Neidio i'r prif gynnwy

Clinig yn cefnogi mamau beichiog ar restr fer gwobr genedlaethol

Mae clinig lles beichiogrwydd Bae Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Coleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM).

Mae’r clinig wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr RCM mewn Cyfraniad Eithriadol i Wasanaethau Bydwreigiaeth: Iechyd Meddwl Amenedigol.

Yr wyneb y tu ôl i’r clinig lles beichiogrwydd yw’r fydwraig iechyd meddwl amenedigol, Ann-Marie Thomas (yn y llun).

Meddai: “Mae’n anhygoel bod ar y rhestr fer, ac mae wedi bod yn gyfle gwych i godi proffil y gwasanaeth a dangos yr hyn rydym wedi’i gyflawni ym Mae Abertawe.”

Rôl bydwragedd iechyd meddwl amenedigol yw pontio’r bwlch rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a mamolaeth.

Graddiodd Ann-Marie yn 2015 o Brifysgol Abertawe gyda gradd dosbarth cyntaf mewn bydwreigiaeth.

Aeth ymlaen i weithio mewn unedau obstetrig ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe, yna daeth yn fydwraig gymunedol.

Nawr, hi yw’r unig fydwraig iechyd meddwl amenedigol ym Mae Abertawe, sy’n gweithio gyda’r tîm amenedigol.

Dros y blynyddoedd, mae Ann-Marie wedi datblygu’r rôl a’r gwasanaeth i’r hyn ydyw heddiw.

Dywedodd: “Pan ddechreuais yn y rôl, nid oedd lle diogel i fenywod beichiog a oedd yn cael trafferth gydag emosiwn llethol, hwyliau isel a phryder wrth fynd trwy'r newid mawr hwn yn eu bywydau.

“O hyn, fe wnaethon ni greu’r clinig lles beichiogrwydd.”

Nod y clinig yw lleihau'r pryder neu'r trallod y gall mamau beichiog eu profi yn ystod beichiogrwydd.

Gall bydwraig atgyfeirio menywod beichiog y mae angen y cymorth ychwanegol hwn arnynt i’r clinig.

Mae’n cynnig chwe sesiwn, i fenywod beichiog drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt cyn dysgu am ystod o dechnegau ymdopi i helpu i leihau straen a phryder.

“Does dim llawer o sŵn o amgylch rhai o'r newidiadau emosiynol, seicolegol a chorfforol yn ystod y cyfnod amenedigol.

“Mae eu bywyd cyfan yn newid ac efallai na fyddant yn gallu defnyddio eu technegau ymdopi presennol tra'n feichiog.

“Mae’r clinig hwn yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gweld a’u clywed yn ystod eu beichiogrwydd.” meddai Ann-Marie.

Mae’r clinig lles beichiogrwydd yn rhan enfawr o’r gwasanaeth gan ei fod hefyd yn cefnogi’r bydwragedd.

Cyflwynwyd y clinig i ddechrau fel poster i gynhadledd Cymdeithas Marcé y DU ac Iwerddon yn Llundain ar ddiwedd 2023.

“Fe wnaethon ni gyflwyno poster am y clinig lles beichiogrwydd i arddangos yr hyn rydyn ni'n ei wneud a sut mae wedi lleihau lefelau trallod menywod beichiog yn sylweddol,” meddai Ann-Marie.

Enillodd y poster wobr ‘Poster y Dydd’ yn y gynhadledd yn Llundain, ac felly anogwyd Ann-Marie i’w gyflwyno i Gymdeithas Ryngwladol Marcé, a gynhelir yn Barcelona ym mis Medi 2024.

Enwebwyd y clinig ar gyfer gwobr RCM yn gynharach eleni ac mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y rownd derfynol.

Mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn cynnal y noson wobrwyo i arddangos yr holl waith ac arloesedd o fewn bydwreigiaeth.

Meddai: “Mae hwn yn gyfle gwych i godi proffil y clinig a bydwreigiaeth iechyd meddwl amenedigol.

“Byddwn hefyd yn cael y cyfle i rwydweithio a siarad â bydwragedd eraill o bob rhan o’r DU.

“Mae’n rhaid i ni roi cyfweliad ar gyfer y cam olaf cyn y noson wobrwyo pan fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi.”

Mae gwobrau RCM yn cael eu cynnal ar 18fed Hydref 2024 yn Llundain.

Ychwanegodd Ann-Marie: “Rwy’n gweld pwysigrwydd y clinig i fenywod a theuluoedd a faint mae’n eu helpu.”

“Y nod yn y dyfodol yw cyhoeddi ac achredu’r clinig fel bod pawb yn gwybod amdano.”

Ewch yma i ddarllen am y clinig lles yn un o’n datganiadau diweddar i’r wasg.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.