnosau a gwyliau banc. I gael mynediad at y gwasanaeth hwn, ffoniwch 111.
  • Casglwch anwyliaid sydd wedi cael gwybod y gallant gael eu rhyddhau. Mae hyn yn well iddyn nhw a bydd yn ein helpu ni gan fod angen i ni ganolbwyntio ar ofalu am y cleifion hynny na allant fynd adref.

Diolch am eich dealltwriaeth.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.