Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion yn cynnig cymorth cynnar ar gyfer iechyd meddwl a lles pobl ifanc

Mae

YN Y LLUN: Staff Mewngymorth yr Ysgol (o'r chwith) Lucy Bolton, arweinydd tîm; ymarferwyr Angharad Thomas, Emma Jenkins ac Ellen O'Flynn; Claire Norman, nyrs arweiniol ar gyfer CAMHS; ymarferwyr Mark Parry, Ceri-Ann Hunt, Lyndsey Vaughn-Gibson, Conor Lloyd, Amy Glass, Laura Beavan a Kelly Austin ynghyd â Donna Williams, nyrs glinigol arbenigol.

Mae pobl ifanc yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot a allai fod yn cael trafferth gyda'u hiechyd a'u lles emosiynol yn cael cymorth iechyd meddwl cynharach, diolch i wasanaeth mewngymorth sy'n tyfu mewn ysgolion.

Mae tîm Mewngymorth Ysgolion CAMHS (Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed) yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar yn hytrach nag aros i broblemau waethygu, a all arwain at bobl ifanc wedyn angen atgyfeiriad i CAMHS.

Mae eisoes wedi atal cannoedd o blant ysgol rhag bod angen eu hatgyfeirio i wasanaethau iechyd meddwl.

Mae Mae nyrsys ac ymarferwyr y gwasanaeth yn rhannu eu harbenigedd gyda staff ysgolion ar dechnegau i reoli anawsterau iechyd meddwl ymhlith plant, ac yn darparu hyfforddiant wedi'i dargedu a gweithdai pwrpasol i ysgolion.

Mae plant hefyd wedi gallu cael cymorth CAMHS yn fwy prydlon, os oes angen.

Mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda thua 275 o ysgolion cynradd ac uwchradd ym Mae Abertawe, ar ôl dechrau fel prosiect peilot mewn un ysgol dim ond pum mlynedd yn ôl. Mae’n helpu disgyblion hyd at lefel chweched dosbarth, tra mae hefyd yn cefnogi rhieni plant sy’n cael eu haddysgu gartref.

Mae ei lwyddiant hefyd wedi lleihau nifer yr atgyfeiriadau o blant pump i ddeg oed i’w wasanaeth iechyd meddwl o 221 o achosion (17 y cant) dros gyfnod o dair blynedd.

Mae bellach wedi’i gydnabod gan Wobrau cenedlaethol y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN), a dderbyniodd 920 o geisiadau o bob rhan o’r DU, gyda’r tîm Mewngymorth Ysgolion yn sefyll allan ac wedi’u henwebu ar gyfer y categori Nyrsio Iechyd Meddwl.

Dyma’r ail wasanaeth ym Mae Abertawe i gyrraedd y rhestr fer, gyda’r tîm wardiau rhithwir hefyd yn y categori Nyrsio Pobl Hŷn.

Dywedodd Claire Norman, nyrs arweiniol ar gyfer CAMHS: “Atal cynnar yw ein nod ac mae addysg yn chwarae rhan enfawr yn hynny.

“Rydym yn darparu cefnogaeth i staff yr ysgol gan mai nhw yw’r llinyn sy’n rhedeg trwy fywydau’r plentyn gan fod y plant yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn yr ysgol.

“Mae yna wahanol strategaethau yr ydym yn edrych arnynt yn dibynnu ar angen. Efallai ein bod yn gofyn i’r athro/athrawes gynnig am ychydig o amser tawel, siecio i mewn neu gefnogaeth fel oedolyn y gellir ymddiried ynddo i’r disgybl. Rydym yn defnyddio dull fesul cam, ond yn y pen draw os na fydd hynny’n gweithio a bod y plentyn yn cael trafferth, gallant gael apwyntiad sgrinio a fydd yn nodi cymorth ychwanegol, gan gynnwys mynediad at CAMHS.

