Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddiad Cyhoeddus: Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) 2024

Mae'n bleser gennym eich gwahodd i ymuno â Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar Ddydd Mercher 25 Medi 2024 am 3:00yp.

Cynhelir y digwyddiad eleni yn bersonol yn Ystafell y Mileniwm yn y Pencadlys, Un Porthfa Talbot, Baglan, SA12 7BR.

Os hoffech ymuno â ni, gallwch gadarnhau eich presenoldeb drwy anfon e-bost atom ar BIPBA.GwasanaethauBwrdd@wales.nhs.uk  neu dros y ffôn ar 01639 683344.

At hynny, pe baech yn dymuno codi cwestiwn yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol byddem yn ddiolchgar pe gallech hefyd gyflwyno hyn inni erbyn 23 Medi 2024 drwy'r blwch post canlynol  BIPBA.GwasanaethauBwrdd@wales.nhs.uk .

Mae'r rhaglen ar gyfer y sesiwn fel a ganlyn:

  • Croeso a Chyflwyniadau
  • Cyflwyniad – trosolwg o 2023-2024
  • Edrych ymlaen at 2024/25
  • Sesiwn Holi ac Ateb
  • Sylwadau Cloi

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.