Cwympo oddi ar ysgolion wrth hongian tinsel, dorri dwylo wrth baratoi erfyn, torri bysedd troed drwy ollwng twrci ar eich troed a blociau teganau yn mynd yn sownd yn nhrwyn eich plant, dyma rai o’r anafiadau mwyaf cyffredin sy’n danfon pobl i’r ysbyty dros y Nadolig. Mewn ffaith mae mwy na *80,000 o bobl yn cyrraedd yn yr Adran Frys dros yr ŵyl oherwydd damweiniau fel hyn.
Mae staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi creu rhestr o’r damweiniau Nadoligaidd mwyaf cyffredin yma gyda chyngor ar sut i’w hosgoi ac, yn fwy pwysig, ble ddylech gael y cymorth cywir.
Mae mwy na 80,000 o bobl yn y DU yn cyrraedd yn yr Adran Frys oherwydd damweiniau i ymwneud a’r ŵyl - popeth o losgiadau cymharol ysgafn, plant yn tagu ar addurniadau neu’n cael eu gwenwyno gan fatris, cwympiadau oddi ar ysgolion a chadeiriau, damweiniau i ymwneud ag alcohol ac eraill. Mae un mewn pob 40 o bobl wedi derbyn sioc drydanol oherwydd goleuadau Nadolig wedi ei weirio’n wael, ac mae 1 ym mhob 50 o bobl wedi cwymp o’r atig wrth gael addurniadau i lawr.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn hybu pobl yn yr ardal i’n ‘helpu ni er mwyn eich helpu chi’ drwy fod yn ofalus yn ystod eu dathliadau, ond hefyd gan wybod ble i gael y cymorth cywir os ydynt yn dioddef anawsterau. Gall hyn feddwl ymweld â’r fferyllfa, optegydd neu’r deintydd, ffonio 11 neu ymweld â’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
Dywedodd Dr Andrew MacNab, Ymgynghorydd yr Adran Frys yn Ysbyty Treforys: “Rydym wedi trin pobl sydd wedi cwympo o’u hatig, sydd wedi codio bocsys o addurniadau sy’n rhy drwm, sydd wedi llithro oherwydd bod rhywbeth wedi arllwys ar lawr y gegin, neu sydd wedi gollwng twrci ar eu troed. Mae straen yr ŵyl, plant neu anifeiliaid anwes llawn cyffro, nwyddau electronig, alcohol a cheginau prysur oll yn helpu i lenwi’r tŷ ag ysbryd y Nadolig, ond maent hefyd yn ychwanegu peryglon ychwanegol i’n cartrefi. Mae pawb yn hoff o syrpreisys amser Nadolig, ond nid yw ymweliad â’r ysbyty yn un ohonynt.
“Un o’r pethau pwysicaf y gallwn oll wneud yw sicrhau os oes gennym broblem iechyd dros y cyfnod Nadoligaidd, ein bod yn mynd i’r lle cywir ar gyfer gofal priodol. Ein neges glir iawn yn ystod y cyfnod hwn yw, os gwelwch yn dda, helpwch ni i’ch helpu chi drwy wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio’r cymorth priodol, drwy gysylltu â’ch fferyllfa, ffonio 111 neu ymweld â’r Uned Mân Anafiadau (MIU) yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Os oes gennych fân anaf, gall yr MIU eich trin, ac mae ganddynt amseroedd aros llawer yn fyrrach fel arfer.
Os nad ydych yn teimlo’n iawn ond nid yw’n argyfwng 999, gallwch ffonio 111 ar gyfer cyngor am y lle mwyaf priodol i gael gofal a chymorth. Weithiau bydd cleifion yn derbyn cyfeiriad i fynd yn syth i’r Adran Frys oherwydd natur eu salwch neu anaf, felly maent yn arbed siwrnai wedi ei wastraffu ac yn cael y driniaeth gywir cyn gynted â phosibl. Weithiau mae’r ateb ar y stryd fawr - weithiau cynghorir cleifion i fynd i’w fferyllfa, optegydd neu ddeintydd lleol.
Ychwanegodd Dr MacNab: “Rydym yn gwybod fod pobl yn poeni am ddod i’r ysbyty oherwydd eu bod yn poeni am Covid-19, ond gall unrhyw oediad wneud anaf yn waeth. Cofiwch ein bod oll yn defnyddio’r Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) priodol. Newidir hwy oll rhwng bob claf, a glanheir pob arwyneb yn drylwyr. Peidiwch ag oedi - os ydych yn teimlo fod rhywbeth yn anghywir, cysylltwch â ni. Cofiwch hefyd fod GIG 111 Cymru hefyd ar gael felly gallwch wirio eich symptomau ar-lein neu roi galwad iddynt os ydych angen cyngor pellach. Beth am i ni gyd wneud ein rhan i aros yn ddiogel ac yn iach y Nadolig hwn.”
Ends.
