Mae dwy o therapyddion lleferydd ac iaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi troi at y gair ysgrifenedig i helpu eu cleifion, a hynny drwy gyhoeddi llyfr plant.
Mae Lisa Farquhar a Rhian Hoccom wedi ysgrifennu The Sound We Found – sef llyfr lluniau sy'n adrodd diwrnod yn hanes arth fach drwy gyfrwng rhigymau – er mwyn annog pobl ifanc i ffurfio'r synau sylfaenol sy'n galluogi lleferydd cydlynol.
Mae'r ddwy, sy'n gweithio i Ganolfan Cymru ar gyfer Gwefus a Thaflod Hollt yn Ysbyty Treforys, hefyd wedi cynhyrchu fideo ar-lein sy'n gysylltiedig â'r llyfr. Mae’r fideo'n dangos i rieni beth yw’r ffordd orau o ddarllen y stori gyda'u plentyn er mwyn annog y lleferydd i ddatblygu.
Er ei fod wedi'i ysgrifennu'n benodol i helpu plant gyda gwefusau a thaflod hollt, argymhellir y stori delynegol a darluniadol i bob plentyn ifanc.
Dywedodd Lisa Farquhar (ar y chwith): "Mae plant sydd â gwefusau a thaflod hollt mewn perygl gwirioneddol o beidio â datblygu lleferydd yn yr un ffordd â phlant eraill. Maen nhw’n cael eu geni â bwlch yn nho eu ceg ac felly does ganddyn nhw ddim yr offer cywir i ddysgu siarad. Drwy gael llawdriniaeth fel babanod, ac yna therapi lleferydd, gallwn eu helpu i ddweud eu synau a chael eu deal.
"Y syniad oedd y gallai rhieni, drwy ddefnyddio llyfr stori, eu helpu nhw i ddatblygu eu synau. Mae'n seiliedig ar yr hyn rydyn ni’n ei alw'n fodelu synau – mae angen i blant edrych a gwrando ar yr un pryd, mae angen iddyn nhw weld symudiadau'r wefus a'r geg, ond does dim pwysau i ynganu’r seiniau eu hunain.
"Dim ond ychydig o amser rydyn ni'n ei gael gyda'r plentyn felly mae’n allweddol cynnwys y rhieni. Felly mae llyfr fel yma’n wych gan ei fod yn rhywbeth y gallan nhw ei ddefnyddio bob dydd – mae plant yn dysgu synau drwy ailadrodd.
"Mae cod QR ar y llyfr ei hun sy'n mynd â chi at y wefan er mwyn gallu gwylio fideo, sy'n dangos i'r rhiant sut i ddefnyddio'r llyfr i annog lleferydd – does dim rhaid ei wylio ond mae llawer o bobl wedi dweud ei fod yn ddefnyddiol iawn.
"Gall unrhyw riant ddarllen llyfr stori, ond os yw'n helpu i ddechrau dangos i blant sut i ddefnyddio synau'n iawn, yn y pen draw bydd yn helpu i'w hatal nhw rhag datblygu synau anghywir wrth lefaru."
Gan bwysleisio pa mor addas yw’r llyfr ar gyfer pob plentyn, o chwe mis oed hyd at bump oed, dywedodd: "Mae'n wych darllen straeon i unrhyw blentyn gan fod darllen yn gwella dealltwriaeth, gwrando, siarad, sillafu, geirfa ac ysgrifennu plentyn, yn ogystal â'i wybodaeth a'i ddychymyg cyffredinol. Mae hefyd yn datblygu'r cyswllt rhwng rhiant a phlentyn, gan hyrwyddo agosatrwydd a lles."
Wrth esbonio'r cynnwys dywedodd Rhian Hoccom (ar y dde): "Roedd yn brosiect ar y cyd rhwng Lisa, fi a Helene Somerville, sy'n ffrind ac yn gyd-therapydd lleferydd. Fi yw'r bardd a ysgrifennodd y rhigymau, ond gweithiodd y tri ohonon ni gyda'n gilydd i benderfynu ar yr iaith syml gywir, y geiriau allweddol a’r synau gorau i’w cynnwys.
"Mae'r stori wedi'i seilio ar yr arth fach ac mae'n ei dilyn drwy ei threfn ddyddiol – y syniad yw dangos i'r rhieni sut y gellir ymarfer y synau drwy weithgareddau bob dydd. Er enghraifft, pan fydd yr arth fach yn cael ei bwydo mae'r llwy yn troi'n awyren ac mae'n gwneud sŵn fff wrth hedfan tuag at ei cheg, a phan fydd ar siglen yn y parc mae'n gwneud sŵn sh. Mae'n mynd yr holl ffordd o godi yn y bore hyd at amser gwely.