“Ein nod yw atal plant rhag bownsio rhwng gwasanaethau. Mae’n rhaid i ni ddeall beth mae’r plentyn yn delio gyda, a rhoi’r hyder i ysgolion a theuluoedd wybod am y cymorth sydd ei angen.”

Mae Mae gan bob ysgol ymarferydd iechyd a lles emosiynol penodol ac arbenigwr nyrsio clinigol. Mae hefyd yn ymestyn y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

Dywedodd Lucy Bolton, arweinydd tîm y gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion: “Rydym yn gwneud llawer o gwmpas ymyriadau gyda phobl ifanc, ynghyd â sesiynau grŵp ac unigol ond rydym wedi ymestyn hynny i deuluoedd. Rydym yn cynnal gweithdai i rieni a gallwn gynnig cyngor 1-1 lle teimlwn fod ei angen.

“Tra bod athrawon a’r plant yn bwysig iawn, os nad ydyn ni’n cefnogi ac yn rhoi cyngor i deuluoedd yna rydyn ni’n colli tric.”

YN Y LLUN: Mae Fran Pugsley, ymarferydd iechyd a lles emosiynol, yn rhan o dîm CAHMS.

Mae'r gwasanaeth nawr yn gobeithio ennill mwy o lwyddiant yng Ngwobrau'r RCN yn Lerpwl ym mis Tachwedd.

Dywedodd Donna Williams, nyrs glinigol arbenigol sydd wedi gweithio o fewn CAMHS am y 18 mlynedd diwethaf: “Roedd yn syndod hyfryd i waith y tîm gael ei gydnabod gydag enwebiad ar gyfer Gwobrau’r RCN.

“Bydd cael y cyfle i arddangos ein gwaith yn y rownd derfynol yn cefnogi’r egni, y brwdfrydedd a’r angerdd i barhau i ddatblygu ein gwasanaeth.

“Mae’n rhoi hwb enfawr i’n tîm i wybod bod ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc. Mae cael ein henwebu ar gyfer y wobr fawreddog hon yn dystiolaeth bellach o’r cynnydd yr ydym yn ei wneud fel tîm.”

Bydd wyth ward rithwir y bwrdd iechyd hefyd yn gobeithio am lwyddiant yn y seremoni yn ddiweddarach eleni.

Maent yn darparu cymorth cofleidiol yn y gymuned i bobl ag anghenion iechyd a chymdeithasol cymhleth.

Yn hytrach na bod ward yn cynnwys gwelyau ysbyty, mae gwelyau'r cleifion eu hunain yn dod yn rhan o ward rithwir, sy'n golygu eu bod yn dal i dderbyn gofal wyneb i wyneb ond yng nghysur eu cartrefi yn lle ysbyty.

Mae tîm amlddisgyblaethol sy'n cynnwys gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis meddygon, nyrsys, fferyllwyr a therapyddion, yn trafod sut i gynllunio a rheoli gofal pob claf, gan sicrhau y cynhelir asesiad wyneb i wyneb ac ymyrraeth.

Mae staff yn defnyddio technoleg ddigidol i dynnu'r timau mawr ynghyd yn rhithwir, gan wneud cyfathrebu a chynllunio gofal yn fwy effeithiol.

Ers ei gyflwyno yn 2021, mae’r gwasanaeth wedi arbed dros 28,000 o ddyddiau gwely o ran osgoi derbyniadau neu leihau arhosiad yn yr ysbyty.

Dywedodd Emily Davies, pennaeth nyrsio dros drawsnewid Bae Abertawe: “Mynd y filltir ychwanegol i’n cleifion yw hanfod nyrsio, ac rydym yn ymdrechu i sicrhau’r canlyniadau gorau oll i’n cleifion a’n teuluoedd o ddydd i ddydd.

“Mae ein menter wardiau rhithwir wedi bod yn broses gyflym o gyflwyno gwasanaeth newydd. Mae cael eich cydnabod yn y categori hwn yn werth chweil.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.