Mae ein Hadran Achosion Brys o dan y chwyddwydr unwaith eto yn dilyn cyhoeddi adroddiad heddiw, Dydd Mercher Mawrth 5ed, ar arolygiad dirybudd a gynhaliwyd dros dri diwrnod ym mis Tachwedd.
Nid yw'n syndod bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi dod o hyd i adran o dan bwysau aruthrol, gan nodi bod amseroedd aros hir a gorlenwi yn creu risgiau diogelwch cleifion ac yn effeithio ar ddarpariaeth gofal. Amlygwyd pryderon ynghylch lefelau staffio hefyd yn yr adroddiad.
Ewch i wefan AGIC am yr adroddiad llawn.
Mae adroddiad AGIC yn adolygiad teg a chytbwys o Adran Achosion Brys sy'n gweithio dan bwysau aruthrol. Rydym yn falch ei fod yn cydnabod, er gwaethaf yr amodau hynod heriol, bod ein staff yn trin cleifion yn gwrtais ac mewn modd proffesiynol ac urddasol.
Fodd bynnag, nid oes amheuaeth ein bod yn rhannu pryderon AGIC ynghylch oedi a gorlenwi a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar ofal cleifion. Dyna pam mae gwella gofal brys, yn enwedig o ran yr Adran Achosion Brys, yn un o'n prif flaenoriaethau.
Rydym yn mynd i'r afael â'r her hon mewn tair ffordd. Mae hyn yn golygu edrych ar lefelau staffio, yr adeilad ei hun a hefyd y ffyrdd yr ydym yn gweithio ar draws y bwrdd iechyd er mwyn darparu’r gofal cywir i gleifion yn y lle iawn.
Mae cleifion wrth galon y gwaith hwn ac rydym eisoes wedi cyflwyno cynllun gweithredu manwl sydd wedi’i dderbyn gan AGIC, ac mae llawer o’r mesurau hyn eisoes wedi’u cwblhau neu ar fin dod i fodolaeth. Ond er y bydd y camau hyn yn helpu, gwyddom nad dyma'r ateb llawn i reoli'r pwysau parhaus y mae ein ED ni - fel llawer o rai eraill - yn eu hwynebu.
Mae pryderon ynghylch a oes gennym ddigon o staff a’r cydbwysedd cywir o staff yn yr adrannau brys i fodloni’r galw presennol ac anghenion ein cleifion. Mae ein Cyfarwyddwr Nyrsio felly wedi comisiynu asesiad sylfaenol o'n gweithlu fel y gallwn ddeall y sefyllfa bresennol a nodi unrhyw newidiadau y mae angen eu gwneud a sut y gallwn wneud i'r rhain ddigwydd yn gyflym.
Mae ein hadran bresennol yn rhy fach ac wedi'i dylunio'n wael yn ôl safonau modern. Rydym yn siarad â Llywodraeth Cymru am fuddsoddiad cyfalaf tymor byr a thymor hir.
Gobeithiwn gael mesur dros dro yn ei le yn fuan iawn a fydd yn rhoi rhywfaint o le i anadlu y mae mawr ei angen i leihau gorlenwi. Mae hwn yn debygol o fod yn adeilad modiwlaidd wedi'i leoli drws nesaf i'r adran. Mae cynigion hefyd yn cael eu datblygu ar gyfer cyfleuster newydd pwrpasol yn y dyfodol – yn amodol ar gael caniatâd cynllunio a chyllid.
Rydym yn cysylltu â Chyngor Abertawe ynghylch yr ymgynghoriad cyn ymgeisio am ganiatâd cynllunio ar gyfer y cynlluniau tymor hwy. Fel rhan o hyn, bydd byrddau gwybodaeth yn cael eu codi yn Ysbyty Treforys yn fuan i roi mwy o fanylion i gleifion, y cyhoedd a’n staff.
Yn y cyfamser, mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo ar draws ein holl wasanaethau, sy'n allweddol i leihau'r pwysau ar yr Adran Achosion Brys.
Gwyddom mai’r cartref sydd orau ar gyfer gofal ac adferiad a hefyd lle mae’r rhan fwyaf o bobl eisiau bod. Felly rydym yn parhau i gryfhau gwasanaethau yn y gymuned, gan ddarparu rhai o'r pethau a wneir yn draddodiadol yn yr ysbyty, er mwyn cadw cleifion gartref cyhyd â phosibl.
Os oes angen i gleifion ddod i’r ysbyty, rydym yn gweithio’n agos gyda meddygon teulu a Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gweld yn y lle iawn i ddiwallu eu hanghenion, ac efallai nad yw’r Adran Achosion Brys. Mae ein Huned Asesu Pobl Hŷn (OPAU) yn enghraifft wych o hyn ac rydym yn falch bod AGIC wedi nodi'r gwelliant hwn fel cam i'r cyfeiriad cywir.
Rydym hefyd wedi cryfhau ein gallu i gynnig gofal yr un diwrnod fel y gall cleifion gael eu gweld a dychwelyd adref.
I’r rhai sydd wedi’u derbyn, rydym yn gweithio hyd yn oed yn agosach gyda’n partneriaid mewn awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol i nodi a lleihau oedi wrth ryddhau. Mae hyn yn ein helpu i ryddhau gwelyau i'r cleifion hynny sy'n aros.
Rydym yn parhau i wrando ar bryderon staff a chleifion am ein ED ac mae eu hadborth yn ein helpu i lunio’r gwaith gwella parhaus hwn.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.