Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n benwythnos gŵyl y banc - sut i gael mynediad at ofal brys pan nad yw'n argyfwng

Mae'n benwythnos gŵyl y banc – ac mae Adran Achosion Brys (A&E) Ysbyty Treforys yn debygol o fod yn brysur iawn.

Mae hyn yn golygu, er gwaethaf ymdrechion gorau'r staff, eich bod yn debygol o wynebu arhosiad hir iawn os byddwch yn dod i'r Adran Achosion Brys â salwch neu anaf nad yw'n bygwth bywyd. SYLWCH – os oes gennych boenau yn y frest/strôc/salwch difrifol neu anaf difrifol, DYLECH ddal dod i’r Adran Achosion Brys.

Os oes angen gofal brys arnoch, ond nid yw'n argyfwng, mae opsiynau eraill i'w hystyried:

  • Ar gyfer mân anafiadau, ewch i'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, Ffordd Baglan, Port Talbot, SA12 7BX. Mae ar agor rhwng 8yb a 9yh, saith diwrnod yr wythnos, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.

Gall drin oedolion a phlant dros un oed â mân anafiadau i'r corff fel briwiau, llosgiadau, ysigiadau, straeniau, dadleoliadau ac esgyrn wedi torri. NI ALL ymdrin ag amheuaeth o drawiadau ar y galon, poen yn y frest na strôc. Ar gyfer y rhain RHAID i chi fynd i'r ED.

I gael rhagor o wybodaeth am ba anafiadau y gall yr UMA eu trin, ewch yma .

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.