Pan oedd Paul a Lindsay Crutchley yn cychwyn Hanner Marathon Abertawe roedd ganddyn nhw fwy ar eu meddyliau na chroesi'r llinell derfyn yn unig.
Roedd y cwpl o Bryncoch yng Nghastell-nedd hefyd yn codi arian ar gyfer adran cleifion allanol y plant yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
Fe wnaethant gofrestru ar gyfer y rhediad 13.1 milltir ar ôl cael eu hysbrydoli gan y nyrs epilepsi Lisa Phillips sy'n helpu i edrych ar ôl eu mab Ellis (yn y llun gyda'i frawd iau, Evan).
Meddai Paul, “Aethon ni i gefnogi Lisa pan rhedodd hi Hanner Marathon Abertawe llynedd. Dywedodd yn cellwair, ‘o, wel, chi’ch ddau yn gallu redeg flwyddyn nesaf.”
“I ddechrau, dim ond ychydig bach o her bersonol oedd e, a roddem yn gadw inni ein hunain, ond wedyn sylwddown, pe baem yn mynd i'w rhedeg, ei fod yn gyfle perffaith i godi rhywfaint o arian ar gyfer yr uned cleifion allanol sydd wedi gwneud cymaint dros ni fel teulu. ”
Mae staff yn yr uned cleifion allanol wedi gofalu am Ellis, sydd ag epilepsi ac awtistiaeth, ers pan oedd yn pedwar blwydd oed. Mae ef a'i frawd iau, Evan, yn ymwelwyr rheolaidd â'r ysbyty i gael profion gwaed, archwiliadau ac apwyntiadau cleifion allanol.
“Mae’r staff wastad yn wych,” meddai Paul.
“Mae cymaint o wasg wael o amgylch ysbytai a’r GIG ond bob tro mae’r bechgyn yn dod yma mae’r staff yn wych. Mae nhw wastad yn gyfeillgar ac yn barod i ateb ein cwestiynau. Ni ddim yn gallu canmoli nhw digonol. ”
Meddai Lindsay: “Penderfynom ni i wneud y ras ar gyfer y Ganolfan Cleifion Allanol fel ffordd o ddweud diolch am bopeth maen nhw wedi'i wneud i ni.
“Dechreuon ni tudalen Just Giving, gyda tharged o £ 200. Ac roedd yn dal yn symud i fyny, ac i fyny, o fewn 24 awr roeddem wedi dyblu ein targed. Roedd y gefnogaeth yn anhygoel. ”
Cwblhaodd y cwpl y ras 13.1 milltir mewn 3 awr a 15 munud, gyda Lindsay yn ffrydio'n fyw ar ei thudalen Facebook fel y gallai cefnogwyr nad oeddent yn gallu cyrraedd Abertawe ar y diwrnod rannu'r profiad.
Meddai Lindsay, “Roeddwn I’n sefyll wrth y llinell gychwyn yn meddwl,‘ Fi ddim yn gallu wneud hyn! ’Ond roedd gwybod faint yr oeddem wedi’i godi a faint y byddai’r ganolfan yn elwa ohono yn gymhelliant enfawr.”
Defnyddiwyd y £462 a godwyd i brynu tabledi cyfrifiadur, teganau a llyfrau lliwio i blant yn yr Uned Cleifion Allanol, yn ogystal â dau fans mawr eu hangen ar gyfer yr ardal aros.
Yn y llun ar y chwith: Nyrs Feithrinfa Gillian Thomas, a'r derbynnydd Dawn Jenkins yn derbyn siec gan y teulu.
Eglura'r Nyrs Feithrin, Gillian Thomas, “Does dim ffenestri yn yr adran felly gall fynd yn boeth a stwfflyd iawn, felly mae'r fans yn gwneud gwahaniaeth enfawr.
“Dydyn ni ddim arfer â rhoddion fel hyn, oherwydd mae'r adran cleifion allanol yn aml yn yn mynd yn angof. Mae’r pethau bach yn gwneud gwahaniaeth mor fawr, fel cael iPad y gellir ei ddefnyddio i dynnu sylw pan rydyn ni'n cymryd gwaed, neu deganau a sticeri bach y gellir eu cynnig fel gwobr am fod yn ddewr yn lle losin. Rydyn ni mor ddiolchgar i Paul a Lindsay am eu rhodd. ”
Ac mae'n ymddangos bod Paul a Lindsay wedi cael eu brathu gan y byg rhedeg.
“Rydyn ni’n dau wedi arwyddo i wneud Hanner Marathon Abertawe eto’r flwyddyn nesaf,” meddai Lindsay.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.