Nid dim ond pobl hŷn a all deimlo'n unig ac yn ynysig.
Er ei bod yn ymddangos nad oes gan fwyafrif helaeth y bobl ifanc brinder ffrindiau na phethau i'w gwneud, mae grŵp cymdeithasol newydd wedi'i sefydlu yn Nyffryn Abertawe Isaf yn dilyn cais gan rai pobl ifanc 16 i 30 oed.
Mae Grŵp Cymdeithasol a Lles Cwmtawe yn cyfarfod yn fisol yng nghaffi Forge Fach yng Nghlydach mae'r grŵp, sydd bellach yn chwilio am aelodau, wedi'i sefydlu gyda chymorth Clwstwr Cwmtawe a Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (SCVS).
Chwith: Beth Preston, Hannah Kompaniez a Katie Morgan
Dywedodd Beth Preston, swyddog gwybodaeth iechyd meddwl SCVS: “Dyma lle i bobl ifanc I gwrdd ond mae'n targedu pobl ifanc sy’n teimlo'n ynysig yn gymdeithasol, am ba bynnag reswm, efallai o achos iechyd meddwl neu materion iechyd dymor hir sy'n gyfrifol am hynny.
“Mae ymgyrch fawr wedi bod am bethau i bobl hŷn, gan dynnu sylw at unigrwydd, ond efallai dyw pobl ddim pobl yn ymwybodol bod yna lawer o bobl iau allan yna sy’n unig iawn.”
Amlygodd Prosiect Rhagnodi Cymdeithasol Cwmtawe fod bwlch yn y ddarpariaeth o’r math hwn a arweiniodd at ariannu’r prosiect gan Grant Newid am y Gwell Bach yn 2018 gyda chefnogaeth Pwyllgor Cronfeydd Elusennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Meddai Beth: “Oherwydd bod y bwlch hwn yn y ddarpariaeth yn cael ei amlygu, y prosiect gwreiddiol oedd cydgynhyrchu rhaglen llesiant i bobl ifanc. Roedd y rhai a fynychodd yn teimlo'n gryf bod yr hyn oedd ar goll yn grŵp cymdeithasol i'r rhai sydd wedi'u hynysu'n gymdeithasol.
“Felly fe wnaethon ni sefydlu’r grŵp hwn. Mae'n rhedeg ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis ac rydyn ni'n cwrdd yng nghaffi Forge Fach yn Clydach ond mae'r grŵp hefyd yn mynd i ffwrdd ac yn gwneud gweithgareddau, unwaith y mis, fel bowlio a mynd allan am fwyd.”
Heblaw am y cyfarfodydd misol, ar bob ail Dydd Mawrth rhwng 12.30pm a 2.30pm, gall aelodau gadw mewn cysylltiad â'i gilydd trwy dudalen Facebook gaeedig.
Mae yna lawer o resymau y gall pobl ifanc deimlo'n ynysig ac angen cefnogaeth, boed hynny oherwydd salwch tymor hir neu anabledd, materion iechyd meddwl, bod yn ofalwr neu'n rhiant ifanc, mewn profedigaeth neu i lawr ffactorau LGBT +.
Cafodd aelod o'r grŵp Hannah Kompaniez, 24 oed, drafferth am gyfnod i ddod o hyd i grŵp o bobl yn ei hoedran ei hun.
Meddai: “Gwelais boster ar gyfer y grŵp yn cael ei arddangos yn fy fferyllydd lleol a threfnais i ddod draw. Ers i mi adael yr ysgol, fi ddim wedi cymdeithasu na chymysgu ag unrhywun mewn gwirionedd. Dw i wedi mynd draw i grwpiau cymdeithasol eraill ond roeddwn i wedi gweld llawer o bobl hŷn yno. Does dim llawer o grwpiau cymdeithasol ar gyfer pobl ein hoedran ni, mae'n ymddangos nad yw pobl yn deall bod unigrwydd yn ein hoedran ni hefyd.
“Roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n rhoi cynnig arni. Dydw i ddim hyd yn oed yn gallu dechrau esbonio sut mae wedi helpu. Wrth ddod yma, cwrddais â fy ffrind Katie, dydw i ddim yn rhyngweithio â phobl o fy oedran fy hun o gwbl, felly mae dod yma a chwrdd ag eraill wedi bod o gymorth mawr - mae hi wedi bod yn ferched i gyd hyd yn hyn - dim ond sgwrsio, rydyn ni'n cael sgwrs am bopeth.
“Ac o ran mynd allan, dwi ddim wedi mynd allan gyda phobl o fy oedran fy hun ers amser maith. Aethon ni fowlio ac roedd e’n hyfryd. Dim ond gwneud pethau y byddai pobl ein hoedran arferol yn eu gwneud, a pheidio â theimlo'r unigedd hwnnw, oherwydd rydw i'n treulio llawer o amser yn y tŷ ac rydw i'n teimlo'n unig, dyna pam y des i i'r grŵp. Dwi wedi sylwi ar newid sylweddol yn fy lles emosiynol, ac mae fy mam wedi sylwi hefyd. ”
Er bod y grŵp wedi sefydlu ei hun, fe’i lansiwyd ychydig fis yn ôl, mae croeso cynnes i aelodau newydd cyhyd â’u bod yn byw yn ardal Clwstwr Cwmtawe.
Gan annog eraill i ymuno â'r grŵp dywedodd: “Y cam anoddaf yw'r cam cyntaf. Dwi’n gallu cofio dod yma am y tro gyntaf ac yn theimlo'n lletchwith, ond roeddwn mor falch o'r eiliad eisteddais i lawr i ddechrau sgwrsio, dod i adnabod pobl, hwn oedd y penderfyniad gorau dwi wedi wneud erioed. Roedd yn nerfus ac roedd fy mhryder mor uchel ond roedd yn dod dros y rhwystr cyntaf hwnnw - roeddwn mor falch fy mod wedi gwneud hynny. ”
Mae Katie Morgan, 23 oed, wedi bod yn aelod o'r grŵp o'r dechrau. Meddai: “Roedd bod yn rhan o greu’r grŵp a dweud fy nweud am beth sydd ei angen yn wych.
“Dwi wedi cael salwch cronig o oedran ifanc iawn, a effeithiodd ar fy ngallu i wneud pethau y gallai pobl ifanc eraill fy oedran eu gwneud ac a barodd imi ddod yn fwy ynysig. Roeddwn i wedi rhoi cynnig ar ychydig o grwpiau cymorth gwahanol ac roedden nhw bob amser gyda phobl lawer yn hŷn na fi.
“Doedd dim byd i bobl ifanc, dim lle ble bo' nhw'n gallu cwrdd a siarad yn agored am eu materion.”
Dywedodd Katie fod y grŵp wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol iddi.
“Mae ‘na oddeutu 13 bobl yn y grŵp ond dyw pob un ohonyn nhw ddim yn dod draw ond maen nhw'n cadw i fyny gyda ni ar-lein, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n gallu dod yno mae'r grŵp Facebook.
“Fel y dywedodd Hannah, y cam cyntaf yw’r anoddaf ond mae’n gallu newid bywyd pan chi’n dod i rywbeth fel hyn, hyd yn oed os dydych chi ddim yn gadw dod, dim ond gwybod bod yna bobl eraill allan yna yn helpu gwared ar y stigma.”
Am mwy o wybodaeth, cysylltwch â Beth Preston, beth_preston@scvs.org.uk / 01792 544030
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.