Mae poen yn effeithio ar bawb weithiau, ond i rai mae'n rhan gyson o'u bywydau. Os mai dyna chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod, darllenwch ymlaen.
Ydych chi'n byw gyda phoen hirdymor sy'n eich cael i lawr ac yn eich dal yn ôl? Onid yw eich meddyginiaeth poen yn helpu cymaint ag yr oeddech wedi gobeithio? Peidiwch ag anobeithio – mae llawer y gellir ei wneud i'ch cefnogi i fyw eich bywyd gorau posibl, er gwaethaf eich poen parhaus.
Yma ym Mae Abertawe mae aelodau o’n Tîm Rheoli Meddyginiaethau a’n Tîm Poen Parhaus wedi lansio tudalennau gwe pwrpasol ar y cyd sy’n tynnu ynghyd ystod enfawr o gyngor ymarferol, gwybodaeth, fideos ac adnoddau eraill sydd i gyd wedi’u cynllunio’n benodol i gefnogi unrhyw un sy’n byw gyda phoen hirdymor.
Un o negeseuon allweddol y tîm yw nad meddyginiaeth poen yw'r unig opsiwn.
Ond trwy ddeall mwy am boen, a darganfod y llu o wahanol ffyrdd sydd wedi'u profi i helpu i'w reoli, mae gennych chi gyfleoedd gwirioneddol i gael mynediad at gefnogaeth i'ch helpu chi i fyw'n well gyda'r boen rydych chi'n ei brofi.
Ymwelwch â'r tudalennau gwe newydd “Gwella bywyd gyda phoen hirdymor” yma.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.