Mae staff gofal sylfaenol wedi ymuno â sefydliadau cymunedol i godi ymwybyddiaeth o wiriadau iechyd blynyddol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.
Bu Grŵp Cydweithredol Clwstwr Lleol Penderi (LCC) yn gweithio gydag Eiriolaeth Eich Llais, sy’n darparu cymorth i bobl ag anableddau dysgu ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, i gynnal digwyddiad llesiant am ddim.
Mae'r LCC, sy'n cynnwys ardaloedd Brynhyfryd, Blaenymaes, Fforestfach, Gendros, Manselton, Penlan, Portmead, Ravenhill a Threboeth yn Abertawe, wedi cynnal digwyddiadau iechyd a lles yn y gymuned yn y gorffennol.
Wedi'i gynnal yn Cranes Pop Up Space, yng nghanol dinas Abertawe, nod y digwyddiad diweddaraf oedd helpu i wneud pobl ag anableddau dysgu yn ymwybodol o'r gwahanol adnoddau a sefydliadau sydd ar gael i'w cefnogi.
Yn y llun (chwith): Rhys Thomas, arweinydd ymgysylltu cymunedol Cyngor Abertawe, Clare James, Dirprwy Bennaeth Nyrsio Gofal Sylfaenol Bae Abertawe, Anna Tippett, rheolwr datblygu busnes a gweithredu LCC Penderi, Rebecca Morcom, hyrwyddwr nyrsys practis, a Bill Williams, cydlynydd prosiect Eiriolaeth Eich Llais.
Dywedodd Dr Sowndarya Shivaraj, Meddyg Teulu yng Nghanolfan Feddygol Fforestfach ac arweinydd LCC Penderi: “Rydym wedi cysylltu ag ystod o sefydliadau lleol sy’n cefnogi pobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd, fel Eiriolaeth Eich Llais a Bywydau Cymunedol.
“Mae’r clwstwr wedi ymrwymo i gyflwyno digwyddiadau iechyd a lles rheolaidd. Roeddem yn meddwl y byddai’n gyfle gwych i weithio gyda’r grwpiau cymunedol hyn i annog pobl ag anableddau dysgu i fynychu.
“Mae ein digwyddiadau yn cynnig cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu cymdeithasol, gweithgaredd corfforol, ac addysg ar fyw yn iach mewn ffordd hygyrch a chynhwysol.
“Trwy greu amgylchedd cefnogol, mae digwyddiadau llesiant yn grymuso unigolion ag anableddau dysgu i gymryd rhan weithredol yn eu hiechyd a’u hapusrwydd.”
Roedd y digwyddiad yn cynnwys nifer o weithgareddau trwy gydol y dydd, gan gynnwys arddangosiad coginio iach, yoga cadair a pherfformiad côr.
Yn y llun: Arddangosiad coginio.
Ychwanegodd Neil Williams, gweithiwr datblygu yn Eiriolaeth Eich Llais: “Roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar anableddau dysgu, bwyta’n iach a gofalu am ein hunain.
“Mae’n bwysig cael digwyddiadau fel hyn oherwydd nid yw llawer o bobl yn gwybod ble i fynd am gymorth a chefnogaeth.”
Gall unrhyw un 14 oed a throsodd sydd ar gofrestr anabledd dysgu eu meddyg gael archwiliad iechyd blynyddol am ddim unwaith y flwyddyn.
Mae'r apwyntiad yn helpu i ganfod unrhyw broblemau iechyd yn gynt ac yn gyfle i siarad am eu hiechyd a'u lles cyffredinol a sut i gadw'n iach.
Dywedodd Bill Williams, cydlynydd prosiect Eiriolaeth Eich Llais: “Buom yn bresennol i hyrwyddo gwiriadau iechyd blynyddol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.
“Cymerodd nifer o’n gwirfoddolwyr sydd ag anableddau dysgu ran yn frwd yn y gweithgareddau gan helpu i wneud y digwyddiad yn llwyddiant.
“Yr hyn rydyn ni'n ei ddarganfod yw nad oes digon o bobl yn cael eu harchwiliadau iechyd blynyddol.
“Os nad yw pobl yn mynychu’r gwiriadau, mae’n golygu nad ydyn nhw’n cael eu hannog i fyw bywyd iachach.”
Ychwanegodd Sowndarya: “Mae LCC Penderi wedi bod yn gweithio gyda’r tîm anableddau dysgu o’r bwrdd iechyd i archwilio sut y gallwn gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y gwiriadau iechyd blynyddol ar gyfer cleifion ag anableddau dysgu mewn ymarfer cyffredinol.
“Rydym yn gwybod bod pobl ag anableddau dysgu yn aml yn profi canlyniadau iechyd gwaeth ac yn wynebu rhwystrau sylweddol i gael mynediad at ofal iechyd.
“Mae archwiliadau iechyd blynyddol yn chwarae rhan hanfodol wrth nodi a mynd i’r afael â materion iechyd yn gynnar, gan sicrhau bod unigolion yn cael y cymorth a’r driniaeth sydd eu hangen arnynt.
“Mae’r gwiriadau hyn yn helpu i ganfod ystod o gyflyrau iechyd yn ogystal â rhoi cyfle i adolygu meddyginiaethau, trafod ffactorau ffordd o fyw, a chefnogi gofalwyr i reoli iechyd a lles cyffredinol.”
Yn y llun: Mynychodd staff Eiriolaeth Eich Llais y digwyddiad.
Mynychodd nifer o dimau byrddau iechyd y digwyddiad i gynnig gwybodaeth am amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau iechyd rhywiol, Helpa Fi i Stopio a’r gwasanaeth dieteteg.
Dywedodd Nicola Morris, prif fferyllydd LCC Penderi: “Rydym eisiau gwneud pobl yn ymwybodol o'r hyn sydd ar gael iddynt yn eu fferyllfa gymunedol leol.
“Mae gan rai fferyllfeydd ragnodwyr annibynnol sy’n gallu rhoi cyngor, atgyfeirio a rhagnodi rhywfaint o feddyginiaeth i gleifion.
“Mae fferyllfeydd cymunedol yn cynnal adolygiadau anadlwyr, yn cynnig gwasanaethau atal cenhedlu a’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin sy’n darparu triniaeth am ddim ar gyfer nifer o anhwylderau.”
Roedd amrywiaeth fawr o grwpiau a sefydliadau cymunedol yn bresennol hefyd, gan gynnwys Bowel Cancer UK, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe a rhagnodwyr cymdeithasol.
Mynychodd Philip Williams, arbenigwr atgyfeirio ymarfer corff yng Nghyngor Abertawe, y digwyddiad lles i hyrwyddo'r Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff.
Dywedodd: “Rydym yn cefnogi unrhyw un sy’n dod drwodd gan eu meddyg teulu gyda chyflyrau fel pwysedd gwaed uchel, gorbwysedd, gordewdra ac ati.
“Rydym wedi ein lleoli yn y gymuned ac yn rhedeg rhaglenni sy’n ceisio helpu eu cyflyrau.
“Rydym yn cynnal rhaglenni yn y gampfa, aerobeg dŵr, dosbarthiadau Tai Chi – amrywiaeth o raglenni wedi’u lleoli mewn canolfannau hamdden ar draws Abertawe.
“Rydym yn cael llawer o adborth cadarnhaol gan bobl bod y rhaglen yn helpu gyda’u cyflyrau.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.