"Mae wedi’i ddarlunio gan Abi de Montfort, sy'n ffrind i Helene, a ysgrifennodd y llyfr gyda ni. Roedden ni’n hoff iawn o'r ffaith ei bod hi’n defnyddio techneg o'r enw collage lluniau; er ei bod yn darlunio llawer o’r lluniau, mae’n defnyddio collage mewn rhannau eraill o’r lluniau fel eu bod nhw’n ymddangos yn real; er enghraifft, mae'r tywel yn yr ystafell ymolchi neu'r llwyni yn y parc yn ffotograffau go iawn.
"Oherwydd y lluniau deniadol a'r rhigymau sy'n rhedeg drwy'r llyfr, mae'n ddeniadol i bob plentyn, sef plant cyn oed ysgol a’r rhai sydd yn eu blynyddoedd cyntaf yn yr ysgol, ac unrhyw un sy'n mwynhau rhannu llyfr."
Er iddo gael ei lunio yn 2018, mae’n amserol i’r llyfr gael ei gyhoeddi’n ddiweddar yn ystod pandemig Covid.
Dywedodd Mrs Farquhar: "Mae cyswllt wyneb yn wyneb wedi'i leihau ond, oherwydd Covid, mae'n rhaid i ni wisgo mygydau. Allwch chi ddychmygu plant yn methu â gweld cegau a siâp y gwefusau a mynegiant yr wyneb? Dydyn nhw ddim yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ddatblygu eu haraith.
"Fe ddechreuon ni ei ysgrifennu ddwy flynedd yn ôl ond, oherwydd Covid, mae wedi bod yn amserol iawn ei gyhoeddi wrth i Covid ddigwydd ac i’r apwyntiadau leihau a gorchuddion wyneb gael eu cyflwyno."
Gan fod y llyfr, a gyhoeddwyd gan Burton Mayers Books, ar gael ar Amazon mae eisoes yn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang.
Dywedodd Mrs Farquhar: "Cawson ni neges gan arweinydd tîm taflod hollt yn Nottingham yn dweud am fachgen bach nad oedd e’n ymateb llawer i therapi ond mae ei feithrinfa wedi bod yn defnyddio'r llyfr gyda'r dosbarth cyfan a daeth i’r sesiwn therapi gan ddefnyddio rhai o'r synau o'r llyfr nad oedden nhw erioed wedi'u clywed o'r blaen.
"Mae hefyd ar gael yng Ngogledd America ac mae adolygiad hyfryd gan therapydd lleferydd o'r Unol Daleithiau sy'n ei ddefnyddio ac sy'n ei gael yn ddefnyddiol iawn, felly mae'n edrych fel petai’n cyrraedd yn bell ac yn eang, sy'n hyfryd."
Bydd holl elw'r llyfr yn mynd tuag at gyhoeddi llyfr dilynol i ymdrin â synau pellach.
Dywedodd Mrs Hoccom: "Bydd unrhyw elw y byddwn ni’n ei wneud drwy werthu'r llyfr yn cael ei fuddsoddi'n ôl er mwyn i ni allu ysgrifennu llyfr arall – mae'r llyfr cyntaf yn targedu pedwar o'r prif synau ond mae llawer rhagor, felly rydyn ni am wneud llyfr arall i gynnwys y set nesaf o synau datblygiadol. Y nod yw cael cyfres fel y bydd y plant yn gwybod eu holl synau ac yn llefaru’n hyfryd."
Dywedodd Helen Extence, Therapydd Lleferydd ac Iaith Arweiniol Canolfan Cymru ar gyfer Gwefus a Thaflod Hollt: "Rydw i wrth fy modd yn gweld y llyfr hwn ar y silffoedd. Mae defnydd rheolaidd o'r llyfr yn rhoi cyfle i fodelu synau llefaru i'r plentyn. Po fwyaf y byddan nhw’n clywed y synau, y mwyaf tebygol y byddan nhw o’u hailadrodd.
"Mae Lisa a Rhian, sef dwy therapydd lleferydd ac iaith arbenigol iawn ym Mae Abertawe wedi arwain y ffordd yn y prosiect hwn ar ôl cael ein hysbrydoli'n wreiddiol gan lawer o'r teuluoedd rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
"Maen nhw wedi creu llyfr gwrando ac edrych hardd i blant a gall teuluoedd ei rannu a'i fwynhau, gan ddatblygu sgiliau lleferydd ac iaith cynnar ar yr un pryd. Mae'n gyflawniad gwych ac rwy’n edrych ymlaen at weld y llyfr nesaf yn y gyfres!"
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.