Mae technoleg flaengar, a gefnogir gan haelioni pobl, wedi helpu i greu dyfeisiau wedi'u teilwra i roi mwy o annibyniaeth i bobl anabl.
Mae cydweithrediad rhwng bwrdd iechyd Bae Abertawe a Phrifysgol Abertawe wedi arwain at ddatblygu eitemau wedi'u personoli fel dalwyr diaroglydd, cyrwyr gwallt a farnais ewinedd.
Ac mae arian a godwyd drwy elusen y bwrdd iechyd wedi helpu i ariannu rhai o'r deunyddiau a ddefnyddiwyd i ddatblygu'r cymhorthion.
Defnyddiodd Jonathan Howard (yn y llun isod), gwyddonydd clinigol yn yr Uned Beirianneg Adsefydlu yn Ysbyty Treforys, argraffu 3D o'r radd flaenaf i gynhyrchu dyluniadau ar gyfer y dyfeisiau.
Mae Georgia Sinclair, sydd â hemiplegia - parlys ochr chwith ei chorff - wedi elwa o'r prosiect.
Meddai: “Rwyf wedi cael trafferth i geisio bod yn annibynnol eto, ac mae Jonathan wedi bod yn dylunio cynhyrchion i mi ddod yn fwy annibynnol, fel fy helpu i wneud fy ngwallt.
“I mi, y frwydr gyda bod yn berson anabl yw eich bod yn brin o annibyniaeth ar bethau rydych chi’n gwybod sydd mor syml, ac mae’r prosiect hwn wedi rhoi hynny yn ôl i mi. Rwyf wedi dod yn llawer mwy annibynnol a does dim rhaid i mi ofyn i bobl wneud pethau i mi. Mae wedi bod o fudd mawr i mi.”
Mae cyd-gyfranogwr, Daniel Jones, yn cael defnyddio un llaw oherwydd parlys yr ymennydd.
Meddai: “Mae’r prosiect hwn wedi cael effaith aruthrol arnaf.
“Un o’r pethau sydd wedi’i gynllunio i mi yw daliwr diaroglydd. Gan na allaf ddefnyddio fy llaw dde, nid oeddwn yn gallu cael y diaroglydd o dan fy nghesail chwith ond mae'r daliwr wedi caniatáu i mi wneud hynny.
“Mae wedi rhoi cymaint mwy o reolaeth i mi, sy’n help enfawr i mi.”
Mae Elusen Iechyd Bae Abertawe, yr elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, wedi ariannu deunyddiau i gefnogi cynhyrchu dyfeisiau.
Dywedodd Jonathan: “Rwy’n gwneud PhD trwy Brifysgol Abertawe ac mae’r cyllid rydym wedi’i dderbyn drwy’r elusen wedi caniatáu i ni edrych ar ein hymchwil sy’n cynnwys y defnyddiwr terfynol wrth ddylunio eu technoleg gynorthwyol eu hunain.
“Mae’r dyfeisiau rydyn ni’n eu dylunio wedi bod yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf fel argraffu 3D a dylunio â chymorth cyfrifiadur, sy’n ein galluogi i addasu’r dyfeisiau i anghenion y defnyddiwr.”
O ganlyniad i’r llwyddiannau ac adborth cadarnhaol gan y cyfranogwyr, mae’r prosiect wedi’i enwebu ar gyfer gwobr y Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth am arloesi mewn gwyddor gofal iechyd yng Ngwobrau Hyrwyddo Gofal Iechyd y DU 2022, a gynhelir ar Ebrill 8.
Dywedodd Deborah Longman, pennaeth codi arian Elusen Iechyd Bae Abertawe: “Prosiectau arloesol fel hyn yw’r union fath o beth sy’n fy ngwneud i’n falch o’r codi arian rydyn ni’n ei wneud yma ym Mae Abertawe.
“Ni fyddai gallu cefnogi’r cyfranogwyr hyn a gwneud gwelliannau diriaethol i’w bywydau yn bosibl heb y rhoddion caredig a hael gan ein cefnogwyr.
“Mae Jonathan yn wyddonydd rhagorol sy’n angerddol am ei waith, a thrwy gydweithio mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dymunwn bob llwyddiant i Jonathan yn y seremoni wobrwyo.”
Mae'r cyfranogwyr wedi rhannu eu buddion ar fideo, sydd i'w weld ar y ddolen hon. Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai dolenni allanol ddim ar gael yn y Gymraeg.
Yn y llun: Daliwr diaroglydd a grëwyd gan Jonathan Howard.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn codi arian i gefnogi gwasanaethau'r GIG yn Abertawe a Castell-nedd Port Talbot? Oeddech chi'n gwybod bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol bae Abertawe ei elusen codi arian ei hun?
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.