Prif lun: y Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Melissa Hughes a'r Rhingyll Tom Ratcliffe, o'r 14eg Catrawd Signalau (Rhyfela Electronig), yng nghyfleuster profi Margam.
Dyma'r negeseuon o obaith a roddwyd ar waliau canolfan brofi Covid-19 i godi calonnau'r cleifion.
Fe wnaeth staff a milwyr y GIG sy'n rhedeg y cyfleuster ym Margam sialcio lluniau o enfysau ac arwyddeiriau ysbrydoledig ar waliau bloc concrit caled y twnnel profi.
"Rydyn ni i gyd wedi cael ein swabio ac yn gwybod nad yw'n brofiad pleserus, felly rydyn ni'n trio creu'r awyrgylch gorau posib i bawb," meddai'r Staff-Ringyll Rob Bromwich o 14eg Catrawd Signalau (Rhyfela Electronig), sydd wedi'i lleoli yng Ngorllewin Cymru.
“Mae'n dod â rhywfaint o oleuni ynghanol cyfnod digon tywyll.”
Dywedodd Melissa Hughes, sy'n Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd: “Rydyn ni wedi cael llawer o blant yn dod yma, felly mae'n hyfryd iddyn nhw.”
Mae canolfan Margam yn un o ddwy uned yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer profi drwy ffenest y car. Mae'r llall yn Stadiwm Liberty yn Abertawe.
Ers iddynt agor yn llawn ddechrau Mai, maent wedi gweld dros 15,000 o bobl ar gyfer profion antigen, sef prawf lle mae swab gwddf yn cael ei gludo a'i anfon i labordy i ddarganfod a oes gan y claf Covid-19 ar hyn o bryd.
Mae'r 14eg Catrawd Signalau (Rhyfela Electronig), a leolir ym Mreudeth yn Hwlffordd, wedi cael eu canmol am eu “cefnogaeth ddiysgog” i’r GIG wrth i waith y gatrawd ar y safleoedd ddod i ben.
Yn ogystal ag ymuno â Thîm Bae Abertawe, mae'r 14eg Catrawd Signalau (Rhyfela Electronig) wedi ymgymryd ag amrywiaeth o rolau ar draws y GIG ers mis Ebrill, yn cynnwys gyrru a dadheintio ambiwlansys. Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi dyfarnu tystysgrif clod iddynt am eu gwasanaeth arbennig ac amhrisiadwy.
Bydd canolfannau profi Bae Abertawe yn parhau ar agor, gyda'u cydweithwyr yn y Lluoedd Arfog yn cymryd lle'r tîm milwrol presennol cyn i'r gwaith gael ei drosglwyddo i gontractwyr sifil erbyn diwedd mis Awst.
Mewn seremoni arbennig ym mhencadlys y Bwrdd Iechyd ym Maglan ddydd Gwener, 31 Gorffennaf, cyflwynodd y Prif Weithredwr Tracy Myhill dystysgrifau diolch i aelodau’r 14eg Catrawd Signalau. A chyflwynwyd plac y gatrawd i Tracy gan y Rhingyll Ricky Scarborough.
Credyd: BIPBA
Dywedodd Tracy fod cymorth y gatrawd fel rhan o Ymgyrch ‘Rescript’, sef ymateb milwrol y DU i Covid-19, wedi helpu i gynnal profion torfol mewn cymunedau. Mae hynny’n cynnwys cefnogi unedau profi symudol wrth iddynt ymweld â 125 o safleoedd cartrefi gofal.
“Mae’r timau wedi bod yn allweddol yn natblygiad yr unedau profi, gan symleiddio’r broses, darparu cefnogaeth weinyddol a logistaidd ac ymgymryd â nifer o rolau cymorth eraill sydd wedi caniatáu i staff y GIG o fewn yr unedau ganolbwyntio ar y cleifion,” meddai.
“Mae'r ymroddiad, yr hyblygrwydd, y gefnogaeth ddiysgog a'r gwersi a ddysgwyd wedi creu argraff fawr arnaf yn ystod yr amseroedd digynsail hyn.
“Maen nhw i gyd wedi gweithio diwrnodau anhygoel o hir ac wedi darparu cwnsela da, cyfeillgarwch a hiwmor hollbwysig i ni yn ystod yr amseroedd hynod heriol hyn.
“Mae gweithio gyda’r fyddin wedi bod yn brofiad gwych i bob un ohonom yn y GIG ac mae’n rhywbeth yr hoffwn ei weld yn parhau.”
