Mae nyrs sydd wedi treulio bron i 40 mlynedd yn amddiffyn cleifion a staff rhag haint wedi cael ei chydnabod fel seren ddisglair.
Mae Delyth Davies, Pennaeth Nyrsio Rheoli Atal Heintiau Bae Abertawe, wedi cael Seren Cavell.
Rhoddir y wobr i nyrsys yn y DU sydd wedi dangos gofal eithriadol i gydweithwyr, cleifion neu deuluoedd cleifion.
Mae gan Delyth fwy na 40 mlynedd o wasanaeth gyda'r GIG, 37 ohonyn nhw fel nyrs arbenigol atal a rheoli heintiau. Mae'r gwaith yn cynnwys lleihau'r risg o haint yn cael ei drosglwyddo. Mae atal a rheoli heintiau yn ddull ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n atal cleifion a gweithwyr iechyd rhag cael eu niweidio gan heintiau y gellir eu hosgoi. Mae'n cwmpasu pob agwedd ar ofal iechyd, gan gynnwys hylendid dwylo, heintiau safle llawfeddygol, ac ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Dywedodd Delyth, sy’n byw yn Llanelli: “Rwyf wedi bod yn teimlo bod gen i syndrom imposter yr holl flynyddoedd hyn, ond rwy’n hynod o falch.
“Rwy’n gweithio gyda thîm eithriadol yn IPC. Rwyf wedi bod yn ffodus i weithio gyda'r staff a'r rheolwyr da iawn sydd gennym.
“Dw i ddim yn meddwl fy mod i wedi gwneud dim byd gwahanol i unrhyw un arall. Dim ond gwneud fy swydd ydw i. Rwy'n hoffi pobl ac mae'n hawdd iawn gofalu am bobl. Mae gennym dîm IPC gwych, ac rydym bob amser yn gofalu am ein gilydd.
“Rwyf wedi ei garu yn llwyr. Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un peth, mae bob amser rhywbeth newydd i brofi fy hun ag ef ac i'w ddysgu. Does byth ddiwrnod diflas, mae rhywbeth newydd bob amser.”
Mae hi wedi gweithio ar draws ysbytai Abertawe, Castell-nedd a Phen-y-bont ar Ogwr yn ystod ei gyrfa hir mewn nifer o ymddiriedolaethau GIG lleol blaenorol.
Ychwanegodd Delyth: “Roedd Covid yn arbennig o heriol o safbwynt rheoli atal heintiau, yn enwedig ar y dechrau pan oedd canllawiau’n newid mor aml.
“Fel tîm IPC, rydyn ni’n gweithio gyda phob adran o fewn y bwrdd iechyd, nid clinigol yn unig, ac mae hynny’n fraint.”
Mae The Cavell Stars yn cael eu dyfarnu gan Ymddiriedolaeth Nyrsys Cavell yn dilyn enwebiad gan gydweithwyr, gyda chefnogaeth panel o feirniaid yr elusen.
Enwebwyd Delyth gan gydweithwyr a amlygodd ei phroffesiynoldeb a’i harweinyddiaeth dosturiol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Nyrsio Cyswllt Bae Abertawe, Lesley Jenkins: “Mae Delyth yn brofiadol iawn ac yn arbenigwr yn y maes ymarfer.
“Mae hi wedi cael ei henwebu gan ei chyfoedion am ei steil caredig a thosturiol o arwain.
“Hyd yn oed yn ystod y cyfnod eithriadol o anodd a heriol yn anterth y pandemig, mae Delyth wedi aros yn ddigynnwrf, yn garedig ac yn deall yr heriau y mae ymarferwyr yn eu hwynebu o ddydd i ddydd.
“Mae hi’n eithriadol o ddiymhongar, yn cydnabod cyfraniad ei thîm ac eraill, felly mae’n bwysig bod Delyth yn cael ei chydnabod am fod yn arweinydd nyrsio eithriadol ac uchel ei pharch.”
Yn y llun: Dr Raj Krishnan Interim Exec Medical Director, Hazel Powel Deputy Executive Director of Nursing, Delyth Davies Head of Nursing IPC, Lesley Jenkins Associate Nurse Director, Paul Stuart Davies Associate Nurse Director
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.