Neidio i'r prif gynnwy

Mae penaethiaid iechyd yn annog pobl i amddiffyn eu hunain a'u plant ynghanol ofnau newydd am y frech goch

Delwedd o blentyn yn dangos brech y frech goch ar ei ysgwydd.

Mae pobl sy'n byw yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cael eu hannog i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag y frech goch wrth i benaethiaid iechyd cyhoeddus rybuddio eu bod yn credu bod yr achosion yng Ngwent yn lledu yn y gymuned, gyda naw achos wedi'u cadarnhau.

Mae Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Jennifer Davies, yn galw ar y gymuned i ymateb yn gadarnhaol a sicrhau eu bod nhw a’u plant yn cael eu hamddiffyn yn llawn gyda dau ddos o’r brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR). Mae dos cyntaf y brechlyn MMR fel arfer yn cael ei roi rhwng 12 – 13 mis oed, a’r ail ddos yn cael ei roi tua thair blwydd a phedwar mis oed.

Mae’r brechlyn MMR ar gael drwy eich meddyg teulu, am ddim ar y GIG. Cysylltwch â'ch meddyg teulu i drefnu brechiad, neu os nad ydych yn siŵr os ydych chi neu'ch plentyn wedi cael dau ddos o MMR.

Fel arall, gallwch alw heibio ein canolfan frechu leol yng Nghanolfan Gorseinon, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9:00yb – 5:00yh.

Gallwch hefyd gysylltu â Thîm Imiwneiddio BIP Bae Abertawe ar 01792 200492, i wirio pa ddosau sydd eu hangen arnoch chi neu'ch plentyn.

Mae’r brechlyn MMR yn ddiogel ac yn effeithiol, ac yn amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (brech goch yr Almaen). Mae'r clefydau hyn yn hynod heintus a gallant ledaenu'n hawdd iawn rhwng pobl nad ydynt wedi'u brechu.

Ystyrir bod plant, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion nad ydynt wedi cael eu brechu, neu sydd wedi cael dim ond un dos o MMR, heb eu diogelu.

Unwaith y byddwch wedi derbyn y ddau ddos, ystyrir eich bod wedi'ch diogelu am oes, ac ni fydd angen unrhyw ddosau pellach arnoch yn y dyfodol.

Gall y frech goch wneud plant ac oedolion yn sâl iawn, a bydd rhai pobl sydd wedi'u heintio yn dioddef cymhlethdodau sy'n newid bywydau. Mae pobl mewn rhai grwpiau sydd mewn perygl, gan gynnwys babanod a phlant ifanc, menywod beichiog, a phobl ag imiwnedd gwan, mewn mwy o berygl o gymhlethdodau oherwydd y frech goch.

Os nad ydych chi neu'ch plentyn wedi'ch brechu a'ch bod yn dod i gysylltiad â rhywun sy'n dioddef o'r frech goch, efallai y cewch eich cynghori i aros adref (cwarantîn) ac i ffwrdd o'r gwaith neu'r ysgol am 21 diwrnod i sicrhau nad ydych chi neu'ch plentyn yn trosglwyddo'r frech goch i eraill os byddwch yn cael eich heintio. Mae’n bosibl y gofynnir i athrawon, gweithwyr iechyd a gofal, a staff eraill hefyd aros gartref os nad ydynt wedi’u brechu a dod i gysylltiad â rhywun â’r frech goch.

Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Dros Dro Bae Abertawe, Jennifer Davies “Mae’r brechlyn MMR yn frechlyn diogel ac mae dau ddos yn darparu amddiffyniad ardderchog rhag y frech goch. Mae angen inni sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael eu brechu, yn enwedig plant.

“Yn ardal Abertawe, bydd llawer yn cofio’r achosion o’r frech goch yn 2013, bu farw un person o ganlyniad i ddal y frech goch. Ymatebodd y cyhoedd drwy wella’r nifer sy’n cael MMR i lefelau a ddaeth â’r achosion i ben yn gynnar.

“Os ydych chi neu’ch plentyn angen cyngor meddygol ar ôl mynd yn sâl gyda thymheredd uchel a pheswch, symptomau annwyd neu frech, gwiriwch GIG 111 am gyngor yn gyntaf. Mae'r frech goch yn heintus iawn a dylech ffonio i egluro'r symptomau sydd gennych cyn mynd at eich meddyg teulu neu ddarparwr arall.

“Os ydych chi neu’ch plentyn wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd â’r frech goch rydych chi’n debygol iawn o’i gael eich hun o fewn 21 diwrnod oni bai eich bod wedi cael eich brechu.”

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn MMR drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.