Gwahoddwyd tair nyrs o Fae Abertawe i Balas Buckingham gan y Brenin Charles fel gwobr am eu cyfraniad amhrisiadwy i'r GIG.
Cyfarfu Manjula Sajeevan, Cerina Howells, ac Omobola Akinade â'r brenin fel rhan o'i ddathliadau penblwydd yn 75 a oedd yn nodi cyfraniad nyrsys a bydwragedd rhyngwladol i sector iechyd a chymdeithasol y DU.
Cawsant eu henwebu gan y bwrdd iechyd fel tair o 25 o nyrsys a bydwragedd ledled Cymru.
Mae Omobola, a symudodd i Abertawe o Nigeria 18 mlynedd yn ôl, bellach yn nyrs datblygu ymarfer sy'n hyfforddi nyrsys rhyngwladol.
YN Y LLUN: Omobola Akinade yn sgwrsio â'r Brenin Charles yn y digwyddiad ym Mhalas Buckingham.
Mae hi wedi bod yn fodel rôl ar gyfer nyrsys Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar draws y bwrdd iechyd. Mae hi wedi siarad yn erbyn hiliaeth yn y gweithle, wedi helpu swyddi lefel uwch i ddod yn fwy amrywiol ac wedi bod yn ffigwr allweddol i nyrsys tramor sydd wedi gadael cartref i weithio ym Mae Abertawe.
Rhannodd Omobola sgwrs arbennig gyda’r Brenin Charles, a’i synnu gyda’i sgiliau Cymraeg.
Dywedodd Omobola: “Roedd cwrdd â’r Brenin Charles yn anrhydedd mor arbennig i ni. Roedd yn brofiad unigryw mynd i Balas Buckingham a chwrdd â'r teulu brenhinol.
“Roedd y Brenin Charles mor gwrtais. Dywedais wrtho fy mod yn dod o Abertawe a dymunais ben-blwydd hapus iddo yn Gymraeg, ac roedd yn falch ohono. Fi oedd y nyrs olaf i gwrdd ag ef, ond cymerodd ei amser i sgwrsio â mi, a oedd yn braf iawn.”
Mae Manjula, sy’n prif nyrs yn yr Uned Therapi Dwys Cardiaidd, wedi treulio’r 16 mlynedd diwethaf yn gweithio i’r bwrdd iechyd ers symud o Kerala, India.
YN Y LLUN: Manjula Sajeevan, Omobola Akinade a Cerina Howells y tu allan i Balas Buckingham.
Mae hi'n aml yn helpu nyrsys rhyngwladol o fewn y ganolfan gardiaidd i setlo yn eu rolau, ac yn eu cefnogi y tu allan i sifftiau. Mae hi hefyd yn cynrychioli'r bwrdd iechyd yng Nghymdeithas Nyrsys Indiaidd Prydain.
Dywedodd Manjula: “Wrth sefyll y tu allan i Balas Buckingham – lle roeddwn i ddim ond wedi’i weld ar y teledu – roedd gweld y gwarchodwyr ar geffylau a gwisgo yn fy Sari Indiaidd yn gwneud i mi deimlo fel Sinderela!
“Roeddwn i’n teimlo’n falch iawn o fod yno a chwrdd â’r Brenin Charles. Ysgwydiais ei law a dymunais penblwydd hapus iddo cyn iddo ddiolch i mi am fy holl waith caled.
“Cwrddais hefyd â Phrif Swyddog Nyrsio Lloegr, y Fonesig Ruth May. Dywedodd fod gen i acen Abertawe cryf! Hyfforddodd yng Nghasnewydd, felly cododd ar hynny ar unwaith.”
Enwebwyd Cerina am ei hymdrech a’i hawydd i newid y ffordd yr ymdrinnir ag wlserau pwysau mewn cleifion penodol ledled Cymru er mwyn osgoi poen a niwed diangen.
Mae hi wedi bod yn ailasesu’r prosesau presennol o ran gwneud diagnosis a thrin niwed pwysau ym Mae Abertawe a ledled Cymru fel bod cleifion â thôn croen tywyll o bob ethnigrwydd hefyd yn cael eu cynnwys, ac nid cleifion â thôn ysgafn yn unig.
LLUN: Cerina Howells yn mwynhau sgwrs gyda'r Brenin Charles.
Mae hi hefyd wedi’i henwi’n un o Gymrodyr Academi Sefydliad Florence Nightingale (FNF) cyntaf y bwrdd iechyd, i helpu i ddatblygu ei harweinyddiaeth a’i sgiliau ymhellach drwy raglen fentora.
Dywedodd Cerina: “Roedd yn fraint wirioneddol cael gwahoddiad i gwrdd â’r Brenin Charles ym Mhalas Buckingham. Rydym yn falch iawn o weithio i’r GIG, a hefyd am y cyfraniad a wnawn.
“Rydyn ni’n teimlo ein bod ni yno hefyd i gynrychioli ein cydweithwyr sy’n gwneud gwaith mor anhygoel bob dydd.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.