Mae’n bleser gennym gyhoeddi, yn dilyn ymgyrch recriwtio lwyddiannus dros yr haf, fod Abigail Harris wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Mae Abi, sydd ar hyn o bryd yn Brif Gomisiynydd dros dro ar Gydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru, yn dod i Fae Abertawe gyda chyfoeth o brofiad yn y GIG, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol.
Treuliodd 11 mlynedd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio Strategol, a chyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Strategaeth, Integreiddio a Gofal Sylfaenol Llywodraeth Cymru yn yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Treuliodd Abi bedair blynedd mewn llywodraeth leol, fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Llesiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, lle roedd ei chylch gwaith yn cynnwys gwasanaethau cymdeithasol.
Mae hi hefyd wedi treulio 17 mlynedd mewn uwch swyddi eraill ar draws y GIG yn Ne Cymru, gan gynnwys prif weithredwr yr hen Fwrdd Iechyd Lleol ym Mro Morgannwg.
Mae gan Abi radd meistr mewn gofal integredig, ac mae hefyd wedi bod yn aelod o fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru ers 2017.
Unwaith y bydd Abi yn ymuno â Bae Abertawe ddiwedd mis Hydref bydd yn cymryd yr awenau oddi wrth Dr Richard Evans, sydd wedi dal swydd Prif Swyddog Gweithredol dros dro dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd Jan Williams, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:
“Rwy’n hynod falch bod Abi wedi derbyn y gwahoddiad i ymuno â ni fel ein Prif Swyddog Gweithredol newydd. Mae ei hangerdd a’i hegni i ddarparu gofal gwell drwy gydweithio â’n partneriaid yn amlwg o’i chefndir a’i phrofiad trawiadol.
“Bydd ei sgiliau arwain cryf yn allweddol wrth i ni symud ymlaen gyda’n nod strategol i ddod yn sefydliad o ansawdd uchel, sy’n darparu gofal rhagorol.
“Hoffwn hefyd ddiolch i Richard am ei waith caled, ei egni a’i ymrwymiad yn rôl y Prif Swyddog Gweithredol dros dro. Mae wedi cytuno’n garedig i barhau yn y swydd interim honno hyd nes y bydd Abi yn ymuno â ni ac y bydd wedyn yn dychwelyd i’w swydd barhaol fel Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol.”
Dywedodd Abi Harris:
“Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno â Bae Abertawe ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm staff yn ogystal â rhanddeiliaid a phartneriaid lleol.
“Mae gan y sefydliad weledigaeth hirdymor glir iawn i ddod yn sefydliad o ansawdd uchel sy’n rhoi cleifion a’r boblogaeth ehangach wrth galon popeth mae’n ei wneud. Rwy’n gweld hwn yn gyfle enfawr i gyflawni yn erbyn y weledigaeth honno, gan adeiladu ar y gwaith gwych sydd eisoes yn cael ei wneud.
“Rwy'n arbennig o gyffrous oherwydd mae Bae Abertawe bob amser wedi fy nharo fel sefydliad gyda staff hynod ymroddedig a brwdfrydig, felly mae ymuno fel eu Prif Weithredwr yn fraint ac yn anrhydedd. Mae’n amser gwych i fod yn ymuno â’r Bwrdd Iechyd ac ni allaf aros i ddechrau arni.”
Dywedodd Dr Evans:
“Mae wedi bod yn fraint cael arwain Bae Abertawe dros y 12 mis diwethaf ac rydw i nawr yn estyn croeso cynnes iawn i Abi.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda hi yn y dyfodol fel Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, rôl a fydd yn cael ei chyfoethogi ymhellach gan y llawer iawn yr wyf wedi’i ddysgu trwy weithio mor agos gyda’n staff a’n gwasanaethau dros y flwyddyn ddiwethaf.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.