Mae teulu a ffrindiau parafeddyg uchel ei barch a fu farw gyda Covid wedi rhoi yn ôl yn hael i'r uned a oedd yn gofalu amdano.
Bu Gerallt Davies yn gweithio fel parafeddyg yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) am 26 mlynedd, ac roedd wedi’i leoli yng ngorsaf Cwmbwrla yn Abertawe.
Roedd yn ffigwr adnabyddus ar draws y ddinas gan ei fod hefyd yn swyddog gweithrediadau cenedlaethol i St John Ambulance Cymru.
Derbyniodd y dyn 51 oed hyd yn oed MBE am ei wasanaethau i ddarpariaeth cymorth cyntaf yng Nghymru.
Yn y llun uchod: mab Gerallt Jonny Davies , chwaer uwch ITU Coca Sewell Dr Beth Barton, chwaer iau Eleri Hiscott ac Elliott Rees.
Ym mis Ebrill 2020, wnaeth Gerallt contractio Covid ac ar ôl dirywio aeth i Adran Achosion Brys Ysbyty Treforys gan ei gydweithwyr yn WAST.
Dywedodd Elliott Rees, ffrind a chyn gydweithiwr i Gerallt: “Parhaodd ei gyflwr i ddirywio ac fe gafodd ei dderbyn wedi hynny i Uned Gofal Critigol Ed Major.
“Yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion gorau pawb, bu farw yno ar 20 Ebrill 2020.
“Cafodd ei angladd ei gefnogi gan gonfoi o gerbydau heddlu ac ambiwlans gyda’i ffrindiau, ei deulu a’i gydweithwyr ar y strydoedd.
“Ond ar y pryd, oherwydd y cyfyngiadau, dim ond 10 o bobl allai fynychu’r gwasanaeth.”
Penderfynodd teulu a ffrindiau sefydlu Sylfaen Gerallt Davies er cof amdano, fel ffordd o barhau â’i waith a chefnogi eraill sy’n gweithio ym maes gofal iechyd a’r sector elusennol.
Cafodd Elliott, sy’n ymddiriedolwr y sefydliad, drafodaethau gyda ffrindiau a theulu eraill ynglŷn â threfnu digwyddiad i godi arian at wahanol sefydliadau iechyd oedd yn bwysig i Gerallt (yn y llun).
Cynhaliwyd cinio gala coffa y llynedd yn Stadiwm Swansea.com a chodwyd cyfanswm o tua £9,000. Rhannwyd hyn rhwng Uned Gofal Critigol Ed Major, yr Elusen Staff Ambiwlans (TASC) ac St John Ambulance Cymru.
“Roedd yn gala tei du gyda chinio tri chwrs, arwerthiant ac adloniant byw,” ychwanegodd Elliott.
“Roedd tua 300 o bobl o bob math o gefndiroedd yn bresennol gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd, cydweithwyr elusennol, y gwasanaeth ambiwlans, yr heddlu, y gwasanaeth tân, y diwydiant digwyddiadau a ffrindiau a theulu.
“Dewisom TASC ac St John Ambulance Cymru fel derbynwyr cychwynnol yr arian a godwyd gan eu bod yn sefydliadau a oedd yn golygu llawer i Gerallt.
“Roedden ni’n teimlo ei bod hi ond yn iawn cynnwys yr Uned Gofal Critigol Ed Major yn hyn hefyd ar gyfer y gofal a’r cymorth a gafodd ef a’i deulu yn ystod ei salwch byr.”
Bydd yr arian a roddir i'r ICU yn mynd tuag at greu gardd bwrpasol y gellir ei defnyddio ar gyfer adsefydlu cleifion a lles staff.
Dywedodd Dr Beth Barton, meddyg gofal dwys yn yr uned: “Ers llawer o blynyddoedd rydym wedi bod yn edrych ar opsiynau amrywiol ar gyfer sefydlu gardd ICU.
“Gall cleifion weld eu hamser yn yr uned yn eithaf dryslyd oherwydd gall fod yn swnllyd a does dim llawer o olau naturiol.
“Fel rhan o geisio normaleiddio pethau iddyn nhw ac fel rhan o’u hadsefydliad a’u cymhelliant, rydyn ni’n ceisio gosod nodau ar eu cyfer.
“Un o’r pethau rydyn ni’n ceisio ei wneud yw eu tynnu allan o’r uned. Ar hyn o bryd, yr unig ffordd i'w cael awyr iach yw mynd â nhw i brif fynedfa'r ysbyty.
