Neidio i'r prif gynnwy

Defnydd o'r Gymraeg yn golygu gwelliant enfawr i ofal cleifion

Mae nyrs o Fae Abertawe yn helpu cleifion bregus sy’n siarad Cymraeg i gyfathrebu’n fwy effeithiol am eu gofal trwy siarad â nhw yn eu mamiaith – ac yn annog mwy o staff i wneud yr un peth.

Mae Eleri Lloyd Ash yn gweithio fel rhan o Dîm Gofal Lliniarol Arbenigol y bwrdd iechyd, gan roi gofal hanfodol i gleifion sydd â salwch sy’n byrhau bywyd.

Mae Cymraeg yw ei hiaith gyntaf, felly mae Eleri’n gwybod pa mor bwysig yw hi i gleifion, ynghyd â’u teulu a’u ffrindiau, gael y dewis o drafod eu cyflwr a’u triniaeth yn eu mamiaith. Roedd un achos y llynedd wir yn crynhoi pa wahaniaeth y gall ei wneud.

Esboniodd: “Cawsom glaf oedrannus a gyfeiriwyd at ein gwasanaeth ar ôl cwympo. Roedd ganddo ganser rhefrol a dementia fasgwlaidd, ac yn dilyn asesiad galluedd meddyliol yn Saesneg nodwyd nad oedd ganddo'r gallu i benderfynu ar ei leoliad gofal ar ôl ei ryddhau.

LLUN: Eleri Lloyd Ash yn defnyddio’r Gymraeg i siarad â chleifion am faterion rheoli symptomau, anghenion seicolegol, ysbrydol a chymdeithasol a gofal diwedd oes.

"Fodd bynnag, ar ôl edrych ar ei enw a'i gyfeiriad fe wnes i ddyfalu efallai ei fod yn siarad Cymraeg. Roedd wedi cynhyrfu'n lân, ond ar ôl ei gyfarch yn Gymraeg fe dawelodd yn syth ac fe siaradon ni'n rhugl yn y Gymraeg oedd yn ei helpu i benderfynu ble byddai'n cael ei ofal ar ôl ei ryddhau."

Mae Nyrs Glinigol Arbenigol Eleri yn cynnig siarad Cymraeg yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod cleifion a’u perthnasau neu ofalwyr yn cyfathrebu yn eu iaith dewis.

Dywedodd Eleri: “Mae siarad Cymraeg gyda chleifion yn rhywbeth rydw i wedi’i wneud o ddechrau fy ngyrfa.

“Treuliais wyth mlynedd yn y 1990au yn gweithio ym maes gofal yr henoed, ac yn siarad Cymraeg yn aml gyda’r cleifion hynny a’u teuluoedd yn egluro gofal, yn ystod gofal ac wrth gynllunio ar gyfer rhyddhau claf.

“Roedd yr un peth pan ddes i’n rhan o dîm Tŷ Olwen yn 1998. Mae’r gwasanaeth wedi datblygu llawer ers hynny, ond rwyf wedi parhau i ymgorffori’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol ac fel iaith waith yn fy asesiadau gyda’r cleifion am eu hanghenion.

“Rwy’n annog pob gweithiwr proffesiynol arall i siarad Cymraeg, pan fo’n bosibl, gyda’u cleifion gan y gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w gofal. Ni ellir diystyru gwerth hyn.”

Mae Eleri wedi defnyddio enwau, cyfeiriadau a’i greddf ei hun i weithio allan a yw cleifion sy’n dod dan ei gofal yn gallu siarad Cymraeg.

Mae Mae’n ddull sydd wedi helpu cleifion i fynegi eu hunain yn fwy hyderus ynglŷn â’u hanghenion gofal lliniarol, gan gynnwys lleoliad gofal mewn ysbytai neu leoliadau cymunedol.

Dywedodd Eleri: “Gallwch edrych ar enwau cleifion a chael syniad o’r siawns y byddant yn siarad Cymraeg, ac weithiau eu cyfeiriad nhw sy’n gallu eich gwneud yn ymwybodol.

