Mae gwaith yn dechrau y penwythnos hwn ar uwchraddio'r ystafell aros yn Adran Achosion Brys Ysbyty Treforys.
Dyma'r cam cyntaf o ailwampio gwerth £265,000 o'r mannau aros yn Adran Achosion Brys Treforys a'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
Yn Nhreforys mae seddau newydd yn cael eu gosod gyda phwyntiau gwefru USB adeiledig. Mae man aros mewnol hefyd yn cael ei greu ar gyfer cleifion bregus sy'n wynebu risg uwch. Y dodrefn newydd a fydd yn gwella cysur ar gyfer arhosiadau hir, gyda'r pyrth USB wedi'u hadeiladu ynddynt a fydd, gobeithio, yn helpu pobl i wefru eu ffonau i wneud galwadau yn ôl yr angen.
Mae'r gwaith yn Nhreforys yn dechrau gyda gwaith trydanol yn cael ei osod yfory (dydd Sadwrn 25ain) cyn i ddodrefn gael eu dosbarthu yn gynnar yr wythnos nesaf.
Ymddiheurwn am unrhyw aflonyddwch y gall hyn ei achosi gan y bydd y gwaith yn parhau tan nos Fawrth.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot mae cynlluniau hefyd i adnewyddu dodrefn, a bydd llen wres a chyflyru aer yn cael eu gosod i wella'r amgylchedd yn gyffredinol.
Bydd gan y pedwar peiriant gwerthu yn y ddwy adran gyfleusterau cerdyn felly bydd yn haws i gleifion ac ymwelwyr dalu, ac mae'r dewis o ddiodydd/byrbrydau ar werth yn cael ei adolygu. Rydym hefyd yn edrych ar osod ffynhonnau dŵr am ddim.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.