Neidio i'r prif gynnwy

Nod astudiaeth ymchwil yw canfod canser yr ysgyfaint yn gynharach trwy brawf syml

YN Y LLUN: Yr Athro Ira Goldsmith (chwith) a'r Athro Dean Harris sy'n arwain yr ymchwil.

 

Gallai prawf gwaed syml arwain at ganfod a thrin canser yr ysgyfaint yn gynt, diolch i astudiaeth ymchwil ym Mae Abertawe.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Abertawe yn cydweithio ar dechneg benodol sy'n ceisio canfod y clefyd yn gyflymach, ac atal cleifion rhag cael profion ymledol ac annymunol.

Canser yr ysgyfaint yw'r trydydd canser mwyaf cyffredin yn y DU, gyda mwy na 43,000 o bobl yn cael diagnosis o'r cyflwr bob blwyddyn.

Yn y DU, goroesiad pum mlynedd hirdymor unigolion sydd wedi cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint yw 14 y cant, ond pan gânt ddiagnosis yn ei gamau cynnar (Cam I a II) pan fo’r canser yn fach ac y gellir ei drin â llawdriniaeth, mae hynny’n codi i dros 65%.

Mae’r astudiaeth yn cael ei harwain gan yr Athro Dean Harris ac Ira Goldsmith, a’i llywodraethu gan adran ymchwil a datblygu’r bwrdd iechyd gyda chymorth gan nyrsys darparu ymchwil, sy’n cael eu hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae mwy na 60 o gleifion sydd wedi cael nodiwlau ysgyfaint wedi gwirfoddoli i fod yn rhan o’r ymchwil trwy roi prawf gwaed syml. Mae’r canlyniadau hynny bellach yn cael eu dadansoddi fel rhan o’r astudiaeth.

Dywedodd yr Athro Harris: “Gallai canlyniad yr astudiaeth hon fod yn hynod arwyddocaol i’n cleifion a chael effaith aruthrol ar eu bywydau.

“Mae diagnosis cynnar pan fydd nodwl amheus yn cael ei ganfod yn y broses ddelweddu yn hanfodol ar gyfer y canlyniad gorau i’n cleifion.

“Mae ein hastudiaeth yn gobeithio canfod canser yr ysgyfaint yn gyflymach o brawf gwaed a all wedyn arwain at driniaeth yn cychwyn yn gynt.”

Daw’r gwaith hwn ar gefn prosiect tebyg a arweiniwyd gan yr Athro Harris yn 2023. Gwelodd hwnnw mai cleifion canser y coluddyn oedd y cyntaf yn y DU i gael cynnig prawf gwaed unigryw i wneud yn siŵr nad yw wedi dychwelyd.

Mae ei astudiaeth ddiweddaraf, y disgwylir iddi bara tan fis Hydref, yn defnyddio techneg o'r enw sbectrosgopeg Raman i ganfod newidiadau mewn samplau gwaed sy'n gysylltiedig â chanser yr ysgyfaint.

Mae Mae'r dechneg hon yn mesur rhyngweithiad golau laser â chelloedd, cemegau a moleciwlau o fewn y gwaed i greu 'olion bysedd' unigryw y rhagwelir y bydd yn benodol ar gyfer canser yr ysgyfaint mewn cleifion y canfyddir nodwl yr ysgyfaint yn ystod pelydrau-X neu sganiau CT a allai fod yn gysylltiedig â’r math hwnnw o ganser.

Os bydd yn llwyddiannus, disgwylir iddo gael effaith fawr ar ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint yn llawer cynharach.

YN Y LLUN: (O’r chwith) Caroline Davies, Jenny Travers a Claire Chapman o’r tîm ymchwil a datblygu gyda’r Athro Ira Goldsmith (chwith) a’r Athro Dean Harris.

Mae’r astudiaeth wedi’i gwneud yn bosibl drwy gyllid o £45,000 gan Gyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Feddygol, sy’n darparu cyllid i gyflymu’r newid o ymchwil darganfod i’w gyflwyno fel rhan o ofal iechyd.

Dywedodd yr Athro Harris: “Mae profion sgrinio presennol yn cynnwys sganiau CT na all bob amser ddweud a yw nodules yn ganseraidd, felly mae angen profion amgen.

“Mae’n gyffrous iawn bod yn arwain ar yr astudiaeth hon, yn enwedig gan y gallai effeithio ar gynifer o bobl yn ein cymuned.

Tynnodd yr Athro Goldsmith sylw at bwysigrwydd partneriaeth y bwrdd iechyd â Phrifysgol Abertawe.

Dywedodd yr Athro Goldsmith: “Mae gan y Gyfadran Iechyd a Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe gyfleusterau labordy modern, pwrpasol gyda mynediad i Sbectrosgopeg Raman.

“Mae gan y brifysgol hefyd ethos gwych o hyrwyddo ymchwil ym maes gwyddorau bywyd trwy dynnu ar glinigwyr fel ni i gynnal a datblygu syniadau ymchwil a phrosiectau ymchwil newydd.

“Mae gennym ni berthynas gydweithredol ardderchog gyda Phrifysgol Abertawe, sydd wedi caniatáu i ni ymgymryd â’r darn pwysig iawn hwn o ymchwil.

“Gyda’n hymchwil rydym yn gobeithio datblygu techneg profi gwaed syml a fydd yn caniatáu i feddygon teulu a chlinigwyr yma ym Mae Abertawe, Cymru a ledled y byd helpu i wneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint yn ei gamau cynnar iawn gyda mwy o sicrwydd.

“Mae’n brawf gwaed rydyn ni’n gobeithio y bydd hefyd yn dod yn rhan o brotocol sgrinio canser yr ysgyfaint ac yn helpu’r rhaglen sgrinio i ganfod a gwneud diagnosis o ganser cynnar yr ysgyfaint pan fydd yn fach iawn gyda llawer mwy o gywirdeb.

“Trwy wneud hynny, bydd mwy o gleifion yn gallu derbyn triniaeth iachaol nag sy’n bosibl ar hyn o bryd.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.