Neidio i'r prif gynnwy

Llwyddiant fferm solar wedi'i bweru gan arbedion mewn ynni a chost

Mae fferm solar Ysbyty Treforys wedi nodi ei thrydedd pen-blwydd drwy gynhyrchu traean o’i phŵer a thorri’r rhwystr o £3 miliwn mewn arbedion.

Paneli solar Aeth y cyfleuster, sydd wedi’i leoli ar Fferm Brynwhilach gerllaw, yn fyw ym mis Hydref 2021 wrth i’r fferm solar ddod y cyntaf o’i bath yn y DU i bweru ysbyty’n uniongyrchol.

Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn y cyfnod hwnnw, ar ôl arbed £3.1 miliwn mewn biliau trydan drwy gynhyrchu ei bŵer ei hun a gwerthu pŵer dros ben yn ôl i’r grid.

YN Y LLUN: Mae’r fferm solar ger Ysbyty Treforys wedi bod yn llwyddiant mawr ers ei throi ymlaen ym mis Hydref 2021.

Ers mis Ebrill eleni, mae wedi arbed tua £732,000.

Mae’r fferm solar wedi datblygu’n sylweddol ers cael ei throi ymlaen, gyda batri ac estyniad newydd yn mynd yn fyw ym mis Ebrill 2024.

Mae'r batri yn storio pŵer solar gormodol a gynhyrchir ar y dyddiau mwyaf disglair i'w ddefnyddio ar ôl i'r haul fachlud.

Mae'r estyniad wedi gwella'r pŵer a gynhyrchir i 5 megawat, gyda 2,000 o baneli ychwanegol yn mynd â'r cyfanswm i 12,000 i gyd.

Mae'r rhain wedi cyfuno i helpu i gynhyrchu traean o bŵer Ysbyty Treforys.

Dywedodd Des Keighan, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ystadau: “Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cydnabod, fel y mae’r cyhoedd, yr effaith y mae’r hinsawdd yn ei chael ar iechyd y blaned, yn ogystal â’r unigolyn.

"Mae gan y GIG gyfle i fod yn rym mawr wrth greu dyfodol mwy cynaliadwy. Mae aer glân yn cyfateb i fywydau iach ac fel darparwr gofal iechyd mae gennym ddyletswydd i ddiogelu iechyd yn ogystal â thrin salwch.

“Rydym yn bwriadu parhau i adeiladu ein henw da am arwain y ffordd mewn perfformiad cynaliadwy, ac mae ein fferm solar yn enghraifft wych o hynny.

"Mae wedi sicrhau ateb ynni adnewyddadwy hirdymor drwy ddisodli'r angen am y rhan fwyaf o'n hynni o gynhyrchu oddi ar y safle gan ddefnyddio tanwyddau ffosil. Mae'r trydan a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwresogi, pŵer, trafnidiaeth ac ar adegau brig bwydo i mewn i'r grid ar gyfer defnydd yn ein cymuned.

LLUN: Mae'r batri yn sicrhau bod ynni gormodol yn cael ei storio a'i ddefnyddio pan fo angen.

“Mae wedi bod yn hynod gyffrous a boddhaol gweld llwyddiant y fferm solar yn datblygu bob blwyddyn ers iddi gael ei throi ymlaen.”

Costiodd y fferm solar £5.7m i ddechrau, gyda’r estyniad yn costio £3.6m – ad-daladwy dros 11 mlynedd – sydd wedi’i ariannu gan grant buddsoddi i arbed gan Raglen Ariannu Cymru Llywodraeth Cymru.

Mae Beverley Radford, Rheolwr Cydymffurfiaeth, wedi bod yn arwain ar ddatblygiad y prosiect fferm solar.

Meddai: “Mae hwn wedi bod yn brosiect llwyddiannus iawn ac rydym yn falch mai Treforys oedd yr ysbyty cyntaf yn y DU i gael ei fferm solar â gwifrau uniongyrchol ei hun.

“Y prif ffocws bob amser yw ein cleifion. Mae’r fferm solar yn galluogi’r bwrdd iechyd i barhau i ddarparu ei wasanaethau cleifion mewn ffordd gynaliadwy, a gyda sefydlogrwydd ar gyfer ein costau ynni gallwn sicrhau bod arian yn cael ei fuddsoddi mewn gofal cleifion ac nid biliau ynni.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.