Mae’r oriel graffiti sialc ym Margam yn cynnwys yr ymadroddion; ‘Dim ond swab yw e, peidiwch â bod ofn’ a ‘Daliwch i wenu hyd yn oed pan fo'r amseroedd yn anodd’. Mae’r ymadroddion hyn yn arwydd o'r cynhesrwydd a'r parch sydd wedi datblygu rhwng personél y fyddin a'r GIG, eu cleifion a'r gymuned ehangach.
Mae'r oriel yn cynnwys bathodyn gwyn a glas y gatrawd ac arwyddair eu corfflu, sef Certa Cito, sy'n cyfleu’r syniad o fod yn gyflym ac yn gadarn.
Mae bathodynnau ac arwyddeiriau eraill gan aelodau o Fyddin Prydain sydd wedi cefnogi'r cyfleuster profi hefyd i’w gweld yn yr oriel, yn cynnwys SPS (Cymorth Staff a Phersonél), REME (Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol), y Corfflu Cudd-wybodaeth a'r Corfflu Logistaidd Brenhinol. Ceir yno hefyd eiriau cân a ysgrifennwyd yn arbennig er mwyn codi calonnau cleifion.
Credyd: BIPBA
Credyd: BIPBA
Credyd: BIPBA
Yng nghanolfan brofi Stadiwm Liberty, mae trigolion lleol, ysgolion a pherchnogion bwytai wedi dangos eu gwerthfawrogiad clir o waith y staff .
“Un peth yr hoffwn ei gofio o’r profiad hwn yw’r ysbryd cymunedol yr ydym wedi’i weld,” meddai’r Corporal Michael Himfen.
“O ystyried straen y sefyllfa o ran cadw pellter, mae’n rhyfeddol bod pobl wedi bod mor ddymunol.
“Ar ddiwrnodau poeth byddai'r parlyrau hufen iâ lleol yn dod yma. Rydyn ni hefyd wedi cael bwytai yn coginio bwyd i ni. At hyn, rydyn ni wedi derbyn cardiau gan ysgolion, ac wedi ymateb iddyn nhw.”
Dywedodd y Rhingyll Ricky Scarborough, sy’n gofalu am y ddwy ganolfan brofi, fod milwyr wedi bod yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid gan wynebu'r cyhoedd am y tro cyntaf yn eu gyrfaoedd.
“Mae hyn yn cyflwyno sawl her,” meddai.
“Ond mae wedi bod yn dda gweld gymaint mae’r milwyr wedi gallu addasu ac mae wedi bod yn eithaf trawiadol pa mor hawdd maen nhw wedi ymgymryd â’r gwaith.”
Mae’r systemau syml ar y safleoedd yn sicrhau nad yw cleifion yn treulio mwy na phum munud yno, felly byddan nhw ond yn cael cipolwg ar yr holl waith sy'n cael ei wneud i redeg y cyfan.
Mae’r milwyr yn gwneud amrywiaeth o rolau, yn cynnwys rhai sy'n ymdrin â’r cyhoedd, fel sicrhau diogelwch, stiwardio traffig, dosbarthu'r citiau profi sydd wedi'u pecynnu o flaen llaw, a chynorthwyo nyrsys i sicrhau cywirdeb y profion. Maent hefyd yn gwneud rolau yn y cefndir, yn cynnwys cynnal a chadw a rheoli’r safleoedd, dosbarthu adnoddau, cynnal gwiriadau, cadw'r generaduron i redeg, gwaith gweinyddu a chysylltu â chontractwyr.
Credyd: BIPBA
“Mae wedi bod yn brysur iawn,” meddai’r Is-gorporal Cameron Pearce, sydd ar ei leoliad cyntaf.
“Dydyn ni ddim fel arfer yn ymdrin â’r cyhoedd, felly mae wedi bod yn wahanol i’n gwaith o ddydd i ddydd.”
Ond er gwaethaf yr heriau sydd wedi’u hachosi gan y rôl yn sgil y pandemig, dywedodd y Rhingyll Scarborough eu bod wedi cydweithio’n dda â staff y GIG.
“Rydyn ni i gyd yn un tîm sy’n gweithio tuag at nod cyffredin,” meddai.
“Nid oes GIG na Byddin yma, ond yn hytrach un tîm mawr. Bu’n hawdd i ni bontio.”
Ym Margam, mae'r Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Melissa Hughes wedi sicrhau bod y cleifion yn gwybod bod y tîm gwych hwn yn gweithio er eu lles.
Un o'i chyfraniadau i'r oriel gelf sialc yw ffigurau lliwgar wedi'u tynnu uwchben y neges: ‘Cariad mawr gan ein teulu, Byddin y GIG’.
Credyd: BIPBA
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.