Mae staff sy'n gweithio mewn meddygfeydd ar draws Bae Abertawe yn cael cymorth i adnabod arwyddion cam-drin domestig ymhlith eu cleifion.
Cafodd y prosiect ei dreialu i ddechrau yn y practisau yng Nghwmni Cydweithredol Clwstwr Lleol y Cymoedd Uchaf a Chastell Nedd.
Yn dilyn ei lwyddiant a chytundeb ar ymrwymiad ariannu tair blynedd, caiff ei gyflwyno i bob practis meddyg teulu.
Mae Adnabod ac Atgyfeirio i Wella Diogelwch (neu IRIS yn gyffredin) yn rhaglen genedlaethol a ddatblygwyd fel ymyriad ar gyfer menywod sy’n ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig.
Yn y llun: Dr Laura Newington.
Mae’n darparu hyfforddiant i staff yn seiliedig ar yr eiriolaeth a’r cymorth sydd ar gael i gleifion benywaidd a’u teuluoedd sy’n ddioddefwyr cam-drin domestig, trafod llwybrau gofal a’r gwasanaethau cymorth lleol a chenedlaethol mwyaf priodol ar gyfer cleifion gwrywaidd sy’n ddioddefwyr a goroeswyr.
Gall cam-drin ddod mewn sawl ffurf gan gynnwys trais corfforol a rhywiol, ymddygiadau gorfodi a rheoli, rheolaeth ariannol, ynysu, caethiwo a stelcian.
Y partner a ddewiswyd i gyflwyno’r hyfforddiant i staff practisau meddygon teulu ym Mae Abertawe yw Calan DVS, sef un o’r elusennau cam-drin domestig mwyaf yng Nghymru.
Mae addysgwyr eiriol o Calan DVS ac arweinwyr clinigol meddygon teulu ymroddedig yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd i addysgu staff practis clinigol ac anghlinigol am sut i nodi a yw cleifion yn ddioddefwyr posibl cam-drin domestig.
Maent yn ymdrin â phynciau fel sut y gall dioddefwyr ddod i'r feddygfa a sut i ymdrin â'r pwnc o gam-drin domestig yn ddiogel ac yn gefnogol gyda dioddefwyr posibl.
Unwaith y bydd aelod hyfforddedig o staff yn cael sgwrs gyda chlaf ac wedi cael eu caniatâd, gallant eu cyfeirio at y rhaglen IRIS lle gallant dderbyn cymorth gan weithwyr cymorth profiadol yn Calan DVS.
Maent yn ymgysylltu â dioddefwyr i ddeall natur eu cam-drin yn llawn ac yn eu cyfeirio at wasanaethau priodol tra’n eu cefnogi’n agos drwy’r amser.
Erbyn diwedd mis Tachwedd, bydd tua 80 y cant o bractisau meddygon teulu ym Mae Abertawe wedi derbyn yr hyfforddiant - gyda'r nod o hyfforddi'r 20 y cant sy'n weddill erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Mae Dr Laura Newington yn feddyg teulu ym Meddygfa Tŷ'r Felin, Gorseinon, ac mae'n arweinydd clinigol Bae Abertawe ar gyfer y rhaglen IRIS.
Meddai: “Fel arweinydd clinigol IRIS, roedd fy meddygfa yn ymwybodol o’r prosiect yn gynnar ar ôl ei gyflwyno ym Mae Abertawe.
“Roedd fy nghydweithwyr yn awyddus i dderbyn yr hyfforddiant i’w galluogi i adnabod ac atgyfeirio cleifion â phrofiad o drais a cham-drin domestig i gael arweiniad a chymorth arbenigol, priodol a diogel.”
Mae staff clinigol yn cael dwy sesiwn hyfforddi, sy'n ddwy awr o hyd, tra bod staff y dderbynfa a staff gweinyddol yn cymryd rhan mewn sesiwn awr.
Mae sesiynau gloywi hefyd ar gael i staff sydd wedi cymryd rhan yn yr hyfforddiant yn flaenorol.
Dywedodd Laura fod yr hyfforddiant wedi helpu staff i siarad am gam-drin domestig mewn ffordd ddiogel, sydd wedi arwain at sgyrsiau agored nad ydynt efallai wedi digwydd ymlaen llaw.
“Rydym wedi gallu gwella ein hymwybyddiaeth a’n hymagwedd at drais a cham-drin domestig mewn gofal sylfaenol,” ychwanegodd.
“Rydym wedi gwella ein sgiliau o ran adnabod y rhai sydd mewn perygl a gallu gofyn yn uniongyrchol am drais a cham-drin domestig mewn ffordd ddiogel a phriodol.”
Nid yn unig y mae staff meddygfa ym Meddygfa Tŷ'r Felin wedi elwa o'r sesiynau hyfforddi ond hefyd meddygon dan hyfforddiant hefyd.
Dywedodd Laura: “Rydym yn bractis hyfforddi ar gyfer meddygon teulu dan hyfforddiant a myfyrwyr meddygol.
“Mae meddygon teulu dan hyfforddiant sy’n gweithio gyda ni wedi elwa o hyfforddiant IRIS hefyd.
“Pan fydd y meddygon hyn yn cymhwyso fel meddygon teulu hyfforddedig, bydd ganddyn nhw ymwybyddiaeth a phrofiad yn y maes pwysig hwn eisoes.
“Gobeithio y bydd yn parhau i wella’r ymateb i drais a cham-drin domestig ac yn y bôn yn gwella ansawdd bywyd, diogelwch a llesiant goroeswyr.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.