Mae nyrs sy'n ymroddedig i helpu pobl â chlefyd siwgr yn dathlu ennill gwobr genedlaethol fawreddog am ei gwaith.
Mae Chris Cottrell-Morgan (yn y llun uchod) wedi ennill Gwobr Cyfrannwr Eithriadol GIG Cymru am wasanaethau mewn clefyd siwgr yn Rhaglen Diabetes QiC (Ansawdd mewn Gofal).
Mae Chris yn nyrs arbenigol clefyd siwgr sydd wedi gweithio mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol ers blynyddoedd lawer.
Mae hi wedi bod ar flaen y gad mewn llawer o fentrau cenedlaethol i wella gwasanaethau i bobl ledled Cymru, yn enwedig yn ystod y pandemig, gan gynnwys rheoli ymgyrch ansawdd a diogelwch ThinkGlucose.
Mae hi wedi helpu i ddatblygu rhaglenni newydd fel yr ap DiabetesClinic@ Home i wella ansawdd bywyd pobl sy'n byw gyda chlefyd siwgr yn ogystal â ffilmiau hyfforddi byr i staff.
Chris, sef arweinydd addysg clefyd siwgr a ThinkGlucose ar gyfer y bwrdd iechyd, ac mae hefyd yn arwain prosiect ledled Cymru i wella gofal i bobl hŷn â chlefyd siwgr yn eu cartrefi eu hunain neu mewn cartrefi gofal.
Dywedodd y beirniaid fod hyn yn gwobrwyo Chris am ei blynyddoedd lawer o ymroddiad ac ymrwymiad i wella gwasanaethau i bobl â chlefyd siwgr.
Dywedodd Chris fod y wobr wedi dod yn sioc ddymunol. Meddai: “Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn dod ac roedd yn syndod llwyr.
“Mae mor hyfryd cael fy nghydnabod a phenllanw blynyddoedd o weithio gyda gweithwyr proffesiynol yn cyfrannu at wasanaethau clefyd siwgr yng Nghymru.
“Rwyf wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr ledled Cymru ers blynyddoedd lawer yn edrych ar ffyrdd y gallwn wella gwasanaethau i gleifion clefyd siwgr, yn enwedig gyda chanllawiau mewn ymateb i'r pandemig.
“Rydyn ni wedi datblygu sawl ffilm PocketMedic am glefyd siwgr sydd tua phum munud o hyd ar gyfer addysg staff.
“Ein diweddaraf yw helpu i wella gofal ar gyfer y bobl hŷn â chlefyd siwgr ac ni fu erioed amser pwysicach i hyn gyda’r pwysau a wynebir gan gartrefi gofal oherwydd Covid.”
Dywedodd Lesley Jenkins, Cyfarwyddwr Nyrsio Grŵp, Castell-nedd Port Talbot a Grŵp Gwasanaeth Singleton: “Mae hwn yn gyflawniad rhyfeddol i Chris ac yn un haeddiannol.
“Rwy’n wirioneddol falch o Chris am ennill y wobr bwysig hon i gydnabod y gwaith aruthrol y mae wedi’i wneud i helpu pobl â chlefyd siwgr nid yn unig yma ym Mae Abertawe ond ledled Cymru a thu hwnt.”
Dywedodd beirniaid Diabetes QiC: “Mae Chris wedi bod yn un o brif nyrsys Cymru ac yn un o sylfaenwyr Academi Nyrsys Clefyd Siwgr Cymru.
“Mae Chris wedi gweithio ar nifer o brosiectau fel ThinkGlucose, addysg clefyd siwgr, canllawiau Covid ac addysg ac adnoddau ar gyfer cartrefi gofal.”
Rhaglen wobrwyo ar gyfer y DU ac Iwerddon yw Quality in Care sy'n cydnabod arfer da mewn gofal cleifion a chydweithio mewn meysydd therapi allweddol ac sy'n caniatáu i'r cynlluniau hyn gael eu rhannu a'u lledaenu ar lefel genedlaethol.
Mae dyfarniad QiC yn golygu bod menter wedi'i hamlygu gan y GIG, elusennau, sefydliadau cleifion a diwydiant fel un sy'n gwella profiad cleifion, safonau gofal a chanlyniadau.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.