Roedd asyn bach ymhlith llu o anifeiliaid oedd yn gwneud ymweliad Nadolig arbennig ag Ysbyty Treforys yr wythnos hon.
Ymunodd llu o ymwelwyr pedair coes â'r asyn, gydag alpaca, dwy gafr, a thriawd o gwningod ymhlith creaduriaid mawr a bach eraill yn gwneud y daith fer o Will's Petting Farm o Gŵyr, gan ddod â gwên mawr i wynebau staff a chleifion.
Trefnwyd yr ymweliad rhad ac am ddim gan Reolwr Tîm Chwarae Gwasanaethau Plant Lisa Morgan, a oedd wedi bod yn chwilio am rywbeth gwahanol eleni i helpu gyda dathliadau cyn y Nadolig.
Ac ar ôl cael canmoliaeth fawr gan y rhai a gyfarfu â’r ffrindiau blewog y tu allan i Ganolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru’r ysbyty, mae Lisa nawr yn gobeithio y bydd modd ailadrodd y digwyddiad y flwyddyn nesaf.
Meddai: “Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth hollol wahanol i’r plant eleni, felly roedd yn garedig a hael iawn i Will’s Petting Farm i roi ymweliad anifail i ni.
“Roedd yn brofiad mor hyfryd i’r plant a phawb a ddaeth draw.
“Roedd gweld y gwenau ar wynebau'r plant oedd yn ddigon iach i fod oddi ar y ward yn amhrisiadwy. Roedd yn wych eu bod yn cael gweld a rhyngweithio ag anifeiliaid na fyddent yn eu gweld bob dydd.
“Roedd cymaint o staff ac ymwelwyr y tu allan ac fe wnaethon nhw i gyd fwynhau’r profiad hefyd. Hoffem ddiolch i Will ac mae eisoes wedi dweud y bydd yn dod yn ôl i ymweld â ni eto, sy’n wych.”
Ategwyd diolchgarwch Lisa gan Elusen Iechyd Bae Abertawe, sy'n rheoli rhoi 'rhoddion mewn nwyddau' i'r bwrdd iechyd, megis yr ymweliad â fferm anwesu.
“Hoffem ddiolch i Will am ddod â’i ffrindiau blewog i Ysbyty Treforys i’r plant a’r staff eu mwynhau,” meddai swyddog corfforaethol Elusen Iechyd Bae Abertawe, Lewis Bradley.
“Roedd ei angerdd i roi gwên ar wynebau unigolion yn hawdd i'w adnabod ac yn rhywbeth rydyn ni fel elusen yn ei werthfawrogi'n fawr.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.