Mae tîm newydd i helpu i ddatblygu a chefnogi staff sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol wedi lansio ym Mae Abertawe.
Gall yr Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol ddarparu a chyfeirio staff gofal sylfaenol at amrywiaeth o gyfleoedd addysg a hyfforddiant i'w galluogi i wella eu sgiliau.
Ei nod yw helpu i ddatblygu’r gweithlu ym maes gofal sylfaenol, gan gynnwys meddygon teulu, fferyllwyr, optometryddion, deintyddion, nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (AHPs) a mwy.
Wrth wneud hynny, y gobaith yw y bydd staff yn cael eu cefnogi i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau ac ymyriadau yn y gymuned.
Yn y llun: Jessica Beer, swyddog datblygu addysg a hyfforddiant gofal sylfaenol a chymunedol yn yr Academi, Sharon Miller, Cyfarwyddwr Grŵp Gwasanaeth Cyswllt ar gyfer gwasanaethau sylfaenol a chymunedol, a Rhian Jones, rheolwr yr Academi.
Mae'r Academi yn un o saith a sefydlwyd mewn byrddau iechyd ledled Cymru, gan weithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Wrth i'w datblygiad barhau, y weledigaeth yw iddi ddod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer addysg a hyfforddiant i staff.
Bydd hefyd yn canolbwyntio ar ddenu, datblygu a chefnogi staff gofal sylfaenol trwy wreiddio rolau amlddisgyblaethol newydd ac annog cynllunio gweithlu.
Mae Sharon Miller, Cyfarwyddwr Grŵp Gwasanaeth Cyswllt ar gyfer gwasanaethau sylfaenol a chymunedol, wedi arwain y gwaith o sefydlu'r Academi ym Mae Abertawe.
Meddai: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi sefydlu’r academi newydd hon yn y bwrdd iechyd mewn partneriaeth ag AaGIC.
“Amcangyfrifir bod gofal sylfaenol yn delio â 90 y cant o gysylltiadau cleifion o fewn y GIG ac mae’n bwysig bod y gweithlu’n cael ei gefnogi.
“Rydym yn meithrin cysylltiadau cryf a pharhaus gyda rhanddeiliaid allweddol ac wedi dechrau darparu hyfforddiant ac addysg a fydd, gobeithio, yn amhrisiadwy i’n cydweithwyr.
“Rydym wedi darparu hyfforddiant ar gyfer dros 200 o gydweithwyr yn y flwyddyn gyntaf ac rydym ar y trywydd iawn i ddyblu hyn yn y flwyddyn gyfredol.
“Rydym hefyd wedi ychwanegu at dîm yr Academi gyda rôl arweiniol glinigol.”
Dywedodd Rhian Jones, Rheolwr Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol y bwrdd iechyd: “Nod yr Academi yw cynyddu cyfleoedd addysg a hyfforddiant i’r gweithlu gofal sylfaenol a chymunedol.
“Ein ffocws yw diwallu anghenion staff ym Mae Abertawe a’r gobaith yw y bydd yn helpu i gadw staff, yn ogystal ag uwchsgilio.”
Gall practisau a thimau gysylltu â'r Academi yn unigol i drafod cyfleoedd addysg a hyfforddiant.
Gallant hefyd geisio arweiniad ar ddatblygu ac ehangu eu gweithlu trwy gyflwyno rolau newydd neu uwchsgilio aelodau eu tîm.
“Rydym hefyd yn cynnig cymorth i helpu i ddatblygu gweithlu amlddisgyblaethol,” ychwanegodd Rhian.
“Pe bai practis yn cysylltu â ni a dweud eu bod am gyflwyno rôl newydd, fel ffisiotherapydd er enghraifft, gallem eu cefnogi a nodi pa hyfforddiant sydd ei angen arnynt.”
Bydd yr Academi yn gweithio gydag AaGIC i greu pecynnau cymorth gyda'r nod o helpu cyflogwyr gofal sylfaenol gyda'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt o ran rheoli timau.
Bydd yr adnoddau yn helpu i hwyluso datblygiad timau aml-broffesiynol.
Mae nifer o sesiynau hyfforddi eisoes wedi'u cynnal, gyda meddygon teulu, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a nyrsys ymhlith yr aelodau staff sydd wedi cymryd rhan.
Mae aelodau anghlinigol o staff sy'n gweithio mewn practisau meddygon teulu, practisau deintyddol, fferyllfeydd cymunedol ac optometryddion hefyd wedi elwa o sesiynau.
Dywedodd Jessica Beer, Swyddog Datblygu Addysg a Hyfforddiant Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn yr Academi: “Rydym wedi defnyddio cyllid grŵp gwasanaeth sylfaenol, cymunedol a therapïau ac AaGIC i gefnogi a chyflwyno addysg a hyfforddiant i staff.
“Mae’r pynciau dan sylw wedi cynnwys gordewdra a rheoli pwysau, anawsterau dysgu, iechyd menywod a diweddariadau gan feddygon teulu.”
Un aelod o staff a gwblhaodd hyfforddiant yn ddiweddar diolch i'r Academi yw Dr Colette McNally, partner meddyg teulu ym Meddygfa Castell-nedd a Chyfarwyddwr Addysg Meddygon Teulu Ôl-raddedig yn AaGIC.
“Roedd yr hyfforddiant a gynigiwyd i mi fel meddyg teulu lleol gan yr Academi Gofal Sylfaenol yn wych,” meddai.
“Cefais fynediad am ddim i gwrs diwrnod llawn ar bynciau llosg meddygon teulu ac iechyd menywod.
“Roedd yr ansawdd yn rhagorol ac oherwydd ei fod ar-lein roedd ar gael i ymgysylltu ag ef mewn cyfnodau bach dros chwe mis.”
Mae'r Academi hefyd wedi cyflwyno dwy rownd o'r Sefydliad Nyrsys Ymarfer Cyffredinol, sy'n cefnogi nyrsys sy'n newydd i ofal sylfaenol.
Mae lleoedd wedi'u hariannu'n llawn ar fodiwlau prifysgol megis cyrsiau sgiliau craidd ar gyfer gofal sylfaenol a mân salwch hefyd wedi'u sicrhau.
Dywedodd Rhian: “Wrth edrych ymlaen, rydym yn awyddus i barhau i ddatblygu ac ymgysylltu â staff a rhanddeiliaid i helpu i ddiwallu anghenion esblygol y gymuned.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd hyfforddi ac addysg sydd ar gael, cysylltwch â sbu.pccacademy@wales.nhs.uk
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.