Neidio i'r prif gynnwy

Mae gweithdai yn rhoi blas i bobl ifanc yn eu harddegau o yrfaoedd ffisiotherapi posib

Physiotherapy workshop

Cafodd pobl ifanc yn eu harddegau flas ar yr hyn y mae gyrfa mewn ffisiotherapi yn ei olygu diolch i weithdy yn Ysbyty Treforys.

Roedd y digwyddiad arbennig wedi'i anelu at bobl ifanc 14 – 17 oed sydd â diddordeb yng ngwaith ffisiotherapyddion, sy'n helpu pobl sydd wedi'u heffeithio gan anaf neu anabledd i reoli poen ac atal afiechyd trwy symud, ymarfer corff a therapi.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau gan therapyddion profiadol sy'n gweithio gydag ystod o grwpiau cleifion, ac amlinellodd yr hyfforddiant a chwmpas ymarfer ffisiotherapydd cymwysedig.

Roedd hefyd yn sesiwn ryngweithiol, gyda phobl ifanc yn cymryd rhan mewn trafodaethau ac arddangosiadau ymarferol.

Physiotherapy workshop

Roedd myfyrwyr a chynrychiolwyr eraill o Brifysgol Caerdydd hefyd wrth law i gynnig cipolwg gwerthfawr ar sut i wneud cais ac astudio am yrfa mewn ffisiotherapi.

Dywedodd yr uwch ffisiotherapydd Vicki Evans: “Roedd yn gyfle gwych i ni hyrwyddo ein proffesiwn ac i’r myfyrwyr gael gwell dealltwriaeth o’n rôl. Gobeithio ein bod ni wedi ysbrydoli rhai o’n myfyrwyr lleol i ddod yn Ffisiotherapyddion a, phwy a ŵyr, efallai y byddan nhw’n dod i weithio gyda ni yn y dyfodol.”

Roedd y gweithdy yng Nghanolfan Addysg yr ysbyty am ddim ac yn agored i fyfyrwyr sy'n byw yn nalgylch Bae Abertawe.

Ychwanegodd Joe Williams, sy'n !5 oed: “Rwyf wedi bod â diddordeb mewn darganfod mwy am beth yn union sydd ynghlwm wrth ffisiotherapi, gan ei fod yn rhywbeth yr hoffwn ei ddilyn fel gyrfa.

“Roedd y cyflwyniadau yn gyfle i ddysgu mwy ac roedd yn ddefnyddiol gwrando ar fyfyrwyr yn ogystal â’r ffisiotherapyddion cymwys, i gael eu barn ar yr hyn sydd ei angen.”

Cynhelir y gweithdy unwaith neu ddwy bob blwyddyn a chaiff ei hysbysebu ar wefan Bae Abertawe.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.