Mae gweithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ysgrifennu nodyn o ddiolch arbennig i'r holl blant sydd wedi dod ag ychydig o liw i'w diwrnod drwy dynnu lluniau o enfysau.
Mae tîm o nyrsys rhanbarthol yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cymryd y cam ar ôl gweld y cyhoedd yn dangos diolchgarwch, sy'n golygu tynnu llun o’r enfys a'i roi yn eich ffenestr, i bawb sy'n gweithio yn y GIG ar hyn o bryd wrth iddynt wneud eu rowndiau.
Mae'r nodyn, a ddrafftiwyd gan y Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, Sami Davies, wedi'i ailgreu er mwyn iddi hi a'i chydweithwyr allu postio drwy'r twll llythyrau pan welant boster enfys.
Dywedodd Sami (chwith): "Roeddwn i eisiau dweud diolch yn ôl iddynt.
"Wrth weithio i'r nyrsys rhanbarthol, rwy'n treulio fy niwrnod yn ysgogi gofal i gleifion bregus yn eu cartrefi, ac mae gweld yr holl luniau hardd hyn yn y ffenestri, a grëwyd gan y plant, wir yn gwneud ein dyddiau'n hapusach yn ystod yr adeg anodd hon ac rydym yn gwerthfawrogi hynny'n fawr."
Dywedodd Leanne Van den Heever, Arweinydd y Tîm Nyrsio Rhanbarthol: "Mae hwn yn syniad gwych, mae'n galluogi'r gwasanaeth nyrsio rhanbarthol i gadw mewn cysylltiad â'n cymuned leol a diolch iddynt am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn. Da iawn Sami! "
Mae'r nodyn yn darllen:
Annwyl wneuthurwr enfys,
Rwy'n gweithio i'r nyrsys rhanbarthol yng Nghastell-nedd ac yn gyrru o gwmpas llawer yn gofalu am gleifion sâl yn eu cartrefi, felly pan fyddaf yn cael gweld yr holl enfysau hardd yn y ffenestri fel eich un chi, mae'n gwneud i mi wenu ac yn fy nghadw'n hapus drwy'r dydd.
Felly, ar ran yr holl nyrsys rhanbarthol yr hoffwn ddweud, daliwch ati gyda'r gwaith da!!
Arhoswch yn saff a DIOLCH YN FAWR IAWN!!! Am ddisgleirio ein diwrnod!!
Uchod: Tîm nyrsio rhanbarthol Castell-nedd Port Talbot
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.