“Gyda gardd, byddem yn gallu mynd â chleifion y tu allan ac o bosibl mynd â mwy ohonyn nhw, fel yr ydym yn gobeithio cael rai cyfleusterau tu allan i’w gwneud yn fwy diogel iddyn nhw.
“Byddai hefyd yn fan diogel i’n staff ei ddefnyddio hefyd.
“Gall yr amgylchedd yr ydym yn gweithio ynddo fod yn heriol felly bydd cael lle diogel i bobl allu cymryd egwyl, rhywle y gallwn fynd ychydig yn fwy preifat, yn fuddiol iawn.”
Dywedodd Dr Barton, oedd yn adnabod Gerallt yn bersonol, mae gobaith byddai'r ardd yn creu etifeddiaeth barhaol iddo.
“Mae’r arian rydyn ni wedi’i dderbyn yn mynd tuag at rywbeth a fydd yn helpu staff a chleifion,” ychwanegodd.
“Mae rhoddion yn ein galluogi i wneud mwy o bethau a fydd yn gwella arhosiad cleifion.
“Mae’n nhw i gyd yn mynd tuag at bethau sy’n ychwanegu at sgiliau a phrofiad staff yr uned a gobeithio yn gwneud taith y claf ychydig yn llai brawychus.”
Yn y llun: Cododd y cinio gala coffa gyfanswm o £9,000.
Aeth Elliott, ynghyd â mab Gerallt, Jonny Davies, i'r ICU yn ddiweddar i gwrdd â staff a chyflwyno'r £3,000 a godwyd iddynt fel ffordd o ddiolch iddynt am y gofal a dderbyniodd Gerallt.
Dywedodd Elliott: “Roedd ei deulu eisiau rhoi rhywbeth yn ôl.
“Roedd y rhodd yn gydnabyddiaeth o’r ymdrech a wnaeth y gofal dwys, a staff ysbyty ehangach, yn ystod y pandemig a’r gefnogaeth a roddasant i deulu Gerallt wrth ofalu amdano.”
Bydd Sylfaen Gerallt Davies yn ceisio codi arian ar gyfer elusennau gofal iechyd a gwasanaethau brys, cefnogi pobl ifanc i ddilyn gyrfaoedd mewn gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus ac ymgyrchu i gynyddu diogelwch a rheoleiddio o amgylch y ddarpariaeth feddygol mewn digwyddiadau mawr a chynulliadau torfol yng Nghymru.
Dywedodd Bethan James, metron yr ICU: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y rhodd hon er cof am Gerallt.
“Mae’n ystum caredig a gofalgar iawn.
“Bydd yr arian yn dod â llawenydd a chysur i lawer o’n cleifion yn y dyfodol a fydd, rwy’n siŵr, yn gwneud defnydd llawn o ardd ICU ddynodedig.”
Bydd staff yr uned yn chwilio am gynigion o gefnogaeth a rhoddion i helpu gydag adeiladu'r ardd.
Os yw'r stori hon wedi eich ysbrydoli i godi arian ar gyfer eich GIG lleol, yna byddai Elusen Iechyd Bae Abertawe wrth eu bodd yn clywed gennych.
Elusen Iechyd Bae Abertawe (rhif elusen gofrestredig 1122805) yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Mae’n chwarae rhan hanfodol wrth godi arian ar gyfer prosiectau a gweithgareddau sy’n cefnogi cleifion, tra mae hefyd yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau i wella’r amodau gwaith a’r cymorth sydd ar gael i staff.
Mae gan bron bob ward ac adran eu cronfa eu hunain, sydd i gyd yn dod o dan ymbarél Elusen Iechyd Bae Abertawe. Felly os yw rhywun am roi rhywbeth yn ôl ar gyfer y gofal y maen nhw neu rywun annwyl wedi'i dderbyn, mae'r elusen yn sicrhau y bydd yr arian a godir yn mynd yn uniongyrchol yno.
Nid yw’r elusen yn disodli cyllid y GIG ond mae’n defnyddio cyfraniadau cenedlaethau a dderbyniwyd gan gleifion, eu teuluoedd, staff a chymunedau lleol i ddarparu y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu.
E-bostiwch y tîm elusen ar: swanseabay.healthcharity@wales.nhs.uk
I gael gwybod mwy, dilynwch y ddolen hon i wefan Elusen Iechyd Bae Abertawe
Oes gennych chi ddiddordeb mewn codi arian i gefnogi gwasanaethau'r GIG yn Abertawe a Castell-nedd Port Talbot? Oeddech chi'n gwybod bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol bae Abertawe ei elusen codi arian ei hun?
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.