Mae cyflwyniad llwyddiannus HEPMA ar draws Bae Abertawe yn parhau, ac ysbyty Cefn Coed yw'r diweddaraf i groesawu'r system rhagnodi electronig newydd.
Mae Rhagnodi Electronig a Gweinyddu Meddyginiaethau mewn Ysbytai, a elwir yn gyffredin fel HEPMA, yn trawsnewid y ffordd y mae meddyginiaeth yn cael ei rheoli yn ysbytai Bae Abertawe.
Mae BIP Bae Abertawe yn arwain y ffordd yng Nghymru fel y sefydliad braenaru ar gyfer y system ddigidol newydd, ac wrth iddi fynd yn fyw ar draws mwy a mwy o wardiau, mae ei llwyddiant yn disgleirio.
Iechyd Meddwl yw'r gwasanaeth diweddaraf i elwa o'r dechnoleg newydd, gyda Ward F a'r ward dadwenwyno yng Nghastell-nedd Port Talbot yn mynd yn fyw ym mis Gorffennaf ac ysbyty Cefn Coed ym mis Awst. Mae Ysbyty Tonna, Clinig Caswell a Taith Newydd yng Nglanrhyd wedi'u cynllunio ar gyfer y mis nesaf. Mae cynlluniau ar gyfer gweithredu ar draws Anableddau Dysgu ar y gweill.
Dywedodd Dermot Nolan, Cyfarwyddwr Cyswllt Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu: “Rydym wrth ein bodd gyda’r gwaith o gyflwyno HEMPA ar draws ein holl safleoedd Iechyd Meddwl gyda chynlluniau ar waith i’w cyflwyno wedyn ar draws ein safleoedd Anableddau Dysgu.
“Mae’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu wedi’u gwasgaru’n ddaearyddol ar draws 15 o wahanol safleoedd ac ôl troed tri bwrdd iechyd, felly mae defnyddio HEPMA yn hynod fuddiol i’r clinigwyr a’r cleifion yn yr unedau cleifion mewnol hynny.
“Hoffem ddiolch i’r holl staff clinigol a’r tîm digidol a fu’n rhan o’r cyflwyniad gyda’r Grŵp Gwasanaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu am weithrediad mor llwyddiannus a bydd gofal cleifion nawr yn gweld manteision hyn wrth symud ymlaen.”
Mae HEPMA bellach yn weithredol yn wardiau meddygol ysbytai Castell-nedd Port Talbot, Singleton, Treforys a Gorseinon, ac yn y Ganolfan Gardiaidd yn Nhreforys, gyda gweddill y wardiau llawfeddygol yn cael eu cynnwys yn fuan.
Mae dros bum miliwn o feddyginiaethau wedi'u rhoi ar ôl cael eu rheoli trwy HEPMA yn barod. Gyda dyfeisiau symudol ar gertiau yn hytrach na siartiau papur, mae staff yn mewnbynnu gwybodaeth am feddyginiaeth yn ddigidol i'r system, sydd nid yn unig yn ei gwneud hi'n haws rheoli cofnodion, ond yn bwysicaf oll mae'n lleihau gwallau ac yn gwella diogelwch cleifion.
Mae HEPMA eisoes wedi tynnu sylw at rybuddion am bron i 500 o wrthdaro presgripsiynau posibl ym Mae Abertawe, gan gynnwys dros 100 o achosion lle'r oedd penisilin ar fin cael ei roi i glaf a oedd ag alergedd i'r cyffur. Nid yn unig y llwyddwyd i osgoi niwed uniongyrchol i gleifion, ond hefyd y gost ychwanegol i’r GIG o orfod trin claf ag adwaith alergaidd.
Unwaith y cwblhawyd camau cyntaf cyflwyno HEPMA yn ysbytai Castell-nedd Port Talbot a Singleton, fe wnaethom gynnal gwerthusiad cychwynnol, ac roeddem wrth ein bodd â'r adborth cadarnhaol.
Bydd gwerthusiad pellach o HEPMA unwaith y bydd wedi’i roi ar waith yn llawn ar draws Ysbyty Treforys a’r gwasanaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, i fesur y buddion disgwyliedig a chael adlewyrchiad mwy cywir ohonynt, o ystyried y cynnydd mewn gweithgaredd a heriau llif cleifion ar gyfer pob un o’r safleoedd.
Canfu’r gwerthusiad cychwynnol yn dilyn gweithredu yn ysbytai CNPT a Singleton fod 83% o fferyllwyr, 75% o nyrsys a 69% o ragnodwyr sy’n defnyddio HEPMA yn cytuno ei fod yn cefnogi ymarfer diogel a diogelwch meddyginiaeth. Dywedodd fferyllwyr eu bod yn gwerthfawrogi’n arbennig nad oedd yn rhaid iddynt ddod o hyd i siartiau meddyginiaeth coll mwyach, a chael mynediad o bell iddynt yn lle hynny.
Mae peidio â bod angen dehongli nodiadau mewn llawysgrifen bellach yn un o fanteision allweddol HEPMA a werthfawrogir gan staff. A chydag ailysgrifennu siartiau papur yn prysur ddod yn rhywbeth o'r gorffennol, mae bron i 6,000 o oriau - neu 450 diwrnod - o amser rhagnodwyr eisoes wedi'u rhyddhau, gan ganiatáu iddynt ganolbwyntio yn lle hynny ar ofal cleifion uniongyrchol.
Mae’r system newydd hefyd yn lleihau nifer y presgripsiynau diangen, sy’n helpu i dorri costau, hefyd.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.