*Data gan Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA)
Side bar:
Sut i Osgoi bod yn Ystadegyn Nadolig
How to Avoid Becoming a Christmas Statistic
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi creu canllaw o’r digwyddiadau cyffredin sy’n digwydd fel eich bod yn medru osgoi dod yn ystadegyn Nadolig. Dilynwch eu canllaw i’ch cadw chi a’ch teulu’n ddiogel dros y cyfnod Nadoligaidd:
Alergeddau
Dylai pobl gydag alergeddau bwyd gymryd gofal arbenig amser Nadolig, yn enwedig os ydych yn prynu bwydydd arbennig anghyfarwydd, neu os oes rhywun yn arlwyo ar eich cyfer. Gwriwch restrau cynhwysion yn ofalus.
Alcohol
Mae mymryn bach o sieri wrth goginio yn hyfryd, ond mae damweiniau’n llawer mwy tebygol o ddigwydd gartref ac yn y gegin os ydych yn yfed gormod. Yfwch y ddiod gadarn am yn ail â diodydd ysgafn ac weithiau arhoswch nes i chi eistedd i lawr gyda phryd bwyd cyn i chi dywallt. Gwnewch yn siŵr gwagio unrhyw alcohol ar ôl allan o’r gwydr, fel nad yw plant neu anifeiliaid anwes yn medru eu cyrraedd.
Tagu
Cadwch wydr ac addurniadau bregus allan o afael plant bach ac anifeiliaid anwes, a gwiriwch safonau diogelwch teganau. Gall ddarnau bach o declynnau neu graceri fod yn berygl tagu i blant.
Addurniadau
Mae mwy na 1,000 o bobl bob blwyddyn yn cael eu brifo wrth addurno eu coeden Nadolig yn ôl RoSPA, fel arfer wrth ychwanegu’r seren neu’r angel ar dop y goeden. Peidiwch â defnyddio cadeiriau neu stolau ansefydlog. Defnyddiwch ysgol fach bob amser.
Goleuadau Addurniadol
Niweidir 350 o bobl y flwyddyn gan oleuadau Nadolig, un ai drwy gwympo, drwy siociau a llosgiadau trydanol, neu drwy lyncu’r bylbiau - gallant edrych fel losin i blant ifanc. Profwch eich goleuadau a’r gwifrio cyn i chi eu rhoi i fyny. Yn ôl RoSPA bu farw 26 o bobl rhwng 1997 a 2010 o ganlyniad i ddyfrio eu coeden Nadolig gyda’r goleuadau dal arno. Gwnewch yn siwr eich bod yn tynnu’r plwg allan gyntaf.
Tanau
Mae pobl 50% yn fwy tebygol i farw mewn tân tŷ yn ystod y Nadolig nag unrhyw amser arall o’r flwyddyn. Mae hi’n bwysig i gadw cardiau Nadolig, addurniadau papur a’r goeden Nadolig i fwrdd o unrhyw ganhwyllau, tanau neu wresogyddion, gwnewch yn siŵr fod eich larymau tân a detectorau carbon monocsid yn gweithio, a pheidiwch â benthyg y batris o’r larwm tân i’w roi mewn tegan newydd.
Gwenwyn bwyd
Mae yna un filiwn achos o wenwyno bwyd bob blwyddyn - sicrhewch eich bod yn dadmer a choginio eich twrci’n drylwyr. Gall gwenwyno salmonela fod yn bygwth bywyd i rai pobl. Peidiwch â chymryd y risg o geisio defnyddio dulliau “cyflymach” oherwydd mae’n cymryd oriau i goginio’r twrci’n iawn.
Peryglon yn y Gegin
Mae dysglau poeth yn y ffwrn, dŵr berw, cyllyll a phethau’n arllwys dros y lle yn medru gwneud y gegin yn beryglus, ac mae damweiniau’n gyffredin wrth baratoi bwyd ar gyfer y Nadolig. Mae llosgiadau o fraster poeth yn gyffredin, hefyd. Gwnewch yn siŵr fod plant ac anifeiliaid anwes yn aros allan o’r gegin, glanhewch yn gyflym pan fo rhywbeth yn cael ei arllwys, rhedwch ddŵr claear dros fân losgiadau am 20 munud, a pheidiwch â dechrau ar y gwin nes eich bod wrth y bwrdd.
Grisiau
Call cwympiadau fod yn ddifrifol iawn, yn enwedig ar gyfer yr henoed, a gall teganau a phapur lapio dros y lle wneud grisiau a chynteddau clos yn fannau peryglus ar gyfer damweiniau yn ystod y Nadolig. Cadwch y grisiau, mynedfeydd, allanfeydd a chynteddau yn daclus ac yn rhydd o annibendod.
Planhigion
Gall celyn ac uchelwydd ychwanegu peth o ramant yr ŵyl, ond mae eu haeron yn wenwynig. Dewiswch wyrddni Nadolig sydd ddim yn wenwynig, neu sicrhewch nad yw plant ac anifeiliaid anwes yn medru eu cyrraedd.
Batris a Magnetau
Bydd gan nifer o eitemau fatris botwm sydd yn hawdd i blant gael gafael arnynt. Gallant achosi gwaedu a thyllau mewnol. Gall fagnetau bach hefyd achosi tyllau yn y perfedd. Gwiriwch fod y batris a magnetau i gyd yn ddiogel yn eu teganau, rheolwyr teledu o bell a chardiau a theclynnau newydd.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.