Cafodd y carfannau diweddaraf o nyrsys rhyngwladol sydd wedi symud filoedd o filltiroedd i wneud Bae Abertawe yn gartref iddynt groeso cynnes Cymreig mewn digwyddiad arbennig i ddathlu eu dyfodiad.
Ers mis Ionawr 2020, mae 516 o staff tramor wedi cael eu recriwtio’n foesegol gan y bwrdd iechyd i helpu i lenwi swyddi nyrsio gwag – mater a deimlwyd ledled y DU.
Mae llawer wedi symud heb eu teuluoedd, gan ddangos yr aberthau niferus a wneir i fanteisio ar gyfle newydd mewn gwlad newydd.
Mae Merin Mathew wedi gwneud hynny, ar ôl cyfnewid Kerala am Fae Abertawe tra bod ei mab blwydd a hanner oed a’i gŵr yn aros yn India.
Fel pob nyrs dramor, mynychodd Merin ganolfan hyfforddi ddynodedig y bwrdd iechyd cyn sefyll arholiad Archwiliad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol yn Rhydychen i ddod yn nyrs gofrestredig o fewn y DU.
YN Y LLUN: Roedd Merin Mathew (ail ar y chwith) ymhlith y nyrsys tramor i fynychu'r digwyddiad ym mhencadlys y bwrdd iechyd ym Maglan.
Mae hi bellach yn gweithio yn yr Uned Therapi Dwys yn Ysbyty Treforys, ar ôl cyrraedd ym mis Mawrth.
Dywedodd Merin, sydd â dros bedair blynedd o brofiad yn gweithio yn India a Bahrain: “Mae hwn yn gam mawr yn bersonol ac yn broffesiynol. Gyda fy ngŵr a mab dal yn India, rydw i yma ar ben fy hun ond gobeithio y byddant yn ymuno â mi yn fuan.
“Mae’r croeso a gefais a’r gefnogaeth rwy’n parhau i’w gael wedi fy helpu i setlo yn fy nghartref newydd. Mae symud i wlad newydd yn frawychus, ond mae'r tîm addysg nyrsio wedi bod mor gymwynasgar yn fy nhrefniadau byw ac yn sicrhau bod gennyf yr hyn yr oedd ei angen arnaf.
“Yn y gwaith, rydw i wir wedi setlo i mewn yn gyflym iawn. Mae'r bobl yma mor neis.
“Yn y DU, mae llawer o gyfleoedd i weithio ym myd nyrsio, ond mae gan y bwrdd iechyd hwn enw da iawn a dewisais yma oherwydd y cyfle i ddatblygu fy sgiliau a phrofiad. Mae hefyd yn ddinas hardd i fyw ynddi, felly mae’n ddeniadol iawn o ran persbectif personol a phroffesiynol.”
Mae'r nyrsys wedi symud i arbenigeddau oedolion, newyddenedigol, iechyd meddwl a bydwreigiaeth.
Mynychodd Lisa Nation, Rheolwr Arbenigedd Scrubs gyda theatrau Ysbyty Singleton, y digwyddiad ym mhencadlys y bwrdd iechyd ym Maglan a oedd yn nodi cyfraniad nyrsys tramor. Roedd Cadeirydd y bwrdd iechyd, Jan Williams a Gillian Knight, Swyddog Nyrsio Llywodraeth Cymru hefyd yn bresennol a siarad â staff am eu profiadau hyd yn hyn.
YN Y LLUN: Mwynhaodd nyrsys tramor a gafodd eu recriwtio o fewn y 12 mis diwethaf sgwrs dros ginio.
Dywedodd Lisa: “Rydym wedi cael saith aelod o staff o dramor yn ymuno â'n tîm ac maent wedi bod yn ychwanegiadau gwych.
“Daethon nhw â phrofiad a sgiliau sylweddol ac maen nhw wedi cryfhau’r gweithlu sydd eisoes yn ei le ar draws ein chwe theatr yn Singleton.”
Mae ymgyrch recriwtio'r bwrdd iechyd wedi denu staff o gyn belled â Jamaica i Awstralia, tra bod ymweliad ag India yn 2023 wedi gweld dros 100 o nyrsys yn dadwreiddio i Fae Abertawe.
Dywedodd Miranda Williams, Uwch Nyrs Addysg: “Mae ein gweithlu yn adlewyrchu’r gymuned rydym yn ei gwasanaethu, ac rydym yn dathlu’r staff amrywiol, amlddiwylliannol sydd gennym ym Mae Abertawe.
“Rydym wedi llwyddo i recriwtio dros 500 o nyrsys gyda phrofiad, gwybodaeth a sgiliau helaeth sydd wedi ac yn parhau i ychwanegu at y gofal rydym yn ei roi i’n cleifion.
“Mae ein recriwtio dros y pedair blynedd diwethaf wedi bod yn bwysig iawn i’n gwasanaethau.
“Mae’r nyrsys hyn yn ategu’r staff gwych sydd gennym eisoes ar draws ein gwasanaethau.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.