Mae Cerddorfa Ffilharmonia Abertawe wedi codi hyd at £1,000 o arian i Ysbyty Singleton.
Mae’r arian, a gasglwyd yn ystod cyngerdd Nadolig y gerddorfa yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe, wedi’i drosglwyddo i Apêl Cwtsh Clos Elusen Iechyd Bae Abertawe.
Nod yr apêl yw codi £160,000 i adnewyddu pum cartref oddi cartref ar gyfer teuluoedd â babanod sâl a mân yn Uned Gofal Dwys Newyddenedigol Singleton (UGDN).
Dywedodd arweinydd y gerddorfa, Jenny McAdie: “Rydym yn cynnal dau gyngerdd y flwyddyn, un yn yr haf ac un adeg y Nadolig gydag ysgol gynradd yn westeion arbennig.
“Rydyn ni fel arfer yn dewis elusen rydyn ni eisiau cael casgliad ar ei chyfer ar ddiwedd y cyngerdd – eleni Apêl Cwtsh Clos Bae Abertawe oedd hi.
“Roedd yn bersonol i un o'n haelodau, Libby Langlands, ac roeddem yn meddwl ei fod yn achos da i gael casgliad ar ei gyfer.'
“Fe wnaethon ni godi ychydig dros £500 trwy’r casgliad ond rydw i’n gweithio i Grŵp Bancio Lloyd’s ac mae gennym ni gynllun arian cyfatebol – maen nhw’n gallu cyfateb hyd at £500 bob blwyddyn am unrhyw arian sy’n cael ei godi ar gyfer elusen gofrestredig. Felly roedd ychydig dros £1,000 i gyd.”
Dywedodd Libby, sydd wedi gweld ei mab, Pip, a’i merch, Hazel, yn treulio amser mewn gwahanol UGDN, fod Apêl Cwtsh Clos yn agos at ei chalon.
Meddai: “Ganed fy mab yn 2015 a bu yn yr UGDN Ysbyty Singelton am ychydig o ddyddiau, dim ond i'w sefydlogi, ar ôl genedigaeth anodd.
“Mae fy nheulu’n byw’n weddol agos ond dwi’n gwybod mai pwrpas Cwtsh Clos yw cael cefnogaeth deuluol ar unwaith wrth law i’r rhai sy’n byw yn eithaf pell i ffwrdd – mae mor bwysig.
“Mae gen i brofiad o aros mewn llety teuluol yn Southampton – felly mae'n achos sy'n agos iawn at fy nghalon.
“Cafodd fy merch ei geni gyda chyflwr ar y galon yn 2013, tra’r oedden ni’n byw yn Salisbury ond roedd golau glas i lawr i'r UGDN Southampton. Fe dreulion ni fis cyntaf ei bywyd mewn llety rhieni i lawr yno, ac yn gwybod pa mor bwysig yw hynny.”
Cyn gynted ag y clywodd Libby am y gantores gyfansoddwraig o Abertawe Mal Pope - y treuliodd ei ŵyr amser yn yr UGDN Singleton - yn cytuno i fod yn llysgennad i'r apêl, gofynnodd i'r gerddorfa gefnogi'r achos.
Dywedodd: “Pan glywais i am y peth gyntaf a gweld stori Mal Pope, fe ddaeth yn swnian gyda fi ac aeth â fi yn ôl i'r amseroedd hynny. Roeddwn i'n meddwl, dyma gyfle i wneud rhywbeth sy'n wirioneddol werthfawr, ac yn ffodus cytunodd y gerddorfa i fynd ymlaen i wneud hynny.
“Cawsom gefnogaeth wych gan gôr Ysgol Gynradd Sgeti a’r holl rieni a theuluoedd a ddaeth i wylio’r cyngerdd ac a lwyddodd i godi arian ar gyfer yr ymgyrch.”
Dywedodd Cathy Stevens, swyddog codi arian yr elusen: “Rydym yn wirioneddol werthfawrogi’r gefnogaeth gan y gerddorfa ac roeddwn wrth fy modd yn mynychu eu cyngerdd.
“Roedd yn ddigwyddiad gwych ac yn gyfle gwych i ddiolch i bawb oedd yn bresennol. Mae ymdrechion codi arian fel hyn yn hollbwysig i’n hachos, ac rydym yn ddiolchgar i Libby am rannu ei stori i hybu ein hapêl.”
Gallwch gefnogi Apêl Cwtsh Clos drwy ymweld â’n tudalen JustGiving ar gyfer Cwtsh Clos yma , lle cewch ragor o wybodaeth.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.