Mae’r genhedlaeth nesaf wedi cael eu haddysgu am wella eu hiechyd a’u lles diolch i ddigwyddiad a gynhaliwyd yn eu hysgol.
Cynhaliodd Grŵp Cydweithredol Clwstwr Lleol Penderi (LCC) y digwyddiad yn Ysgol Gynradd Cadle, Abertawe, i helpu i gefnogi disgyblion a’u rhieni i fyw bywydau iachach fyth.
Yn y llun: Staff Ysgol Gynradd Cadle Katie Taylor a Helen Davies gyda rheolwr datblygu busnes a gweithredu LCC Penderi Anna Tippett ac arweinydd LCC Penderi Dr Sowndarya Shivaraj.
Hwn oedd digwyddiad cyntaf y clwstwr a gynhaliwyd mewn ysgol gynradd, gyda phwyslais ar ddysgu plant a phobl ifanc am bwysigrwydd eu hiechyd a’u lles.
Mae’r clwstwr eisoes wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau llesiant rhad ac am ddim, sydd wedi cynnwys gweithdai amrywiol ac arddangosiadau coginio i’r cyhoedd, yn ogystal â chymorth a chyngor gan grwpiau a sefydliadau cymunedol.
Y nod fu cefnogi ac ysgogi pobl i wella eu hiechyd a'u lles trwy godi ymwybyddiaeth o'r gwahanol adnoddau a sefydliadau sydd ar gael iddynt.
Dywedodd Dr Sowndarya Shivaraj, Meddyg Teulu yng Nghanolfan Feddygol Fforestfach ac arweinydd LCC Penderi: “Nod ein digwyddiadau cymunedol rhad ac am ddim yw dod ag ystod o randdeiliaid iechyd, gofal cymdeithasol a thrydydd sector ynghyd i rannu gwybodaeth gyda’r gymuned leol mewn awyrgylch croesawgar a chyfeillgar.
“Y tro hwn, fe wnaethon ni weithio mewn partneriaeth ag ysgol leol i drefnu’r digwyddiad.
“Y pwrpas oedd rhoi cyfle i rieni prysur sy’n gweithio ac unigolion iau fynychu’r digwyddiad hwn mewn amgylchedd ysgol cyfarwydd.
“Ein nod oedd eu cefnogi a’u hysgogi i wella iechyd a lles eu plant a’u teuluoedd.”
Daeth nifer o dimau byrddau iechyd i’r digwyddiad i gynnig gwybodaeth am amrywiaeth o wasanaethau, megis y gwasanaeth imiwneiddio, y gwasanaeth nyrsio mewn ysgolion a’r gwasanaeth Helpa Fi i Stopio.
Roedd sefydliadau cymunedol fel Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Barnardo's a'r tîm Cydgysylltu Ardaloedd Lleol hefyd wrth law i roi cyngor a gwybodaeth i rieni.
Yn y llun: Staff o'r gwasanaeth imiwneiddio.
Dywedodd Georgina Assadi (yn y llun ar y dde) , rheolwr prosiect a datblygu gwasanaeth ar gyfer gwasanaeth imiwneiddio Bae Abertawe: “Rydym yn wasanaeth imiwneiddio newydd, ac rydym yn hyrwyddo brechiadau yn y gymuned i atgoffa pobl ei fod yn flaenoriaeth.
“Rydym yn dîm ymroddedig ar gyfer cyngor a gwybodaeth ac yn anelu at leihau annhegwch brechu.
“Roedden ni wedi ein lleoli yn y ganolfan frechu torfol yn flaenorol ond rydyn ni nawr yn gweithio gyda chymunedau lleol i gyfleu’r negeseuon cywir ynghylch brechiadau.”
Mynychodd staff o wasanaeth nyrsio ysgolion y bwrdd iechyd y digwyddiad i godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth i rieni a phlant.
Dywedodd Victoria Kiernan, Dirprwy Bennaeth Nyrsio Plant a Phobl Ifanc a’r nyrs arweiniol broffesiynol ar gyfer nyrsio ysgol a phlant sy’n derbyn gofal: “Siaradodd y tîm â theuluoedd am y gwasanaeth iechyd cyhoeddus rydym yn ei ddarparu i blant oed ysgol.
“Mae hyn yn cynnwys golchi dwylo, maeth a hydradu, imiwneiddio a glasoed.
“Roedd y tîm yn gallu siarad â theuluoedd am sut y gallant gysylltu â’u nyrs ysgol a’u cyfeirio at wefan y bwrdd iechyd am ragor o wybodaeth.”
Yn y llun: Disgybl yn rhyngweithio â swyddogion diogelu iechyd Cyngor Abertawe.
Dywedodd Cal Prangle, swyddog diogelu iechyd yng Nghyngor Abertawe: “Rydym wedi siarad â rhieni a phlant i dynnu sylw at y ffaith ein bod yn agosáu at gyfnod lle mae gwenwyn bwyd yn risg gyda barbeciws a phicnic.
“Ein nod yw hyrwyddo’r pethau cyffredinol y gall pobl eu gwneud i leihau eu risg megis golchi eu dwylo.”
Hwn oedd y digwyddiad cyntaf o'i fath i gael ei gynnal yn Ysgol Gynradd Cadle, gyda mwy wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol gobeithio.
Dywedodd Katie Taylor, swyddog lles yn yr ysgol: “Fe wnaethon ni anfon holiadur at rieni, a dywedon nhw eu bod eisiau digwyddiad i’r gymuned.
“Mae wedi bod yn llwyddiant gwirioneddol ac mae’r adborth gan rieni wedi bod yn gadarnhaol iawn.
“Hoffem adeiladu arno a chynnal digwyddiad arall.”
Ychwanegodd Helen Davies, swyddog cyswllt teuluoedd yr ysgol: “Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig i’r bobl wybod beth sydd yn eu cymuned.
“Gall helpu i gymryd peth o’r pwysau oddi ar feddygon teulu gan fod pobl yn ennill gwybodaeth am wasanaethau a chymorth efallai nad ydynt yn gwybod amdanynt.”
Bydd LCC Penderi yn cynnal mwy o ddigwyddiadau lles yn y gymuned dros y misoedd nesaf.
Ychwanegodd Dr Shivaraj: “Rydym yn angerddol am weithio gyda’r gymuned leol a chredwn fod ein digwyddiadau’n darparu cyfleoedd i ddeall a mynd i’r afael ag anghenion rhieni a phlant ar gyfer cefnogi eu hiechyd a’u lles.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.