Mae dwsinau o gleifion yn Ysbyty Treforys sydd â COVID-19 wedi rhoi gwaed i helpu i ddarganfod pam mae rhai pobl yn fwy tueddol o ddioddef o’r Coronafeirws nag eraill.
Mae gwyddonwyr a chlinigwyr yn credu y gellir dod o hyd i'r ateb yn ein DNA ac maent yn recriwtio cleifion ledled y byd i astudio eu gwahaniaethau genetig.
Mae'r pandemig wedi sbarduno cyfres o astudiaethau ymchwil brys, y mae arbenigwyr o bob rhan o Fae Abertawe yn cymryd rhan ynddynt.
Geneteg Marwolaethau mewn Gofal Critigol, a elwir yn GenOMICC, yw'r astudiaeth fwyaf o'i math.
Mae wedi bod yn recriwtio cleifion ers 2016 i astudio heintiau sy'n dod i'r amlwg fel SARS, ffliw ac yn awr, COVID-19, yn ogystal â sepsis a mathau eraill o salwch difrifol.
Gall ein genynnau bennu sut mae salwch critigol yn effeithio arnom. Mae'r astudiaeth yn ceisio dod o hyd i'r genynnau sy'n achosi i rai pobl fynd yn fwy sâl. Gall hyn helpu i ddatblygu triniaethau gwell.
Mae Ysbyty Treforys yn un o 194 safle sy'n cymryd rhan yn y DU, sy'n cynnwys 4,800 o welyau gofal dwys.
Yn Nhreforys, arweiniwyd yr astudiaeth gan Ceri Battle, Luke Newey a Karen James o dîm ffisiotherapi Uned Gofal Critigol Ed Major.
Fe’i sefydlwyd gan y gweinyddwr ymchwil Carl Murphy mewn 3 diwrnod - mae’r broses fel arfer yn cymryd wythnosau.
Dywedodd y ffisiotherapydd gofal critigol ymgynghorol Dr Ceri Battle fod tua 2,500 o bobl wedi cael eu recriwtio ledled y DU yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf.
“Yn Nhreforys rydym wedi recriwtio 46 a ni oedd y safle cyntaf yng Nghymru i agor, ac rydym wedi bod ymhlith y 20 recriwtiwr gorau ledled y DU.
“Pryd bynnag y daw achos COVID a amheuir yn fawr neu a gadarnhawyd i'r uned ofal dwys, cymerir sampl gwaed o’r claf - naill ai gyda chaniatâd y claf neu ganiatâd ei deulu os yw'r claf yn anymwybodol.
“Rydym ni hefyd yn cymryd manylion sylfaenol fel eu hoedran, eu hanes meddygol blaenorol, a oes ganddyn nhw unrhyw gymariaethau ac a ydyn nhw’n cymryd unrhyw wrthimiwnyddion.”
Mae'r gwaith yn Nhreforys wedi bod yn ymdrech gydweithredol, gyda'r nyrsys ITU yn cymryd y samplau gwaed a'r tîm nyrsys ymchwil yn cael caniatâd.
Mae'r tîm nyrsys ymchwil, dan arweiniad Yvette Ellis ac sy'n cynnwys Tabitha Rees, Rachel Harford, Elaine Brinkworth, Marie Williams a Sharon Storton, hefyd yn coladu data cleifion i'w hanfon i'r swyddfa dreial yng Nghaeredin.
Dywedodd Dr Battle fod GenOMICC yn gweithio'n agos gydag astudiaethau ymchwil eraill ac yn rhannu ei ganfyddiadau cynnar gyda nhw.
“Mae’r ymchwil a wnawn yn Uned Gofal Critigol Ed Major bob amser yn werthfawr, ond mae cymryd rhan yn astudiaeth GenOMICC yn teimlo ychydig yn bwysicach,” meddai Dr Battle (i'r dde).
“Fel tîm, bob tro rydyn ni'n recriwtio claf, mae'n teimlo fel ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth yn y frwydr yn erbyn COVID-19.
“Rwy’n gwybod bod y cleifion a’u teuluoedd hefyd yn teimlo’r un peth. Maen nhw eisiau gwneud rhywbeth i helpu, er gwaethaf pa mor fach y gall y cyfraniad hwnnw ymddangos ar hyn o bryd.
“Ynghyd â nyrsys ochr gwely’r ITU, gan gynnwys y rhai nad ydyn nhw fel arfer yn gweithio yn yr uned, mae gennym ni dîm ymchwil gwych sydd bellach yn gweithio gyda’i gilydd ers ychydig flynyddoedd.
“Mae hynny wedi ein helpu ni yn ystod y cyfnod prysur hwn.”
Mae GenOMICC yn un o sawl astudiaeth sy'n derbyn statws blaenoriaeth gan swyddfa Prif Swyddfa Feddygol y DU, y mae Bae Abertawe yn cymryd rhan ynddi.
Mae Dr Battle hefyd yn arwain Bae Abertawe ar un astudiaeth, sef ISARIC. Mae hyn yn cynnwys ymchwiliadau clinigol i achosion COVID-19 a gadarnhawyd er mwyn casglu cymaint o ddata â phosibl mewn fformat y gellir eu rhannu a'u dadansoddi'n gyflym ledled y byd.
Ymhlith yr astudiaethau rhyngwladol eraill y mae Bae Abertawe yn cymryd rhan ynddynt yw REMAP-CAP, sy'n profi nifer o therapïau triniaeth i ddod o hyd i'r cyfuniad mwyaf diogel a mwyaf effeithiol.
Nod un arall, Adferiad (Recovery), yw nodi triniaethau a allai fod yn fuddiol i bobl yn yr ysbyty yr amheuir neu a gadarnhawyd bod ganddynt COVID-19.
Byddwn yn tynnu sylw at yr astudiaethau hyn ac astudiaethau eraill yn ystod yr wythnosau i ddod.
Dywedodd Jemma Hughes, Rheolwr Ymchwil a Datblygu Bae Abertawe: “Ynghyd â’n cydweithwyr yn y GIG ledled y DU, rydym yn falch o gefnogi’r astudiaethau clinigol allweddol hyn.
“Mae cyflymder y gwaith wedi bod yn ddigynsail, ac mae yna fwriad o gefnogi dod o hyd i driniaeth effeithiol ar gyfer cleifion COVID-19.
“Trwy ei Gyfleuster Ymchwil Glinigol ar y Cyd, a gynhelir mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn gobeithio cymryd rhan mewn astudiaethau brechlyn cynnar wrth i’r rhain gael eu rhyddhau dros y flwyddyn i ddod.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.