Bydd gweithdy arddangos i bobl sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y GIG fel therapydd galwedigaethol yn cael ei gynnal yr hydref hwn.
Fe'i cynhelir yng Nghanolfan Adnoddau Port Talbot, Baglan, Ddydd Mawrth 15fed Hydref, a bydd yn agored i unrhyw un 15 oed a hŷn.
Mae therapyddion galwedigaethol (ThG) Bae Abertawe wedi cynnal y digwyddiadau hyn ers dros 11 mlynedd.
Mae adborth bob amser wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae llawer o bobl wedi dweud bod mynychu’r gweithdy wedi eu helpu i benderfynu ar eu dewis gyrfa – ac mae rhai wedi dychwelyd fel therapyddion galwedigaethol cymwys.
Mae therapyddion galwedigaethol yn helpu pobl o bob oed i oresgyn heriau fel y gallant wneud y pethau y maent am eu gwneud, yn amrywio o fynd i'r gwaith i wneud y llestri.
Mae hyn yn rhoi ymdeimlad newydd o bwrpas iddynt, gan newid y ffordd y maent yn teimlo am eu dyfodol trwy agor cyfleoedd newydd.
Bydd digwyddiad mis Hydref yn cael ei gynnal gan Therapyddion Galwedigaethol cymwysedig sy'n gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol ar draws y bwrdd iechyd.
Roedd eu meysydd ymarfer yn cynnwys iechyd corfforol, anableddau dysgu, iechyd meddwl, pediatreg, adsefydlu ysgyfeiniol ac anafiadau i'r pen.
Byddant yn trafod eu profiadau, wrth iddynt ddod i mewn i'r proffesiwn mewn gwahanol ffyrdd a chymhwyso mewn gwahanol brifysgolion.
Dywedodd ThG Aimee Collier-Rees, sy'n cyd-drefnu'r gweithdy: “Mae'r gweithdai yn addysgiadol ac yn rhyngweithiol.
“Maent yn ymdrin â chwmpas sut mae theori ac athroniaeth therapi galwedigaethol yn cyd-fynd â gweithio fel therapydd galwedigaethol cymwys yn y GIG.
“Mae llwybrau i hyfforddiant yn y brifysgol yn cael eu trafod ynghyd â throsolwg byr o gwricwlwm y cwrs, ac mae rhai awgrymiadau da ar gyfer gwneud cais.
“Roedd pobl sydd wedi mynychu cyrsiau blaenorol yn dod o gymysgedd amrywiol o gefndiroedd, o fyfyrwyr coleg i’r rhai oedd yn edrych am newid gyrfa.”
Mae'r gweithdai therapi galwedigaethol yn cael eu cydnabod fel dysgu cyn cofrestru gyda'r cyrsiau BSc ym mhrifysgolion Abertawe a Chaerdydd.
I archebu eich lle yn y gweithdy, sy’n rhedeg o 10yb-3.30yh, e-bostiwch aimee.collier-rees@wales.nhs.uk neu sarah.gates@wales.nhs.uk . Mae lleoedd yn gyfyngedig a chânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.
Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am yrfa mewn therapi galwedigaethol ar wefan Royal of Occupational Therapists.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.