LLUN: Enwebwyd Eleri ar gyfer gwobrau blynyddol y bwrdd iechyd yn dilyn ei hymdrechion i hybu’r Gymraeg o fewn gofal iechyd.

“Fel Nyrs Glinigol Arbenigol mewn gofal lliniarol, mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg o amgylch materion rheoli symptomau, anghenion seicolegol, ysbrydol a chymdeithasol a gofal ar ddiwedd oes wedi bod yn hynod werthfawr.

“Mae’r iaith wedi fy ngalluogi i asesu cleifion yn newis iaith y claf, ac mae wedi caniatáu i gleifion a pherthnasau fynegi eu hunain yn ddilys, gan arwain at well cefnogaeth.”

Yn sgil hyrwyddo’r Gymraeg Eleri fe’i henwebwyd am wobr yn nigwyddiad cydnabod Byw Ein Gwerthoedd blynyddol y bwrdd iechyd.

Mae hi'n annog newid mwy cadarnhaol o fewn gweithlu Bae Abertawe. Mae ei phenderfyniad i hybu'r defnydd o'r Gymraeg ymhellach o fewn gofal iechyd wedi gweld Eleri yn gweithio'n agos gyda thîm Iaith Gymraeg y bwrdd iechyd.

Bydd hefyd yn siarad mewn Cynhadledd Rithwir Iaith ac Iechyd a gynhelir ar y cyd rhwng y bwrdd iechyd a Phrifysgol Abertawe ar Fawrth 7, ac yn cyfrannu at ddatblygiad gwefan Canolfan Genedlaethol y Gymraeg / Dysgu Cymraeg, a fydd yn cael ei lansio ym mis Ebrill.

Mae gan staff Bae Abertawe opsiynau amrywiol i naill ai wella neu brofi eu sgiliau Cymraeg, megis tudalennau gwefan penodedig ynghyd â digwyddiadau mewnol.

Dywedodd Jordan Morgan-Hughes, Swyddog Iaith Gymraeg y bwrdd iechyd: "Mae gallu cael gofal iechyd yn Gymraeg yn llawer mwy na 'eisiau' i'n cleifion. I lawer, yn syml, angen ydyw.

“Wrth gael mynediad at ofal, mae llawer o gleifion ar eu mwyaf bregus, ac mae’n hanfodol felly ein bod yn gallu cyfathrebu â nhw yn yr iaith y maent fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio.

“Yn aml gall hyn arwain at ddealltwriaeth ddyfnach a mwy trylwyr o’r themâu sy’n cael eu trafod ac yn aml gall arwain at ganlyniadau gwell i gleifion.

“Rydym wedi ymrwymo i gynyddu ein gallu i gynnig gofal i’n cleifion yn Gymraeg ac yn ddiweddarach eleni byddwn yn cyhoeddi cynllun pum mlynedd yn manylu ar y camau y byddwn yn eu cymryd ar y daith hon.

"Rydym yn annog ein holl staff sy'n gallu defnyddio'r Gymraeg i wneud hynny. Rydym wedi mabwysiadu'r symbol swigen siarad oren fel ein dynodwr safonol o allu defnyddio'r Gymraeg ac mae hwn yn cael ei wisgo gan staff sy'n rhugl a'r rhai sy'n dysgu.

"Rydym yn ffodus i gael ein cefnogi gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sydd wedi ariannu dosbarthiadau lefel mynediad ar gyfer dros 100 o aelodau ein gweithlu i ddechrau eu taith ddysgu. Cymaint oedd y diddordeb pan gynigwyd hyn, gallem fod wedi llenwi'r dosbarthiadau tri amser drosodd.

"Rydym hefyd yn datblygu cyfleoedd mentora i staff sydd â gwybodaeth dda o'r Gymraeg, ond sydd heb yr hyder i'w defnyddio. Bydd hyn yn golygu ein bod yn gweithio gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe i gynnig hyfforddiant un-i-un yn ogystal â hyfforddiant i grwpiau bach. fel bod pawb sydd eisiau, yn gallu teimlo’n hyderus ac yn gallu defnyddio eu Cymraeg gyda’n cleifion.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.