Dydd Llun Gŵyl y Banc 19eg Medi – gwybodaeth am wasanaethau:
Yng ngoleuni gŵyl y banc ddydd Llun, Medi 19eg, ar gyfer Angladd Gwladol Ei Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth II, bydd rhai newidiadau i'n gwasanaethau ar y diwrnod.
Rydym yn gohirio apwyntiadau cleifion allanol arferol sydd wedi'u trefnu ar gyfer dydd Llun, ac yn cysylltu'n uniongyrchol â'r cleifion yr effeithir arnynt.
Rydym yn parhau â llawdriniaeth frys a chanser wedi'i gynllunio, a gofal brys. Bydd gwasanaethau eraill fel cemotherapi, radiotherapi a dialysis arennol hefyd yn mynd ymlaen â gwasanaeth gŵyl y banc.
Mae profion gwaed arferol a oedd wedi'u trefnu ar gyfer dydd Llun wedi'u canslo. Dylai cleifion aildrefnu eu hapwyntiad gan ddefnyddio'r ddolen ar-lein ganlynol: Gwasanaethau Phlebotomi (bookinglab.co.uk) neu drwy ffonio 01792 601807 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm.
Bydd meddygfeydd ar gau ddydd Llun a dim ond rhai fferyllfeydd fydd ar agor, yn gweithredu oriau gŵyl y banc. Cynghorir cleifion i sicrhau bod ganddynt feddyginiaethau digonol ac archebu unrhyw bresgripsiynau amlroddadwy mewn da bryd.
Mae ein dwy ganolfan frechu torfol yng Ngorseinon a chanolfan siopa Aberafan ar agor fel arfer ar gyfer apwyntiadau. Mae rhai apwyntiadau brechu mewn fferyllfeydd cymunedol wedi’u canslo, ond bydd ein tîm archebu canolog yn anfon apwyntiadau newydd at y bobl hynny yr effeithir arnynt.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall y newidiadau dros dro hyn i wasanaethau ei achosi.
Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r dudalen hon gydag unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.