Mae galw uchel iawn yn effeithio ar bob ysbyty ym Mae Abertawe. Mae’r gwasanaeth iechyd ar draws Cymru gyfan hefyd yn hynod o brysur.
Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu, gan gynnwys creu capasiti ychwanegol ar draws ein holl safleoedd yn ogystal â gweithio'n agos gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol i gynyddu nifer y gollyngiadau i'r eithaf.
Ond mae ein gallu i dderbyn cleifion sy'n ddifrifol wael ac sydd angen gwely yn gyfyngedig iawn o hyd.
Rydym yn gofyn am gefnogaeth y cyhoedd i'n helpu i ryddhau'r cleifion hynny yr aseswyd eu bod yn addas.
Os yw eich perthynas wedi cwblhau ei driniaeth a'i fod wedi cael gwybod y gall gael ei ryddhau, ewch ag ef adref.
Os ydynt yn aros am ragor o gefnogaeth yn y gymuned, a fyddech cystal â mynd â nhw adref a darparu gofal pontio hyd nes y bydd hynny yn ei le os yw hyn yn bosibl.
Byddwch yn helpu'ch anwylyd i wella'n well a lleihau eu risg o haint.
Byddwch hefyd yn helpu'r cleifion niferus sydd angen gwely.
Rydym hefyd yn annog y cyhoedd i beidio â mynd i'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Treforys oni bai bod hynny'n gwbl anochel.
Defnyddiwch y dewisiadau eraill a restrir isod. Fodd bynnag, os oes gennych boenau yn y frest/strôc/salwch difrifol neu anaf difrifol, RHAID i chi ddod i'r Adran Achosion Brys o hyd. (Peidiwch â mynychu'r Uned Mân Anafiadau.)
Ewch i wefan GIG 111 Cymru neu ffoniwch 111 am gyngor pan nad yw'n argyfwng.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.